xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 11LL+CRHYDDHAD BONDIAU BUDDSODDI CYLLID ARALL

RHAN 4LL+CRHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL

Rhyddhad ar gyfer y trafodiad cyntafLL+C

13(1)Mae’r trafodiad cyntaf wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir pob un o amodau 1 i 3 cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith.

(2)Pan fo’r buddiant cymwys mewn tir yn cael ei ddisodli fel yr ased bond gan fuddiant mewn tir arall, mae is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff 18 (disodli ased).

(3)Mae is-baragraff (1) hefyd yn ddarostyngedig i baragraff 17 (nid yw rhyddhad ar gael pan fo deiliad bond yn caffael rheolaeth dros ased sylfaenol).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 11 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 11 para. 13 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Tynnu rhyddhad yn ôl ar gyfer y trafodiad cyntafLL+C

14(1)Mae rhyddhad o dan baragraff 13 wedi ei dynnu’n ôl—

(a)os yw B yn trosglwyddo’r buddiant cymwys mewn tir i A heb fod amodau 5 na 6 wedi eu bodloni,

(b)os daw’r cyfnod a grybwyllir ym mharagraff 12(b) (neu a ragnodir oddi tano) i ben a bod unrhyw un o’r amodau hynny heb ei fodloni, neu

(c)os daw’n amlwg unrhyw bryd am unrhyw reswm arall na ellir bodloni unrhyw un o amodau 5 i 7 neu na chaiff ei fodloni.

(2)Mae rhyddhad o dan baragraff 13 hefyd wedi ei dynnu’n ôl oni fodlonir amod 4.

(3)Pan gaiff rhyddhad o dan baragraff 13 ei dynnu’n ôl, swm y dreth sydd i’w godi ar y trafodiad cyntaf yw’r dreth y byddid wedi ei chodi oni bai am y rhyddhad pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad wedi bod yn werth marchnadol y buddiant cymwys ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 11 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 11 para. 14 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhyddhad ar gyfer yr ail drafodiadLL+C

15(1)Mae’r ail drafodiad wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os bodlonir pob un o amodau 1 i 7, a

(b)os cydymffurfir â darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT mewn perthynas â’r trafodiad cyntaf.

(2)Pan fo’r buddiant cymwys mewn tir yn cael ei ddisodli fel yr ased bond gan fuddiant mewn tir arall, mae is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff 18 (disodli ased).

(3)Mae is-baragraff (1) hefyd yn ddarostyngedig i baragraff 17 (nid yw rhyddhad ar gael pan fo deiliad bond yn caffael rheolaeth dros ased sylfaenol).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 11 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 11 para. 15 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Gollwng pridiant tir pan fodlonir amodau ar gyfer rhyddhadLL+C

16Os yw B, ar ôl y dyddiad y mae’r ail drafodiad yn cael effaith, yn darparu’r dystiolaeth ragnodedig i ACC bod pob un o amodau 1 i 3 a 5 i 7 wedi eu bodloni, mae’r tir yn peidio â bod yn ddarostyngedig i’r pridiant tir a gofrestrwyd yn unol ag amod 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 11 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8Atod. 11 para. 16 mewn grym ar 18.10.2017 at ddibenion penodedig gan O.S. 2017/953, ergl. 2(e)(iii)

I9Atod. 11 para. 16 mewn grym ar 1.4.2018 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhyddhad heb fod ar gael pan fo deiliad bond yn caffael rheolaeth dros ased sylfaenolLL+C

17(1)Nid yw rhyddhad a ddarperir o dan baragraff 13 neu 15 (gan gynnwys pan ddarperir y rhyddhad o dan y naill baragraff neu’r llall fel y’u haddesir gan baragraff 18) ar gael os caiff rheolaeth dros yr ased sylfaenol ei gaffael gan—

(a)y deiliad bond, neu

(b)grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig.

(2)Mae deiliad bond (“DB”), neu grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig, yn caffael rheolaeth dros yr ased sylfaenol—

(a)os yw hawliau deiliaid bond o dan fond buddsoddi cyllid arall yn cynnwys hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond, a

(b)os yw DB, neu’r grŵp, yn caffael hawliau digonol i alluogi DB, neu aelodau’r grŵp yn gweithredu ar y cyd, i arfer hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond gan eithrio unrhyw ddeiliaid bond eraill.

(3)Os yw DB, neu’r grŵp, yn caffael rheolaeth dros yr ased sylfaenol cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad cyntaf yn cael effaith, effaith is-baragraff (1) yw nad yw paragraff 13 yn gymwys i’r trafodiad hwnnw.

(4)Os yw DB, neu’r grŵp, yn caffael rheolaeth dros yr ased sylfaenol ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw a bod amodau 1 i 3 wedi eu bodloni, effaith is-baragraff (1) yw y caiff unrhyw ryddhad o dan baragraff 13 ei drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl o dan baragraff 14.

(5)Ond nid yw is-baragraff (1) yn rhwystro’r rhyddhadau rhag bod ar gael yn y naill neu’r llall o’r achosion a ganlyn.

(6)Yr achos cyntaf yw—

(a)ar yr adeg y caffaelwyd yr hawliau, nid oedd DB (neu’r holl ddeiliaid bond cysylltiedig) yn gwybod, ac nid oedd ganddo neu ganddynt unrhyw reswm i amau bod y caffaeliad yn galluogi arfer hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond, a

(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i DB (neu unrhyw un neu ragor o’r deiliaid bond) ddod yn ymwybodol bod y caffaeliad yn galluogi arfer yr hawliau hynny, bod DB (neu rai deiliaid bond neu’r holl ddeiliaid bond) yn trosglwyddo hawliau digonol fel na fo’n bosibl arfer yr hawliau hynny mwyach.

(7)Yr ail achos yw—

(a)pan fo DB yn gwarantu cynnig cyhoeddus o hawliau o dan y bond, a

(b)pan na fo DB yn arfer yr hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond.

(8)Yn y paragraff hwn, ystyr “gwarantu”, mewn perthynas â chynnig hawliau o dan fond, yw cytuno i wneud taliadau cyfalaf o dan y bond os nad yw personau eraill yn gwneud y taliadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 11 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I11Atod. 11 para. 17 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3