ATODLEN 11RHYDDHAD BONDIAU BUDDSODDI CYLLID ARALL
RHAN 3AMODAU AR GYFER GWEITHREDU RHYDDHADAU ETC.
7Amod 2
Amod 2 yw—
a
bod B, fel dyroddwr bond, yn ymrwymo i fond buddsoddi cyllid arall (pa un ai cyn neu ar ôl ymrwymo i’r trefniadau a grybwyllir yn amod 1), a
b
bod y buddiant mewn tir y mae’r trefniadau a grybwyllir yn amod 1 yn ymwneud â hwy yn cael ei ddal gan B fel ased bond.