Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Tynnu rhyddhad yn ôl ar gyfer y trafodiad cyntafLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

14(1)Mae rhyddhad o dan baragraff 13 wedi ei dynnu’n ôl—

(a)os yw B yn trosglwyddo’r buddiant cymwys mewn tir i A heb fod amodau 5 na 6 wedi eu bodloni,

(b)os daw’r cyfnod a grybwyllir ym mharagraff 12(b) (neu a ragnodir oddi tano) i ben a bod unrhyw un o’r amodau hynny heb ei fodloni, neu

(c)os daw’n amlwg unrhyw bryd am unrhyw reswm arall na ellir bodloni unrhyw un o amodau 5 i 7 neu na chaiff ei fodloni.

(2)Mae rhyddhad o dan baragraff 13 hefyd wedi ei dynnu’n ôl oni fodlonir amod 4.

(3)Pan gaiff rhyddhad o dan baragraff 13 ei dynnu’n ôl, swm y dreth sydd i’w godi ar y trafodiad cyntaf yw’r dreth y byddid wedi ei chodi oni bai am y rhyddhad pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad wedi bod yn werth marchnadol y buddiant cymwys ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 11 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 11 para. 14 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3