xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 11LL+CRHYDDHAD BONDIAU BUDDSODDI CYLLID ARALL

RHAN 1LL+CRHAGARWEINIAD

TrosolwgLL+C

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhad yn achos trafodiadau tir penodol sy’n gysylltiedig â bondiau buddsoddi cyllid arall.

(2)Mae’r Atodlen wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae’r Rhan hon yn cynnwys diffiniadau o dermau allweddol (paragraff 2);

(b)mae Rhan 2 yn darparu nad yw digwyddiadau penodol sy’n ymwneud â bond buddsoddi cyllid arall i’w trin fel trafodiadau trethadwy (paragraff 3) ac yn darparu ar gyfer eithriadau i hynny (paragraff 4);

(c)mae Rhan 3 yn nodi’r amodau cyffredinol sy’n gymwys i weithrediad y darpariaethau rhyddhad yn Rhan 4;

(d)mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer rhyddhad ar gyfer trafodiadau penodol (paragraffau 13 a 15) yn ogystal â gwneud darpariaeth ynghylch tynnu rhyddhad yn ôl (paragraff 14) ac amgylchiadau pan na fo rhyddhad ar gael (paragraff 17);

(e)mae Rhan 5 yn nodi sut i gymhwyso’r darpariaethau rhyddhad mewn achosion pan fo’r ased sylfaenol yn cael ei ddisodli gan ased arall (paragraff 18) ac yn gosod dyletswydd ar ACC i hysbysu’r Prif Gofrestrydd Tir pan gaiff pridiant tir a gofrestrir o dan yr Atodlen hon ei gollwng (paragraff 19).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 11 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 11 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

DehongliLL+C

2Yn yr Atodlen hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 11 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 11 para. 2 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/953, ergl. 2(e)(i)

RHAN 2LL+CNID YW DYRODDI, TROSGLWYDDO NAC ADBRYNU HAWLIAU O DAN FOND I’W TRIN FEL TRAFODIADAU TRETHADWY

Deiliad bond ddim i’w drin fel pe bai ganddo fuddiant yn asedau’r bondLL+C

3At ddibenion y Ddeddf hon—

(a)nid yw’r deiliad bond o dan fond buddsoddi cyllid arall i’w drin fel bod ganddo fuddiant yn asedau’r bond;

(b)nid yw’r dyroddwr bond o dan fond o’r fath i’w drin fel ymddiriedolwr asedau’r bond.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 11 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 11 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trin deiliad bond fel pe bai ganddo fuddiant os caffaelir rheolaeth dros ased sylfaenolLL+C

4(1)Nid yw paragraff 3 yn gymwys os caffaelir rheolaeth dros yr ased sylfaenol gan—

(a)deiliad bond, neu

(b)grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig.

(2)Mae deiliad bond (“DB”), neu grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig, yn caffael rheolaeth dros yr ased sylfaenol—

(a)os yw hawliau deiliaid bond o dan fond buddsoddi cyllid arall yn cynnwys hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond, a

(b)os yw DB, neu’r grŵp, yn caffael hawliau digonol i alluogi DB, neu aelodau’r grŵp yn gweithredu ar y cyd, i arfer hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond gan eithrio unrhyw ddeiliaid bond eraill.

(3)Ond nid yw is-baragraff (1) yn gweithredu i ddatgymhwyso paragraff 3 yn y naill na’r llall o’r achosion a ganlyn.

(4)Yr achos cyntaf yw—

(a)ar yr adeg y caffaelwyd yr hawliau nid oedd DB (neu’r holl ddeiliaid bond cysylltiedig) yn gwybod, ac nid oedd ganddo (neu ganddynt) unrhyw reswm i amau bod y caffaeliad yn galluogi arfer hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond, a

(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i DB (neu unrhyw un neu ragor o’r deiliaid bond) ddod yn ymwybodol bod y caffaeliad yn galluogi arfer yr hawliau hynny, bod DB (neu rai deiliaid bond neu’r holl ddeiliaid bond) yn trosglwyddo hawliau digonol fel na fo’n bosibl arfer yr hawliau hynny mwyach.

(5)Yr ail achos yw—

(a)pan fo DB yn tanysgrifennu cynnig cyhoeddus o hawliau o dan y bond, a

(b)pan na fo DB yn arfer hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond.

(6)Yn y paragraff hwn, ystyr “gwarantu”, mewn perthynas â chynnig hawliau o dan fond, yw cytuno i wneud taliadau cyfalaf o dan y bond os nad yw personau eraill yn gwneud y taliadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 11 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8Atod. 11 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

RHAN 3LL+CAMODAU AR GYFER GWEITHREDU RHYDDHADAU ETC.

RhagarweiniadLL+C

5Mae’r Rhan hon o’r Atodlen hon yn diffinio amodau 1 i 7 at ddibenion paragraffau 13 i 16 a 18.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 11 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I10Atod. 11 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Amod 1LL+C

6Amod 1 yw bod un person (“A”) a pherson arall (“B”) yn ymrwymo i drefniadau—

(a)y mae A yn trosglwyddo buddiant cymwys mewn tir i B (“y trafodiad cyntaf”) oddi tanynt, a

(b)y mae A ac B yn cytuno oddi tanynt, pan fo B yn peidio â dal y buddiant fel y crybwyllir ym mharagraff 7(b), y bydd B yn trosglwyddo’r buddiant i A.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 11 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I12Atod. 11 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Amod 2LL+C

7Amod 2 yw—

(a)bod B, fel dyroddwr bond, yn ymrwymo i fond buddsoddi cyllid arall (pa un ai cyn neu ar ôl ymrwymo i’r trefniadau a grybwyllir yn amod 1), a

(b)bod y buddiant mewn tir y mae’r trefniadau a grybwyllir yn amod 1 yn ymwneud â hwy yn cael ei ddal gan B fel ased bond.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 11 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I14Atod. 11 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Amod 3LL+C

8(1)Amod 3 yw, at ddiben cynhyrchu incwm neu enillion ar gyfer y bond buddsoddi cyllid arall—

(a)bod B ac A yn ymrwymo i gytundeb adlesu, neu

(b)bod unrhyw amod arall neu amodau eraill a ragnodir wedi ei fodloni neu wedi eu bodloni.

(2)At ddibenion amod 3, mae B ac A yn ymrwymo i gytundeb adlesu os yw B yn rhoi i A, allan o’r buddiant a drosglwyddir i B—

(a)les (os yw’r buddiant a drosglwyddir yn rhydd-ddaliad), neu

(b)is-les (os yw’r buddiant a drosglwyddir yn lesddaliad).

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 11 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I16Atod. 11 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Amod 4LL+C

9(1)Amod 4 yw bod B, cyn diwedd y cyfnod o 120 ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad cyntaf yn cael effaith, yn darparu’r dystiolaeth ragnodedig i ACC bod pridiant tir cyfreithiol boddhaol wedi ei gofnodi yn y gofrestr teitl a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (p. 9).

(2)Mae pridiant tir yn foddhaol at ddibenion amod 4 os yw—

(a)yn bridiant tir cyntaf ar y buddiant a drosglwyddir i B,

(b)o blaid ACC, ac

(c)ar gyfer cyfanswm—

(i)y swm o dreth a fyddai (oni bai am baragraff 13) i’w godi ar y trafodiad cyntaf pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad hwnnw wedi bod yn werth marchnadol y buddiant ar y dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith, a

(ii)unrhyw log a chosbau a fyddai am y tro yn daladwy ar y swm hwnnw o dreth neu mewn perthynas ag ef, pe bai’r dreth wedi bod yn daladwy (ond heb ei thalu) mewn cysylltiad â’r trafodiad cyntaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 11 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I18Atod. 11 para. 9(1) mewn grym ar 18.10.2017 at ddibenion penodedig gan O.S. 2017/953, ergl. 2(e)(ii)

I19Atod. 11 para. 9(1) mewn grym ar 1.4.2018 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2018/34, ergl. 3

I20Atod. 11 para. 9(2) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Amod 5LL+C

10Amod 5 yw nad yw cyfanswm y taliadau cyfalaf a wneir i B cyn terfynu’r bond yn llai na 60% o werth marchnadol y buddiant yn y tir ar y dyddiad y mae’r trafodiad cyntaf yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 11 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I22Atod. 11 para. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Amod 6LL+C

11Amod 6 yw bod B yn dal y buddiant yn y tir fel ased bond hyd derfyn y bond.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 11 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I24Atod. 11 para. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Amod 7LL+C

12Amod 7 yw—

(a)bod B, cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r buddiant yn y tir yn peidio â chael ei ddal fel ased bond, yn trosglwyddo’r buddiant i A (“yr ail drafodiad”), a

(b)y rhoddir effaith i’r ail drafodiad o fewn 10 mlynedd (neu unrhyw gyfnod arall a ragnodir) i’r trafodiad cyntaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 11 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I26Atod. 11 para. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

RHAN 4LL+CRHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL

Rhyddhad ar gyfer y trafodiad cyntafLL+C

13(1)Mae’r trafodiad cyntaf wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir pob un o amodau 1 i 3 cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith.

(2)Pan fo’r buddiant cymwys mewn tir yn cael ei ddisodli fel yr ased bond gan fuddiant mewn tir arall, mae is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff 18 (disodli ased).

(3)Mae is-baragraff (1) hefyd yn ddarostyngedig i baragraff 17 (nid yw rhyddhad ar gael pan fo deiliad bond yn caffael rheolaeth dros ased sylfaenol).

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 11 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I28Atod. 11 para. 13 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Tynnu rhyddhad yn ôl ar gyfer y trafodiad cyntafLL+C

14(1)Mae rhyddhad o dan baragraff 13 wedi ei dynnu’n ôl—

(a)os yw B yn trosglwyddo’r buddiant cymwys mewn tir i A heb fod amodau 5 na 6 wedi eu bodloni,

(b)os daw’r cyfnod a grybwyllir ym mharagraff 12(b) (neu a ragnodir oddi tano) i ben a bod unrhyw un o’r amodau hynny heb ei fodloni, neu

(c)os daw’n amlwg unrhyw bryd am unrhyw reswm arall na ellir bodloni unrhyw un o amodau 5 i 7 neu na chaiff ei fodloni.

(2)Mae rhyddhad o dan baragraff 13 hefyd wedi ei dynnu’n ôl oni fodlonir amod 4.

(3)Pan gaiff rhyddhad o dan baragraff 13 ei dynnu’n ôl, swm y dreth sydd i’w godi ar y trafodiad cyntaf yw’r dreth y byddid wedi ei chodi oni bai am y rhyddhad pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad wedi bod yn werth marchnadol y buddiant cymwys ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 11 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I30Atod. 11 para. 14 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhyddhad ar gyfer yr ail drafodiadLL+C

15(1)Mae’r ail drafodiad wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os bodlonir pob un o amodau 1 i 7, a

(b)os cydymffurfir â darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT mewn perthynas â’r trafodiad cyntaf.

(2)Pan fo’r buddiant cymwys mewn tir yn cael ei ddisodli fel yr ased bond gan fuddiant mewn tir arall, mae is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff 18 (disodli ased).

(3)Mae is-baragraff (1) hefyd yn ddarostyngedig i baragraff 17 (nid yw rhyddhad ar gael pan fo deiliad bond yn caffael rheolaeth dros ased sylfaenol).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 11 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I32Atod. 11 para. 15 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Gollwng pridiant tir pan fodlonir amodau ar gyfer rhyddhadLL+C

16Os yw B, ar ôl y dyddiad y mae’r ail drafodiad yn cael effaith, yn darparu’r dystiolaeth ragnodedig i ACC bod pob un o amodau 1 i 3 a 5 i 7 wedi eu bodloni, mae’r tir yn peidio â bod yn ddarostyngedig i’r pridiant tir a gofrestrwyd yn unol ag amod 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 11 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I34Atod. 11 para. 16 mewn grym ar 18.10.2017 at ddibenion penodedig gan O.S. 2017/953, ergl. 2(e)(iii)

I35Atod. 11 para. 16 mewn grym ar 1.4.2018 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhyddhad heb fod ar gael pan fo deiliad bond yn caffael rheolaeth dros ased sylfaenolLL+C

17(1)Nid yw rhyddhad a ddarperir o dan baragraff 13 neu 15 (gan gynnwys pan ddarperir y rhyddhad o dan y naill baragraff neu’r llall fel y’u haddesir gan baragraff 18) ar gael os caiff rheolaeth dros yr ased sylfaenol ei gaffael gan—

(a)y deiliad bond, neu

(b)grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig.

(2)Mae deiliad bond (“DB”), neu grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig, yn caffael rheolaeth dros yr ased sylfaenol—

(a)os yw hawliau deiliaid bond o dan fond buddsoddi cyllid arall yn cynnwys hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond, a

(b)os yw DB, neu’r grŵp, yn caffael hawliau digonol i alluogi DB, neu aelodau’r grŵp yn gweithredu ar y cyd, i arfer hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond gan eithrio unrhyw ddeiliaid bond eraill.

(3)Os yw DB, neu’r grŵp, yn caffael rheolaeth dros yr ased sylfaenol cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad cyntaf yn cael effaith, effaith is-baragraff (1) yw nad yw paragraff 13 yn gymwys i’r trafodiad hwnnw.

(4)Os yw DB, neu’r grŵp, yn caffael rheolaeth dros yr ased sylfaenol ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw a bod amodau 1 i 3 wedi eu bodloni, effaith is-baragraff (1) yw y caiff unrhyw ryddhad o dan baragraff 13 ei drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl o dan baragraff 14.

(5)Ond nid yw is-baragraff (1) yn rhwystro’r rhyddhadau rhag bod ar gael yn y naill neu’r llall o’r achosion a ganlyn.

(6)Yr achos cyntaf yw—

(a)ar yr adeg y caffaelwyd yr hawliau, nid oedd DB (neu’r holl ddeiliaid bond cysylltiedig) yn gwybod, ac nid oedd ganddo neu ganddynt unrhyw reswm i amau bod y caffaeliad yn galluogi arfer hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond, a

(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i DB (neu unrhyw un neu ragor o’r deiliaid bond) ddod yn ymwybodol bod y caffaeliad yn galluogi arfer yr hawliau hynny, bod DB (neu rai deiliaid bond neu’r holl ddeiliaid bond) yn trosglwyddo hawliau digonol fel na fo’n bosibl arfer yr hawliau hynny mwyach.

(7)Yr ail achos yw—

(a)pan fo DB yn gwarantu cynnig cyhoeddus o hawliau o dan y bond, a

(b)pan na fo DB yn arfer yr hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond.

(8)Yn y paragraff hwn, ystyr “gwarantu”, mewn perthynas â chynnig hawliau o dan fond, yw cytuno i wneud taliadau cyfalaf o dan y bond os nad yw personau eraill yn gwneud y taliadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 11 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I37Atod. 11 para. 17 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

RHAN 5LL+CATODOL

Disodli asedLL+C

18(1)Mae paragraffau 13 i 16 yn gymwys gyda’r addasiadau a nodir yn is-baragraff (2) neu (yn ôl y digwydd) (3)—

(a)os bodlonir amodau 1 i 3 a 7 mewn perthynas â buddiant mewn tir (“y tir gwreiddiol”),

(b)os yw B yn peidio â dal y tir gwreiddiol fel ased bond (ac yn unol â hynny, yn ei drosglwyddo i A) cyn terfyn y bond buddsoddi cyllid arall,

(c)os yw A a B yn ymrwymo i drefniadau pellach sy’n bodloni amod 1 mewn perthynas â buddiant mewn tir arall (“y tir amnewid”), a

(d)os yw gwerth y buddiant yn y tir amnewid ar yr adeg y mae A yn ei drosglwyddo i B yn fwy na gwerth marchnadol y buddiant yn y tir gwreiddiol ar y dyddiad y mae’r trafodiad cyntaf sy’n ymwneud â’r tir gwreiddiol yn cael effaith, neu’n hafal â’r gwerth marchnadol hwnnw.

(2)Mewn perthynas â’r tir gwreiddiol, nid oes angen bodloni amod 6 os bodlonir amodau 1, 2, 3, 6 a 7 (fel y’u haddesir gan is-baragraff (3)) mewn perthynas â’r tir amnewid.

(3)O ran y tir amnewid—

(a)mae amod 5 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at y buddiant mewn tir yn gyfeiriad at y buddiant yn y tir gwreiddiol, a

(b)mae amod 7 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad ym mharagraff 12(b) at y trafodiad cyntaf yn gyfeiriad at y trafodiad cyntaf sy’n ymwneud â’r tir gwreiddiol.

(4)Os yw’r tir amnewid yng Nghymru, mae’r tir gwreiddiol yn peidio â bod yn ddarostyngedig i’r pridiant tir a gofrestrwyd yn unol ag amod 4 pan fo—

(a)B yn darparu’r dystiolaeth ragnodedig i ACC bod amod 7 wedi ei fodloni mewn perthynas â’r tir gwreiddiol, a

(b)amod 4 wedi ei fodloni mewn perthynas â’r tir amnewid.

(5)Os nad yw’r tir amnewid yng Nghymru, mae’r tir gwreiddiol yn peidio â bod yn ddarostyngedig i’r pridiant tir a gofrestrwyd yn unol ag amod 4 pan fydd B yn darparu’r dystiolaeth ragnodedig i ACC bod—

(a)amod 7 wedi ei fodloni mewn perthynas â’r tir gwreiddiol, a

(b)pob un o amodau 1 i 3 wedi eu bodloni mewn perthynas â’r tir amnewid.

(6)Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys pan fo’r tir amnewid yn cael ei ddisodli gan dir cyfnewid pellach; ac os digwydd hynny—

(a)mae cyfeiriadau at y tir gwreiddiol (ac eithrio’r rheini yn is-baragraff (3)) i’w darllen fel cyfeiriadau at y tir amnewid, a

(b)mae cyfeiriadau at y tir amnewid i’w darllen fel cyfeiriadau at y tir amnewid pellach.

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 11 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I40Atod. 11 para. 18(4)(a)(5) mewn grym ar 18.10.2017 at ddibenion penodedig gan O.S. 2017/953, ergl. 2(e)(iv)

I41Atod. 11 para. 18(4)(a)(5) mewn grym ar 1.4.2018 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2018/34, ergl. 3

ACC i hysbysu’r Cofrestrydd ynghylch gollwng pridiant tirLL+C

19(1)Pan gaiff pridiant tir ei ollwng yn unol â pharagraff 16 neu 18(4) neu (5), rhaid i ACC hysbysu’r Prif Gofrestrydd Tir ynghylch y gollyngiad hwnnw yn unol â rheolau cofrestru tir (o fewn ystyr “land registration rules” yn Neddf Cofrestru Tir 2002 (p.9)).

(2)Rhaid i ACC wneud hynny o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae B yn darparu’r dystiolaeth o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 11 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I43Atod. 11 para. 19 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3