RHAN 8DEHONGLI A DARPARIAETHAU TERFYNOL

Dehongli

67Ystyr treth

Ac eithrio fel y darperir fel arall, yn y Ddeddf hon, ystyr “treth” yw treth trafodiadau tir.

68Ystyr prif fuddiant mewn tir

Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “prif fuddiant” mewn tir yn gyfeiriadau at—

a

ystad mewn ffi syml absoliwt, neu

b

cyfnod o flynyddoedd absoliwt,

pa un a yw’n bodoli mewn cyfraith neu mewn ecwiti.

69Ystyr testun a phrif destun

Ac eithrio fel y darperir fel arall, mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “testun” trafodiad tir yn gyfeiriadau at y buddiant trethadwy a gaffaelir (y “prif destun”), ynghyd ag unrhyw fuddiant neu hawl sy’n perthyn iddo neu sy’n ymwneud ag ef a gaffaelir gydag ef.

70Ystyr gwerth marchnadol

At ddibenion y Ddeddf hon, mae “gwerth marchnadol” i’w bennu yn yr un modd ag y pennir “market value” at ddibenion Deddf Trethiant Enillion Trethadwy 1992 (p. 12) (gweler adrannau 272 i 274 o’r Ddeddf honno).

71Ystyr y dyddiad y mae trafodiad yn cael effaith

Ac eithrio fel y darperir fel arall, y dyddiad y mae trafodiad tir yn cael effaith at ddibenion y Ddeddf hon yw’r dyddiad cwblhau.

72Ystyr eiddo preswyl

1

Yn y Ddeddf hon, ystyr “eiddo preswyl” yw—

a

adeilad a ddefnyddir fel un annedd neu ragor, neu sy’n addas i’w ddefnyddio felly, neu sydd yn y broses o gael ei godi neu ei addasu i’w ddefnyddio felly;

b

tir sy’n ardd neu’n diroedd, neu’n ffurfio rhan o ardd neu diroedd adeilad o fewn paragraff (a) (gan gynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ar dir o’r fath);

c

buddiant mewn tir neu hawl dros dir sy’n bodoli er budd adeilad o fewn paragraff (a) neu dir o fewn paragraff (b).

2

Yn unol â hynny, ystyr “eiddo amhreswyl” yw unrhyw eiddo nad yw’n eiddo preswyl.

3

Ond gweler y rheol yn is-adran (9) yn achos trafodiad sy’n ymwneud â 6 neu ragor o anheddau.

4

At ddibenion is-adran (1), mae adeilad a ddefnyddir at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn yn cael ei ddefnyddio fel annedd—

a

llety preswyl ar gyfer disgyblion ysgol;

b

llety preswyl ar gyfer myfyrwyr, ac eithrio llety o fewn is-adran (5)(b);

c

llety preswyl ar gyfer aelodau’r lluoedd arfog;

d

sefydliad sy’n unig breswylfa neu’n brif breswylfa o leiaf 90% o’i breswylwyr ac nad yw o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (f) o is-adran (5).

5

At ddibenion is-adran (1), nid yw adeilad a ddefnyddir at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn yn cael ei ddefnyddio fel annedd—

a

cartref neu sefydliad arall sy’n darparu llety preswyl ar gyfer plant;

b

neuadd breswyl myfyrwyr addysg bellach neu addysg uwch;

c

cartref neu sefydliad arall sy’n darparu llety preswyl â gofal personol ar gyfer personau sydd angen gofal personol oherwydd henaint, anabledd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau yn y gorffennol neu ar hyn o bryd neu anhwylder meddwl yn y gorffennol neu ar hyn o bryd;

d

ysbyty neu hosbis;

e

carchar neu sefydliad tebyg;

f

gwesty neu sefydliad tebyg.

6

Pan fo adeilad yn cael ei ddefnyddio at ddiben a bennir yn is-adran (5), rhaid diystyru ei addasrwydd ar gyfer unrhyw ddefnydd arall at ddibenion is-adran (1)(a).

7

Pan fo adeilad nad yw’n cael ei ddefnyddio yn addas i’w ddefnyddio at o leiaf un o’r dibenion a bennir yn is-adran (4) ac o leiaf un o’r dibenion hynny a bennir yn is-adran (5)⁠—

a

os oes un defnydd o’r fath y mae’r adeilad yn fwyaf addas ar ei gyfer, neu os yw’r defnyddiau y mae’n fwyaf addas ar eu cyfer oll wedi eu pennu yn yr un is-adran, rhaid diystyru ei addasrwydd ar gyfer unrhyw ddefnydd arall at ddibenion is-adran (1)(a),

b

fel arall, mae’r adeilad i’w drin at y dibenion hynny fel pe bai’n addas i’w ddefnyddio fel annedd.

8

Yn yr adran hon, mae “adeilad” yn cynnwys rhan o adeilad.

9

Pan fo trafodiad unigol yn ymwneud â 6 neu ragor o anheddau ac yn cynnwys trosglwyddo prif fuddiant ynddynt, neu roi les drostynt, yna, at ddibenion y Ddeddf hon fel y mae’n gymwys mewn perthynas â’r trafodiad hwnnw, caiff yr anheddau hynny eu trin fel anheddau amhreswyl.

10

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon.

73Ystyr annedd

Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “annedd” yn gyfeiriadau at eiddo preswyl sy’n annedd unigol.

74Cyfeiriadau at bersonau cysylltiedig

1

Mae adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (personau cysylltiedig) yn gymwys at ddibenion unrhyw gyfeiriad yn y Ddeddf hon at berson sy’n gysylltiedig â pherson arall.

2

Ond gweler y ddarpariaeth benodol a wneir yn y darpariaethau a ganlyn—

a

adran 23(3)(b) (eithriadau i’r rheol gwerth marchnadol tybiedig mewn trafodiadau gyda chwmnïau cysylltiedig);

b

paragraffau 16(2)(b) a 24(2)(b) o Atodlen 7 (trafodiadau partneriaeth: pennu’r partneriaid cyfatebol);

c

paragraff 51 o’r Atodlen honno (partneriaethau: cymhwyso adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) i Atodlen 7 yn gyffredinol);

d

paragraff 5(5) o Atodlen 16 (rhyddhad grŵp: cwmnïau cyd-fenter);

e

paragraff 6(3) o’r Atodlen honno (rhyddhad grŵp: trefniadau morgais).

75Diffiniadau eraill

Yn y Ddeddf hon—

  • mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” gan adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);

  • ystyr “DCRhT” (“TCMA”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6);

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir) sy’n, neu sydd wedi ei gynnwys mewn—

    1. a

      Deddf Seneddol,

    2. b

      Deddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu

    3. c

      is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978 (p. 30)) a wneir o dan⁠—

      1. i

        Deddf Seneddol, neu

      2. ii

        Deddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” (“registered social landlord”) yw corff a gofrestrir fel landlord cymdeithasol mewn cofrestr a gynhelir o dan adran 1(1) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52);

  • ystyr “mynegai prisiau defnyddwyr” (“consumer prices index”) yw’r mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer pob eitem a gyhoeddir gan y Bwrdd Ystadegau;

  • ystyr “mynegai prisiau manwerthu” (“retail prices index”) yw Mynegai Cyffredinol Prisiau Manwerthu’r Deyrnas Unedig a gyhoeddir gan y Bwrdd Ystadegau o dan adran 21 o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 (p. 18);

  • ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed;

  • mae “tir” (“land”) yn cynnwys—

    1. a

      adeiladau a strwythurau;

    2. b

      tir a orchuddir â dŵr.

Diwygiadau i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

76Diwygiadau i DCRhT

Mae Atodlen 23 yn gwneud diwygiadau i DCRhT.

Adolygiad annibynnol

77Adolygiad annibynnol o’r dreth trafodiadau tir

1

Rhaid i Weinidogion Cymru wneud trefniadau i adolygiad annibynnol o’r dreth trafodiadau tir gael ei gwblhau cyn diwedd y cyfnod o 6 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r is-adran hon i rym.

2

Ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad arno.

3

Caiff y trefniadau a grybwyllir yn is-adran (1) gynnwys—

a

talu treuliau y mae person yn mynd iddynt wrth gynnal yr adolygiad (neu wrth gynorthwyo i’w gynnal);

b

darparu cymorth (gan gynnwys cymorth ariannol) i berson o’r fath;

c

cyfarwyddo ACC i gynorthwyo â’r gwaith o gynnal yr adolygiad.

Darpariaethau terfynol

78Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.

1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n briodol yn eu barn hwy at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu oddi tani, neu mewn cysylltiad â hi, neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi.

2

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, ddirymu neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu oddi tani).

3

Os yw offeryn statudol yn cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon y mae Gweinidogion Cymru o’r farn eu bod yn gwneud darpariaeth a all gael yr effaith a grybwyllir yn is-adran (4), ni chaniateir gwneud yr offeryn oni bai bod drafft wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

4

Yr effaith yw, mewn cysylltiad â thrafodiad tir—

a

bod swm y dreth sydd i’w godi yn fwy na’r swm a fyddai i’w godi oni wneir y rheoliadau, neu

b

bod treth i’w chodi pan na fyddai treth i’w chodi oni wneir y rheoliadau.

79Rheoliadau

1

Mewn perthynas ag unrhyw bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

a

rhaid ei arfer drwy offeryn statudol, a

b

mae’n cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

2

Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo—

a

adran 5(4) (buddiannau esempt);

b

adran 18(2) (cydnabyddiaeth drethadwy);

c

adran 24(11) (trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch);

d

adran 30(6) (rhyddhadau);

e

adran 33(7) (cwmnïau);

f

adran 34(6) (cynlluniau ymddiriedolaeth unedau);

g

adran 35(1) (cwmnïau buddsoddi penagored);

h

adran 36(8) (cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth);

i

adran 41(2) (partneriaethau);

j

adran 42(2) (ymddiriedolaethau);

k

adran 46(10) (trothwyon ar gyfer trafodiadau hysbysadwy);

l

adran 47(5) (dyddiad dechrau llog taliadau hwyr);

m

adran 49(5) (dyddiad dechrau llog taliadau hwyr);

n

adran 52(1) (y cyfnod y mae’n rhaid dychwelyd ffurflen dreth o’i fewn);

o

adran 64(1) (rheoliadau ynghylch gohirio treth);

p

adran 72(10) (eiddo preswyl);

q

paragraff 7 o Atodlen 3 (trafodiadau esempt);

r

paragraff 27(2) o Atodlen 6 (codi treth ar elfen rent lesoedd preswyl);

s

paragraff 32 o’r Atodlen honno (cyfradd disgownt amser ar gyfer lesoedd);

t

paragraff 36(1)(b) o’r Atodlen honno (swm penodedig o rent perthnasol);

u

paragraff 37 o’r Atodlen honno (pŵer i ddiwygio neu ddiddymu paragraffau 34 i 36);

v

paragraff 6(7) o Atodlen 13 (rhyddhad anheddau lluosog: y ganran isaf o dreth sydd i’w phriodoli i anheddau);

w

paragraff 3 o Atodlen 17 (rhyddhad caffael: cyfran y dreth a ryddheir).

3

Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon (ac eithrio offeryn a grybwyllir yn is-adran (4)) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

4

Nid yw is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

a

rheoliadau a wneir o dan adran 24(1) neu baragraff 27(4) neu 28(1) o Atodlen 6 (rheoliadau ynghylch cyfraddau treth a bandiau treth);

b

rheoliadau a wneir o dan adran 78 y mae is-adran (3) o’r adran honno yn gymwys iddynt.

80Cymhwyso i’r Goron

1

Mae’r Ddeddf hon yn rhwymo’r Goron.

2

Ond gweler paragraff 2 o Atodlen 3 (sy’n esemptio trafodiadau tir rhag codi treth arnynt pan fo’r prynwr yn un o gyrff penodedig y Goron).

3

Ac nid oes unrhyw beth ym Mhennod 2 o Ran 6 (atebolrwydd ar gyfer treth a thalu treth) yn effeithio ar weithrediad adrannau 8 a 9 o Ddeddf Ystadau Preifat y Goron 1862 (p. 37).

4

Nid yw is-adran (1) yn gwneud y Goron yn agored i’w herlyn am drosedd.

81Dod i rym

1

Daw’r Rhan hon (ac eithrio adran 76 ac Atodlen 23) i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

2

Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar unrhyw ddiwrnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

3

Caiff gorchymyn o dan adran (2) bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

82Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.