RHAN 3CYFRIFO TRETH A RHYDDHADAU

Rhyddhadau

I130Rhyddhadau

I3I51

Mae’r Atodlenni a ganlyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â rhyddhadau a darpariaethau eraill sy’n gysylltiedig â’r rhyddhadau hynny—

  • Atodlen 9 (rhyddhad gwerthu ac adlesu);

  • Atodlen 10 (rhyddhad cyllid eiddo arall);

  • Atodlen 11 (rhyddhad bondiau buddsoddi cyllid arall);

  • Atodlen 12 (rhyddhad ar gyfer ymgorffori partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig);

  • Atodlen 13 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog);

  • Atodlen 14 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol o anheddau);

  • Atodlen 15 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â thai cymdeithasol);

  • Atodlen 16 (rhyddhad grŵp);

  • Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael);

  • Atodlen 18 (rhyddhad elusennau);

  • Atodlen 19 (rhyddhad i gwmnïau buddsoddi penagored);

  • Atodlen 20 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff cyhoeddus a chyrff iechyd);

  • Atodlen 21 (rhyddhad prynu gorfodol a rhyddhad rhwymedigaethau cynllunio);

  • Atodlen 22 (rhyddhadau amrywiol).

I42

Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf hon yn darparu rhyddhad rhag treth ar gyfer trafodiadau tir penodol (ac felly os hawlir rhyddhad nid yw trafodiadau o’r fath yn drafodiadau trethadwy)—

  • paragraffau 18(2) a 19(2) o Atodlen 2 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau tybiannol y mae cyswllt rhyngddynt ag aseinio hawliau a rhyddhad ar gyfer iswerthiannau penodol);

  • paragraff 1 o Atodlen 9 (rhyddhad gwerthu ac adlesu);

  • paragraffau 2 a 3 o Atodlen 10 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau cyllid eiddo arall penodol);

  • paragraffau 13(1) a 15(1) o Atodlen 11 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â bondiau buddsoddi cyllid arall);

  • paragraff 1 o Atodlen 12 (rhyddhad ar gyfer ymgorffori partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig);

  • paragraffau 2(1), 3(1), 4(1), 5(1), 6(1) a 7(1) o Atodlen 14 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau anheddau penodol);

  • paragraff 4 o Atodlen 15 (lesoedd rhanberchnogaeth: rhyddhad ar gyfer rifersiynau penodol);

  • paragraff 6(2) o’r Atodlen honno (lesoedd rhanberchnogaeth: rhyddhad ar gyfer trafodiadau cynyddu perchentyaeth penodol);

  • paragraff 13 o’r Atodlen honno (rhyddhad ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: trosglwyddo ar derfyniad);

  • paragraff 14 o’r Atodlen honno (ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth: rhyddhad ar gyfer trafodiadau cynyddu perchentyaeth penodol);

  • paragraff 19(1) o’r Atodlen honno (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol gan ddarparwyr tai cymdeithasol);

  • paragraff 2(1) o Atodlen 16 (rhyddhad grŵp);

  • paragraff 2(1) o Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi);

  • paragraffau 3(1) a 5 o Atodlen 18 (rhyddhad elusennau);

  • paragraffau 1(1) a 2(1) o Atodlen 19 (rhyddhad i gwmnïau buddsoddi penagored);

  • paragraffau 1(1) a 2 o Atodlen 20 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff cyhoeddus a chyrff iechyd);

  • paragraffau 1(1) a 2(1) o Atodlen 21 (rhyddhad prynu gorfodol a rhyddhad rhwymedigaethau cynllunio);

  • Atodlen 22 (rhyddhadau amrywiol).

I43

Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf hon yn darparu rhyddhad i drafodiadau trethadwy penodol yn y modd a bennir yn y ddarpariaeth berthnasol—

  • paragraff 19(3) o Atodlen 2 (rhyddhad rhannol ar gyfer iswerthiannau penodol);

  • Atodlen 13 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog);

  • paragraffau 2(3), 3(4), 4(4), 5(3), 6(4) a 7(3) o Atodlen 14 (rhyddhad rhannol ar gyfer caffaeliadau penodol o anheddau sy’n fwy na’r arwynebedd a ganiateir);

  • paragraff 10 o’r Atodlen honno (rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd);

  • paragraff 2 o Atodlen 15 (rhyddhad sy’n gysylltiedig â chydnabyddiaeth ddibynnol yn achos F1trafodiad sy’n destun disgownt sector cyhoeddus);

  • paragraff 3 o’r Atodlen honno (lesoedd rhanberchnogaeth: dewis i gymryd mai’r gwerth marchnadol yw’r gydnabyddiaeth);

  • paragraff 5 o’r Atodlen honno (lesoedd rhanberchnogaeth pan ganiateir cynyddu perchentyaeth: dewis i’r gydnabyddiaeth fod yn seiliedig ar werth ar y farchnad agored);

  • paragraff 12 o’r Atodlen honno (ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth: dewis i gymryd mai’r gwerth marchnadol yw’r gydnabyddiaeth);

  • Rhan 3 o Atodlen 17 (rhyddhad caffael);

  • paragraffau 6 ac 8 o Atodlen 18 (rhyddhad elusennau rhannol mewn amgylchiadau penodol).

I44

Rhaid hawlio unrhyw ryddhad o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adrannau (2) a (3) (ac eithrio rhyddhad o dan baragraff 3 o Atodlen 22 (rhyddhad lluoedd arfog sy’n ymweld a rhyddhad pencadlysoedd milwrol rhyngwladol)) ar y ffurflen dreth gyntaf a ddychwelir mewn perthynas â’r trafodiad tir, neu mewn diwygiad i’r ffurflen honno.

I45

Mewn perthynas â rhyddhad o dan baragraff 3 o Atodlen 22—

a

gellir ei hawlio ar y ffurflen dreth ar gyfer y trafodiad tir, neu mewn diwygiad i’r ffurflen honno, neu

b

os na chaiff ei hawlio ar y ffurflen dreth neu’r ffurflen dreth ddiwygiedig a bod y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth wedi dod i ben, gellir ei hawlio drwy hawlio ad-daliad am unrhyw swm o dreth a ordalwyd (gweler Pennod 7 o Ran 3 o DCRhT),

ac nid yw adran 78 o DCRhT (terfyn amser ar gyfer gwneud hawliadau) yn gymwys i hawliad am ryddhad o dan baragraff 3 o Atodlen 22.

I46

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Ddeddf hon drwy reoliadau er mwyn—

a

ychwanegu rhyddhad;

b

addasu rhyddhad;

c

dileu rhyddhad;

d

addasu adran 31.

I2I631Rhyddhad: gwrthweithio osgoi trethi

1

Nid yw rhyddhad ar gael o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adran (2) neu (3) o adran 30 mewn cysylltiad â thrafodiad tir—

a

sy’n drefniant osgoi trethi, neu

b

sy’n rhan o drefniadau sy’n drefniadau osgoi trethi.

2

Mae trefniant yn “trefniant osgoi trethi”—

a

os cael mantais drethiannol ar gyfer unrhyw berson yw’r prif ddiben, neu un o’r prif ddibenion, pam y mae’r prynwr yn y trafodiad tir yn ymrwymo i’r trefniant, a

b

os nad oes sylwedd economaidd na masnachol dilys i’r trefniant ac eithrio cael mantais drethiannol.

3

Yn yr adran hon—

  • ystyr “mantais drethiannol” (“tax advantage”) yw—

    1. a

      rhyddhad rhag treth neu gynnydd mewn rhyddhad rhag treth,

    2. b

      ad-daliad treth neu gynnydd mewn ad-daliad treth,

    3. c

      osgoi neu leihau swm y codir treth arno, neu

    4. d

      gohirio talu treth neu ddwyn ymlaen ad-daliad treth;

  • mae “trefniant” (“arrangement”) yn cynnwys unrhyw drafodiad, unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb, unrhyw grant, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw addewid, unrhyw ymgymeriad neu unrhyw gyfres o unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny (pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio);

  • ystyr “treth” (“tax”) yw treth trafodiadau tir, treth incwm, treth gorfforaeth, treth enillion cyfalaf, treth dir y dreth stamp, treth gadw y dreth stamp neu’r dreth stamp.