RHAN 3LL+CFFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 4LL+CYMHOLIADAU ACC

Hysbysiad a chwmpas ymholiadLL+C

44Cwmpas ymholiadLL+C

(1)Mae ymholiad i ffurflen dreth yn cwmpasu unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys yn y ffurflen dreth, neu y mae’n ofynnol ei gynnwys yn y ffurflen dreth—

(a)sy’n ymwneud â’r cwestiwn pa un a yw’r dreth ddatganoledig y mae’r ffurflen dreth yn ymwneud â hi i’w chodi ar y person a ddychwelodd y ffurflen dreth, F1...

(b)sy’n ymwneud â swm y dreth ddatganoledig sydd i’w godi ar y person a ddychwelodd y ffurflen dreth,

[F2(c)sy’n ymwneud â’r cwestiwn pa un a oes gan y person a ddychwelodd y ffurflen dreth hawlogaeth i gredyd treth a hawliwyd yn y ffurflen dreth, neu

(d)sy’n ymwneud â’r swm o gredyd treth y mae gan y person hawlogaeth iddo.]

(2)Ond os dyroddir hysbysiad ymholiad o ganlyniad i ddiwygio ffurflen dreth o dan adran 41 ar ôl cwblhau ymholiad i’r ffurflen dreth, mae’r ymholiad wedi ei gyfyngu—

(a)i faterion y mae’r diwygiad yn ymwneud â hwy, a

(b)i faterion y mae’r diwygiad yn effeithio arnynt.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 44 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3