RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 4YMHOLIADAU ACC
Hysbysiad a chwmpas ymholiad
44Cwmpas ymholiad
1
Mae ymholiad i ffurflen dreth yn cwmpasu unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys yn y ffurflen dreth, neu y mae’n ofynnol ei gynnwys yn y ffurflen dreth—
a
sy’n ymwneud â’r cwestiwn pa un a yw’r dreth ddatganoledig y mae’r ffurflen dreth yn ymwneud â hi i’w chodi ar y person a ddychwelodd y ffurflen dreth, neu
b
sy’n ymwneud â swm y dreth ddatganoledig sydd i’w godi ar y person a ddychwelodd y ffurflen dreth.
2
Ond os dyroddir hysbysiad ymholiad o ganlyniad i ddiwygio ffurflen dreth o dan adran 41 ar ôl cwblhau ymholiad i’r ffurflen dreth, mae’r ymholiad wedi ei gyfyngu—
a
i faterion y mae’r diwygiad yn ymwneud â hwy, a
b
i faterion y mae’r diwygiad yn effeithio arnynt.