RHAN 8ADOLYGIADAU AC APELAU
PENNOD 3APELAU
178Gwneud apêl
1
Rhaid gwneud apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy i’r tribiwnlys.
2
Ond ni chaiff person wneud apêl i’r tribiwnlys os yw is-adran (3), (4) neu (5) yn gymwys.
3
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
a
os penderfyniad ACC i ddiwygio ffurflen dreth y person o dan adran 45 tra bo ymholiad yn mynd rhagddo yw’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno apelio yn ei erbyn, a
b
os nad yw’r ymholiad wedi ei gwblhau hyd yma.
4
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
a
pan fo’r person wedi rhoi hysbysiad am gais i ACC o dan adran 173 am adolygiad o’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno apelio yn ei erbyn, a
b
pan nad yw’r cyfnod y mae’n rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am gasgliadau’r adolygiad oddi fewn iddo o dan adran 176(5) wedi dod i ben hyd yma.
5
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
a
pan fo’r person wedi ymrwymo i gytundeb setlo mewn perthynas â’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno apelio yn ei erbyn, a
b
pan na fo’r person wedi rhoi hysbysiad tynnu’n ôl o’r cytundeb o dan adran 184(4).
6
Nid yw’r adran hon yn rhwystro ymdrin â phenderfyniad apeliadwy yn unol ag adran 184.