RHAN 6LLOG

PENNOD 1LLOG AR SYMIAU SY’N DALADWY I ACC

Llog taliadau hwyr

158Llog taliadau hwyr: atodol

1

Nid yw llog taliadau hwyr yn daladwy ar log taliadau hwyr.

2

Mae’r dyddiad talu, mewn perthynas â swm y mae adran 157 yn gymwys iddo, yn cynnwys y dyddiad y caiff ei osod yn erbyn swm sy’n daladwy gan ACC.