RHAN 6LLOG

PENNOD 1LLOG AR SYMIAU SY’N DALADWY I ACC

Llog taliadau hwyr

157Llog taliadau hwyr ar symiau sy’n daladwy i ACC

1

Mae’r adran hon yn gymwys i—

a

unrhyw swm o dreth ddatganoledig, a

b

unrhyw swm o gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig,

sy’n daladwy gan berson i ACC.

2

Os na thelir swm y mae’r adran hon yn gymwys iddo cyn dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog taliadau hwyr”) ar y gyfradd llog taliadau hwyr ar gyfer y cyfnod—

a

sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, a

b

sy’n dod i ben â’r dyddiad talu.

3

Dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr ar gyfer y swm yw’r dyddiad sy’n dilyn y dyddiad y daw’r swm yn daladwy, yn ddarostyngedig i adrannau 159 a 160.

4

Mae is-adran (2)(a) yn gymwys hyd yn oed os yw dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yn ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod busnes o fewn ystyr a roddir i “non-business day” yn adran 92 o Ddeddf Biliau Cyfnewid 1882 (p. 61).

5

Yn yr adran hon, mae i “cyfradd llog taliadau hwyr” yr ystyr a roddir gan adran 163(1).