xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Rhn. 5 Pnd. 2 pennawd wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 23
(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC—
(a)asesu’r gosb,
(b)dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd, ac
(c)datgan yn yr hysbysiad y cyfnod [F2, y trafodiad neu’r swm] yr aseswyd y gosb mewn perthynas ag ef.
(2)Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan y Bennod hon ac asesiad ar gyfer treth ddatganoledig.
(3)Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adrannau 119 neu 120 os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai wedi dychwelyd ffurflen dreth.
(4)Os yw—
(a)asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adrannau 119 neu 120 yn seiliedig ar swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai wedi dychwelyd ffurflen dreth, a
(b)ACC yn darganfod bod y rhwymedigaeth honno yn ormodol,
caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.
(5)Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adran 122 [F3, 122ZA] [F4neu 122A] os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o swm y dreth ddatganoledig a oedd yn daladwy.
(6)Os yw asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adran 122 [F5, 122ZA] [F6neu 122A] yn seiliedig ar swm o dreth sy’n daladwy y mae ACC yn darganfod ei fod yn ormodol, caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.
[F7(6A)Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r credyd treth o dan sylw.
(6B)Os yw asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A yn seiliedig ar swm y darganfyddir ei fod yn ormodol, caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.]
(7)O ran diwygiad a wneir o dan is-adran (4) [F8, (6) neu (6B)]—
(a)nid yw’n effeithio ar ba bryd y mae’n rhaid talu’r gosb, a
(b)caniateir ei wneud ar ôl y diwrnod olaf y gellid bod wedi gwneud yr asesiad o dan sylw o dan adran 128.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn a. 127(1)(c) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 27(2)
F3Gair yn a. 127(5) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 14(a); O.S. 2018/35, ergl. 3
F4Geiriau yn a. 127(5) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 46(a); O.S. 2018/34, ergl. 3
F5Gair yn a. 127(6) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 14(b); O.S. 2018/35, ergl. 3
F6Geiriau yn a. 127(6) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 46(b); O.S. 2018/34, ergl. 3
F7A. 127(6A)(6B) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 27(3)
F8Geiriau yn a. 127(7) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 27(4)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Aau. 125-128 cymhwyswyd (1.4.2018) gan Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Trefniadau Talu’n Ôl) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/88), rhlau. 1(2), 8(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 127 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 127 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3