RHAN 5COSBAU
PENNOD 3COSBAU AM ANGHYWIRDEBAU
Cosb am fethu â hysbysu ynghylch tanasesiad etc.
I2I1133Cosb am fethu â hysbysu ynghylch tanasesiad neu danddyfarniad
1
Mae person yn agored i gosb pan fo—
a
asesiad ACC yn tanddatgan rhwymedigaeth y person i dreth ddatganoledig, a
b
y person wedi methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am yr asesiad, ei fod yn danasesiad.
F11A
Mae person hefyd yn agored i gosb pan fo—
a
asesiad ACC o dan adran 55A yn tanddatgan y swm y mae’n ofynnol i’r person ei dalu i ACC, a
b
y person wedi methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am yr asesiad, ei fod yn danasesiad.
2
Wrth benderfynu pa gamau (os o gwbl) a oedd yn rhesymol, rhaid i ACC ystyried pa un a wyddai’r person am y tanasesiad, neu a ddylai fod wedi gwybod amdano.
3
Y gosb sy’n daladwy o dan yr adran hon yw F2swm heb fod yn fwy na 30% o’r refeniw posibl a gollir.
4
Yn yr adran hon—
a
mae “asesiad ACC” yn cynnwys dyfarniad a wnaed gan ACC o dan adran 52, a
b
yn unol â hynny, mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at danasesiad yn cynnwys cyfeiriadau at danddyfarniad.