xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i ACC, ar gyfer pob cyfnod cynllunio, baratoi cynllun corfforaethol a’i gyflwyno i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
(2)Rhaid i’r cynllun corfforaethol nodi—
(a)prif amcanion ACC ar gyfer y cyfnod cynllunio,
(b)y canlyniadau y gellir mesur i ba raddau y cyflawnwyd y prif amcanion drwy gyfeirio atynt, ac
(c)y gweithgareddau y mae ACC yn disgwyl ymgymryd â hwy yn ystod y cyfnod cynllunio.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun corfforaethol yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau a gytunir rhyngddynt hwy ac ACC.
(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo’r cynllun corfforaethol, rhaid i ACC—
(a)cyhoeddi’r cynllun, a
(b)gosod copi o’r cynllun gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(5)Caiff ACC, yn ystod y cyfnod cynllunio y mae cynllun corfforaethol yn ymwneud ag ef, adolygu’r cynllun a chyflwyno cynllun corfforaethol diwygiedig i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
(6)Mae is-adrannau (2) i (4) yn gymwys i gynllun corfforaethol diwygiedig fel y maent yn gymwys i gynllun corfforaethol.
(7)Ystyr “cyfnod cynllunio” yw—
(a)cyfnod cyntaf a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a
(b)pob cyfnod dilynol o 3 blynedd.
(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau roi unrhyw gyfnod arall sy’n briodol yn eu barn hwy yn lle’r cyfnod a bennir am y tro yn is-adran (7)(b).
(9)Rhaid cyflwyno’r cynllun corfforaethol ar gyfer y cyfnod cynllunio cyntaf i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo yn ddim hwyrach na 6 mis ar ôl sefydlu ACC; a rhaid cyflwyno’r cynllun corfforaethol ar gyfer pob cyfnod cynllunio dilynol cyn dechrau’r cyfnod cynllunio.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 27 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2
(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i ACC—
(a)paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y modd yr arferwyd ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno,
(b)anfon copi o’r adroddiad at Weinidogion Cymru, ac
(c)gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2)Rhaid i’r adroddiad gynnwys (yn benodol) asesiad o’r graddau y mae ACC, yn ystod y flwyddyn ariannol, wedi amlygu’r safonau gwasanaeth, y safonau ymddygiad a’r gwerthoedd y mae’r Siarter yn datgan y disgwylir iddo gadw atynt.
(3)Caiff ACC gyhoeddi unrhyw adroddiadau eraill ac unrhyw wybodaeth arall am faterion sy’n berthnasol i’w swyddogaethau ag y bo’n briodol yn ei farn.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I4A. 28 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Rhaid i ACC—
(a)cadw cofnodion cyfrifo priodol, a
(b)paratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru.
(2)Caiff y cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru gynnwys (ymysg pethau eraill) gyfarwyddydau o ran—
(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cyfrifon a’r modd y mae’r cyfrifon i’w cyflwyno;
(b)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r cyfrifon i’w paratoi yn unol â hwy;
(c)gwybodaeth ychwanegol sydd i fynd gyda’r cyfrifon.
(3)Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddydau o dan yr adran hon unrhyw bryd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I6A. 29 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2
(1)Rhaid i ACC baratoi mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, ddatganiad o swm yr arian a gasglwyd ganddo yn ystod y flwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau (“Datganiad Treth”).
(2)Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddydau o dan yr adran hon unrhyw bryd.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I8A. 30 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Rhaid i ACC gyflwyno—
(a)y cyfrifon a baratowyd ar gyfer blwyddyn ariannol, a
(b)y Datganiad Treth ar gyfer blwyddyn ariannol,
i Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ddim hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ganlynol.
(2)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a)archwilio, ardystio ac adrodd ar y cyfrifon a’r Datganiad Treth, a
(b)yn ddim hwyrach na diwedd y cyfnod o 4 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y’u cyflwynir, gosod copi o’r cyfrifon a’r Datganiad Treth ardystiedig, a’r adroddiadau arnynt, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3)Wrth archwilio’r cyfrifon a gyflwynir o dan yr adran hon, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru fod wedi ei fodloni yn benodol—
(a)yr aed i’r gwariant y mae’r cyfrifon yn ymwneud ag ef yn gyfreithlon ac yn unol â’r awdurdod sy’n ei lywodraethu, a
(b)nad yw arian a dderbyniwyd at ddiben penodol neu at ddibenion penodol wedi ei wario ar unrhyw beth heblaw’r diben hwnnw neu’r dibenion hynny.
(4)Wrth archwilio’r Datganiad Treth a gyflwynir o dan yr adran hon, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru fod wedi ei fodloni yn benodol—
(a)bod yr arian a gasglwyd gan ACC, y mae’r Datganiad Treth yn ymwneud ag ef, wedi ei gasglu’n gyfreithlon, a
(b)bod unrhyw alldaliadau a ddidynnwyd wedi eu didynnu yn unol ag adran 25(2).
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I10A. 31 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliadau o’r graddau y defnyddiwyd adnoddau yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol wrth gyflawni swyddogaethau ACC.
(2)Ond nid yw hynny yn rhoi’r hawl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gwestiynu rhinweddau amcanion polisi ACC.
(3)Cyn cynnal archwiliad rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a)ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, a
(b)ystyried barn Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran a ddylid cynnal archwiliad ai peidio.
(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, cyhoeddi adroddiad ar ganlyniadau archwiliad a gynhaliwyd o dan yr adran hon, a
(b)gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I12A. 32 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Prif weithredwr ACC yw swyddog cyfrifo ACC.
(2)Mae gan y swyddog cyfrifo, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid ACC, y cyfrifoldebau a bennir am y tro gan Weinidogion Cymru.
(3)Mae’r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan yr adran hon yn cynnwys (ymysg pethau eraill)—
(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon ACC a’r Datganiad Treth;
(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid ACC;
(c)cyfrifoldebau am ddefnyddio adnoddau ACC yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol;
(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i Weinidogion Cymru neu i un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I14A. 33 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2