RHAN 4AMRYWIOL
Y Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru
I138Sefydlu Panel a rhaglen waith
1
Rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu panel o bersonau, a elwir y Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru (“y Panel”).
2
Diben y Panel yw rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ar faterion sy’n ymwneud â llunio, datblygu a gweithredu polisi a strategaeth mewn perthynas â’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru; ac at y diben hwn mae i “Cymru” yr un ystyr â “Wales” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (gweler adran 158(1) o’r Ddeddf honno).
3
Rhaid i’r Panel, cyn pob blwyddyn ariannol berthnasol, gyhoeddi dogfen (y “rhaglen waith”) sy’n nodi’r materion y mae’n bwriadu rhoi cyngor i Weinidogion Cymru arnynt yn ystod cyfnod o dair blynedd, sef y flwyddyn ariannol honno a’r ddwy flwyddyn ariannol ddilynol.
4
Ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth; ac ystyr “blwyddyn ariannol berthnasol” yw—
a
y flwyddyn ariannol gyntaf i ddechrau ar ôl cychwyn is-adran (3), a
b
pob trydedd flwyddyn ariannol ar ôl hynny.
5
Rhaid i’r Panel gadw’r rhaglen waith o dan adolygiad a chaiff ei diwygio yn sgil gwneud hynny; a phan fo’r Panel yn diwygio’r rhaglen waith, rhaid iddo ei chyhoeddi fel y’i diwygiwyd.
6
Cyn cyhoeddi’r rhaglen waith o dan is-adran (3) neu (5), rhaid i’r Panel gyflwyno drafft ohoni i Weinidogion Cymru; ond nid yw’r gofyniad i gyflwyno drafft sydd wedi ei ddiwygio o dan is-adran (5) ond yn gymwys i’r graddau y mae’r Panel yn ystyried bod y diwygiadau yn sylweddol.
7
Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl cael drafft o dan is-adran (6), gymeradwyo’r drafft gydag addasiadau neu hebddynt.
8
Rhaid i’r Panel, ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol, gyhoeddi dogfen sy’n nodi’r materion yn y rhaglen waith y mae wedi rhoi cyngor i Weinidogion Cymru arnynt yn ystod y flwyddyn ariannol honno.
I239Cyfansoddiad etc
1
Mae aelodau’r Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru i’w penodi ar unrhyw delerau ac amodau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt.
2
Ni chaniateir i aelodaeth y Panel fod yn fwy na 15 o bersonau.
3
Nid yw’r Panel i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac ychwaith i’w ystyried yn un sy’n mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.
4
Nid yw swydd wag ymhlith aelodau’r Panel yn effeithio ar ddilysrwydd gweithred ganddo.
5
Caiff Gweinidogion Cymru dalu i aelod o’r Panel unrhyw ffioedd, lwfansau neu dreuliau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt.
6
Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu unrhyw staff, llety neu gyfleusterau eraill sy’n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru er mwyn galluogi’r Panel i gyflawni ei swyddogaethau.
7
Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Panel os yw’r person—
a
yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru,
b
yn aelod o Dŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi,
c
yn aelod o Senedd yr Alban,
d
yn aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon,
e
yn aelod o Senedd Ewrop,
f
yn aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,
g
yn aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, neu
h
yn aelod o staff sefydliad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
8
Yn unol â hynny, ni chaniateir i berson sydd wedi ei anghymhwyso gael ei benodi’n aelod o’r Panel; ac mae person a benodir felly ac sy’n cael ei anghymhwyso yn peidio â bod yn aelod.
9
Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo aelod o’r Panel os ydynt wedi eu bodloni—
a
bod yr aelod yn anaddas i barhau fel aelod,
b
nad yw’r aelod yn gallu neu’n fodlon gweithredu fel aelod, neu
c
bod yr aelod wedi dwyn anfri ar y Panel.
10
Caiff aelod o’r Panel ymddiswyddo drwy roi dim llai na thri mis o rybudd ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.