260.Cyflwynir Atodlen 2 gan adran 24(4) o’r Ddeddf, ac mae’n mewnosod Atodlen 1A ac Atodlen 1B yn Neddf 1990.
261.Mae Atodlen 1A yn cynnwys darpariaeth sy’n gymwys pan fo gwarchodaeth interim yn peidio â chael effaith o ganlyniad i benderfyniad Gweinidogion Cymru i beidio â rhestru adeilad. O dan yr amgylchiadau hynny, bydd unrhyw achosion sy’n deillio o gais am gydsyniad adeilad rhestredig neu unrhyw gydsyniad a roddir yn darfod, a bydd unrhyw hysbysiadau gorfodi neu hysbysiadau stop dros dro a gyflwynir ar yr adeilad yn peidio â chael effaith. Fodd bynnag, bydd atebolrwydd troseddol unrhyw berson am drosedd a gyflawnir yn ystod y cyfnod gwarchodaeth interim yn parhau.
262.Mae paragraff 1 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n rhagnodi’r dosbarthau ar adolygiadau y mae person a benodir gan Weinidogion Cymru i wneud penderfyniadau arnynt.
263.Mae paragraff 2 yn nodi pwerau a dyletswyddau person a benodir. Mae gan y person a benodir yr un pwerau a dyletswyddau â Gweinidogion Cymru i wneud yr adolygiad, i wneud penderfyniad ynghylch yr adolygiad ac i benderfynu ar y weithdrefn briodol a dyfarnu costau.
264.Mae paragraff 3 yn gwneud darpariaeth i ganiatáu i Weinidogion Cymru ddirymu awdurdod person a benodir a phenodi person arall i ymgymryd â’r adolygiad.
265.Mae paragraff 4 yn caniatáu i berson a benodir benodi asesydd i roi cyngor ar unrhyw faterion sy’n codi mewn ymchwiliad lleol neu wrandawiad, neu mewn sylwadau ysgrifenedig. Mae is-baragraff (2) yn cymhwyso darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 sy’n caniatáu i berson a benodir alw person i fod yn bresennol a darparu tystiolaeth mewn ymchwiliad. Bydd gwrthod cais i fod yn bresennol yn gwneud person yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol, cyfnod nad yw’n hwy na chwe mis yn y carchar, neu’r ddau.
266.Mae paragraff 5 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo y caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw beth y dylai’r person a benodir fod wedi ei wneud, ac eithrio gwneud penderfyniad ynghylch adolygiad. Bydd hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo mai hwy sydd i ymgymryd â materion megis rhoi hysbysiad am adolygiad, cylchredeg sylwadau a thystiolaeth a rhoi hysbysiad ynghylch penderfyniad.
267.Mae paragraff 6 yn caniatáu i berson a benodir ddirprwyo i berson arall unrhyw beth y byddai’r person a benodir yn ei wneud ac eithrio cynnal ymchwiliad lleol neu wrandawiad neu wneud penderfyniad ynghylch yr adolygiad. Mae hyn yn galluogi’r person a benodir i ddirprwyo tasgau gweinyddol, megis hysbysu ynghylch amserlenni a manylion gwrandawiad/ymchwiliad a chylchredeg datganiadau a sylwadau.
268.Mae paragraff 7 yn darparu, pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi aelod o staff Llywodraeth Cymru i gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas ag adolygiad, fod y swyddogaethau hynny i gael eu trin fel swyddogaethau Llywodraeth Cymru at ddibenion Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Bydd hyn yn galluogi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ymchwilio i unrhyw honiadau o gamweinyddu a wneir mewn perthynas â’r ffordd y mae’r person a benodir yn cyflawni’r swyddogaethau hynny.