Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 2: Henebion Hynafol Etc

Adran 6 – Rhoi cydsyniad i waith anawdurdodedig

44.Mae adran 6 yn mewnosod is-adrannau newydd (3A) a (3B) yn adran 2 o Ddeddf 1979 (rheoli gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig). Mae’r darpariaethau hyn yn caniatáu i gydsyniad heneb gofrestredig gael ei roi ar gyfer gwaith sydd eisoes wedi ei wneud.

45.Mae adran 2 o Ddeddf 1979 yn ei gwneud yn drosedd i wneud gwaith penodedig i heneb gofrestredig oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi awdurdodi’r gwaith o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno, gan gynnwys drwy roi cydsyniad heneb gofrestredig ysgrifenedig.

46.O dan amgylchiadau penodol, gall fod yn well cadw gwaith anawdurdodedig a wnaed i heneb yn hytrach na’i gwneud yn ofynnol i’r gwaith hwnnw gael ei wrthdroi, yn enwedig pe gallai gwrthdroi’r gwaith arwain at wneud rhagor o ddifrod. Er enghraifft, gallai gwaith i ddileu’r sylfeini a godid ar gyfer adeilad neu waith i ailosod trac arwain at aflonyddu’r tir ymhellach. Byddai rhoi cydsyniad heneb gofrestredig i awdurdodi gwaith sydd eisoes wedi ei wneud ac i reoli, drwy amodau, fod y gwaith hwnnw yn cael ei gwblhau yn ateb ansicrwydd ynghylch pa mor gyfreithlon yw cadw’r gwaith ac yn dileu’r posibilrwydd o erlyniad neu sancsiynau eraill yn y dyfodol.