Y Cefndir Cyfreithiol

4.Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn diwygio dau brif ddarn o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â gwarchod yr amgylchedd hanesyddol: Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 a Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Mae’r Ddeddf hefyd yn cyflwyno darpariaethau annibynnol newydd sy’n ymwneud â rhestr o enwau lleoedd hanesyddol, cofnodion amgylchedd hanesyddol a phanel cynghori ar amgylchedd hanesyddol Cymru.

5.Mae Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 yn darparu ar gyfer dynodi a gwarchod henebion cofrestredig o bwys cenedlaethol gan Weinidogion Cymru ac yn ei gwneud yn drosedd i wneud gwaith sy’n effeithio ar heneb gofrestredig heb gydsyniad Gweinidogion Cymru. Yn ogystal, mae’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i ddynodi ardaloedd o bwys archaeolegol ac yn darparu gwarchodaeth ar gyfer yr ardaloedd hynny.

6.Mae Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i ddynodi adeiladau rhestredig o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae hefyd yn nodi’r weithdrefn ar gyfer cael cydsyniad i wneud gwaith sy’n effeithio ar gymeriad adeiladau rhestredig, sy’n sefydlu troseddau ar gyfer gwaith anawdurdodedig ac sy’n rhoi’r mecanweithiau ar gyfer cymryd camau gorfodi. Yn ogystal, mae’r Ddeddf yn rhoi cyfrifoldeb ar awdurdodau cynllunio lleol i ddynodi ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn “ardaloedd cadwraeth” a’u hadolygu o dro i dro.