RHAN 2NEWID YN YR HINSAWDD
Swyddogaethau corff cynghori: adroddiadau a chyngor
44Corff cynghori
1
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—
a
sefydlu corff corfforaethol i arfer swyddogaethau’r corff cynghori o dan y rhan hon, neu
b
dynodi person i fod yn gorff cynghori at ddibenion y Rhan hon.
2
Ni chaiff y rheoliadau ddynodi person onid yw’r person yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus.
3
Os nad oes rheoliadau o dan is-adran (1) mewn grym, y corff cynghori yw’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd a sefydlwyd o dan adran 32 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p. 27).
4
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(a), yn benodol, gynnwys darpariaeth ynghylch—
a
statws ac aelodaeth y corff a sefydlir gan y rheoliadau;
b
cyflogi staff gan y corff;
c
tâl, lwfansau a phensiynau ar gyfer aelodau a staff;
d
trefniadaeth a gweithdrefn y corff;
e
adroddiadau a chyfrifon (gan gynnwys archwilio).
5
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(a) alluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau i’r corff mewn perthynas â’r materion a grybwyllir yn is-adran (4).
6
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, drosiannol neu arbed, a all gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.
45Adroddiadau cynnydd
1
Cyn diwedd y cyfnod cyllidebol cyntaf, rhaid i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru yn nodi safbwyntiau’r corff ynghylch—
a
y cynnydd a wnaed tuag at gyrraedd—
i
y cyllidebau carbon sydd wedi eu gosod o dan y Rhan hon,
ii
y targedau allyriadau interim, a
iii
targed allyriadau 2050,
b
a yw’r cyllidebau a’r targedau hynny yn debygol o gael eu cyrraedd, ac
c
unrhyw fesurau pellach sy’n angenrheidiol er mwyn cyrraedd y cyllidebau a’r targedau hynny.
2
Yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl i Weinidogion Cymru osod y datganiad terfynol ar gyfer cyfnod cyllidebol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 41, rhaid i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru sy’n nodi safbwyntiau’r corff ynghylch—
a
y modd y cyrhaeddwyd neu nas cyrhaeddwyd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod,
b
y camau a gymerwyd gan Weinidogion Cymru i leihau allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr yn ystod y cyfnod, a
c
y materion a nodir yn is-adran (1).
3
Yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl i Weinidogion Cymru osod y datganiad o dan adran 43 mewn perthynas â 2030 gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru sy’n nodi safbwyntiau’r corff ynghylch—
a
a yw’r targed allyriadau interim ar gyfer 2040 a tharged allyriadau 2050 y targedau uchaf y gellir eu cyflawni, a
b
os nad y targed uchaf y gellir ei gyflawni yw’r naill neu’r llall ohonynt, beth yw’r targed uchaf y gellir ei gyflawni.
4
Yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl i Weinidogion Cymru osod y datganiad o dan adran 43 mewn perthynas â 2040 gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru sy’n nodi safbwyntiau’r corff ynghylch—
a
a yw targed allyriadau 2050 y targed uchaf y gellir ei gyflawni,
b
os nad ydyw, beth yw’r targed uchaf y gellir ei gyflawni.
5
Caniateir cyfuno adroddiad o dan is-adran (3) neu (4) ag adroddiad o dan is-adran (2).
6
Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o bob adroddiad a dderbynnir ganddynt o dan yr adran hon gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
7
Rhaid i Weinidogion Cymru osod ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan yr adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl cael yr adroddiad.
46Dyletswydd ar y corff cynghori i ddarparu cyngor a chymorth
Os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i’r corff cynghori roi i Weinidogion Cymru y cyngor, y dadansoddiad, yr wybodaeth neu’r cymorth arall sy’n berthnasol i—
a
arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Rhan hon, neu
b
unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd.
47Canllawiau i’r corff cynghori
1
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r corff cynghori roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.
2
Ni chaiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i’r corff cynghori ynghylch cynnwys unrhyw gyngor neu adroddiad.