RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 3GWYBODAETH AC AROLYGIADAU

34Pwerau arolygydd i fynd i mewn ac arolygu mangreoedd

1

At ddibenion cynnal arolygiad, caiff arolygydd fynd i mewn ac arolygu unrhyw fangre y mae gan yr arolygydd seiliau rhesymol dros gredu ei bod yn cael ei defnyddio (neu wedi ei defnyddio)—

a

fel man y darperir (neu y darparwyd) gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo neu ohono, neu

b

mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth rheoleiddiedig.

2

Ond ni chaiff arolygydd fynd i mewn ac arolygu mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod y meddiannydd yn cydsynio.

3

Pan fo arolygydd yn mynd i mewn i fangre at ddibenion cynnal arolygiad, rhaid i’r arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny gan unrhyw berson yn y fangre, gyflwyno dogfen sy’n dangos awdurdodiad yr arolygydd o dan adran 33.

4

Caiff yr arolygydd—

a

edrych ar gyflwr y fangre a sut y caiff ei rheoli ac asesu llesiant unrhyw bersonau sy’n cael eu lletya yno neu sy’n cael gofal a chymorth yno;

b

ei gwneud yn ofynnol—

i

i’r rheolwr neu unrhyw berson arall yr ymddengys i’r arolygydd ei fod yn gyfrifol am reoli o ddydd i ddydd y gwasanaeth yn y fangre neu ohoni, neu

ii

pan na fo’r gwasanaeth bellach yn cael ei ddarparu, i berson yr ymddengys i’r arolygydd fod ganddo gyfrifoldeb am reoli’r fangre o ddydd i ddydd,

gyflwyno unrhyw ddogfennau neu gofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol a chofnodion personol eraill) y mae’r arolygydd yn meddwl y gallant fod yn berthnasol i’r ddarpariaeth o’r gwasanaeth rheoleiddiedig;

c

arolygu unrhyw ddogfennau neu gofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol a chofnodion personol eraill) y mae’r arolygydd yn meddwl y gallant fod yn berthnasol i’r ddarpariaeth o’r gwasanaeth rheoleiddiedig a mynd â chopïau ohonynt;

d

ymafael yn unrhyw ddogfen neu unrhyw beth arall y deuir o hyd iddo yn y fangre ac y mae gan yr arolygydd seiliau rhesymol dros gredu y gall fod yn dystiolaeth o fethiant i gydymffurfio ag unrhyw amod neu ofyniad arall a osodir yn rhinwedd y Rhan hon, a symud y ddogfen neu’r peth arall o dan sylw oddi yno;

e

ei gwneud yn ofynnol—

i

i’r rheolwr neu unrhyw berson arall yr ymddengys i’r arolygydd ei fod yn gyfrifol am reoli o ddydd i ddydd y gwasanaeth yn y fangre neu ohoni, neu

ii

pan na fo’r gwasanaeth bellach yn cael ei ddarparu, i berson yr ymddengys i’r arolygydd fod ganddo gyfrifoldeb am reoli’r fangre o ddydd i ddydd,

roi i’r arolygydd unrhyw gyfleusterau a chymorth y mae eu hangen er mwyn ei alluogi i gynnal yr arolygiad;

f

cymryd unrhyw fesuriadau, tynnu unrhyw ffotograffau a gwneud unrhyw recordiadau y mae’r arolygydd yn meddwl eu bod yn angenrheidiol at ddiben cynnal yr arolygiad.

5

Mae’r pwerau yn is-adran (4)(b) i (d) yn cynnwys y pŵer—

a

i gael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar cysylltiedig y mae gan yr arolygydd seiliau rhesymol dros gredu eu bod yn cael eu defnyddio (neu wedi cael eu defnyddio) mewn cysylltiad â’r dogfennau neu’r cofnodion a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar cysylltiedig o’r fath, a

b

i’w gwneud yn ofynnol i ddogfennau neu gofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy’n ddarllenadwy ac yn gludadwy.

6

Mae “mangre” yn cynnwys cerbyd.