ATODLEN 3MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

RHAN 3AMRYWIOL

63Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Yn y testun Cymraeg o adran 46(3) (eithriad ar gyfer personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo), yn lle’r geiriau o “For” hyd at “question” rhodder “At ddibenion is-adran (1), mae adran 95(3) a (5) i (8) o Ddeddf 1999, a pharagraff 2 o Atodlen 8 iddi, yn gymwys ond mae’r cyfeiriadau yn adran 95(5) a (7) a’r paragraff hwnnw at yr Ysgrifennydd Gwladol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol o dan sylw”.