xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
14Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i GCC o unrhyw symiau, ac ar unrhyw adegau ac ar unrhyw amodau (os oes rhai), sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
15(1)Mae’r prif weithredwr i weithredu fel swyddog cyfrifyddu GCC.
(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid GCC, y cyfrifoldebau a bennir mewn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.
(3)Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae—
(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;
(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid GCC;
(c)cyfrifoldebau am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran defnydd GCC o’i adnoddau;
(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;
(e)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Dŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I4Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
16(1)Rhaid i GCC ar gyfer pob blwyddyn ariannol—
(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a
(b)llunio datganiad o gyfrifon.
(2)Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—
(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys ynddo,
(b)ym mha fodd y mae’r wybodaeth i’w chyflwyno, ac
(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i gael ei lunio yn unol â hwy.
(3)Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i GCC gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i—
(a)Gweinidogion Cymru, a
(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru.
(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a)archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno, a
(b)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i’r datganiad gael ei gyflwyno, gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gopi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I6Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
17(1)Heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i GCC gyhoeddi adroddiad ar y ffordd y cafodd ei swyddogaethau eu harfer yn ystod y flwyddyn honno (“adroddiad blynyddol”).
(2)Cyn gynted â phosibl ar ôl i adroddiad blynyddol gael ei gyhoeddi, rhaid i GCC anfon copi ohono at Weinidogion Cymru.
(3)Rhaid i GCC ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw adroddiadau eraill a gwybodaeth arall sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau sy’n ofynnol ganddynt o bryd i’w gilydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I8Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)