ATODLEN 1GWASANAETHAU RHEOLEIDDIEDIG: DIFFINIADAU
5Gwasanaethau maethu
Ystyr “gwasanaeth maethu” yw unrhyw wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan berson ac eithrio awdurdod lleol sy’n gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu sy’n cynnwys y naill neu’r llall o’r canlynol—
a
lleoli plant gyda rhieni maeth awdurdod lleol;
b
arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â’r lleoliad hwnnw.