ATODLEN 1GWASANAETHAU RHEOLEIDDIEDIG: DIFFINIADAU
I1I23Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd
1
“Gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd” yw’r ddarpariaeth o lety ar gyfer plant a’u rhieni mewn man yng Nghymru—
a
lle y mae galluedd y rhieni i ymateb i anghenion y plant ac i ddiogelu eu llesiant yn cael ei fonitro neu ei asesu, a
b
lle y rhoddir i’r rhieni unrhyw ofal a chymorth yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol.
2
Yn is-baragraff (1), ystyr “rhiant” mewn perthynas â phlentyn yw unrhyw berson sy’n gofalu am y plentyn.