Ymgynghori cyn gwneud rheolau etc.LL+C
75Ymgynghori cyn gwneud rheolau etc.LL+C
(1)Rhaid i GCC gydymffurfio â gofynion is-adran (2)—
(a)cyn gwneud unrhyw reolau o dan y Ddeddf hon;
(b)cyn cyhoeddi cod ymarfer o dan adran 112 (codau sy’n pennu’r safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol a’u cyflogwyr);
(c)cyn cyhoeddi canllawiau o dan adran 162 (canllawiau i baneli addasrwydd i ymarfer a phaneli gorchmynion interim mewn cysylltiad ag achosion o dan Ran 6),
oni bai bod is-adran (3) yn gymwys.
(2)Cyn gwneud y rheolau neu gyhoeddi’r cod neu ganllawiau rhaid i GCC—
(a)cyhoeddi drafft o’r rheolau, cod neu ganllawiau arfaethedig yn ogystal ag—
(i)esboniad o ddiben y rheolau, cod neu ganllawiau arfaethedig a chrynodeb o effaith fwriadedig y rheolau, cod neu ganllawiau arfaethedig;
(ii)hysbysiad sy’n pennu’r cyfnod ar gyfer caniatáu i sylwadau gael eu cyflwyno i GCC ynghylch y cynnig, a
(b)cymryd camau rhesymol i roi hysbysiad o’r cynnig a’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau i—
(i)gweithwyr gofal cymdeithasol y mae GCC yn meddwl y gall y cynnig effeithio arnynt,
(ii)Gweinidogion Cymru, a
(iii)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn GCC.
(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw GCC—
(a)wedi ei fodloni bod natur y rheolau, cod neu ganllawiau arfaethedig o’r fath fel y byddai ymgynghori yn amhriodol neu’n anghymesur, a
(b)wedi cael cytundeb Gweinidogion Cymru i fwrw ymlaen heb ymgynghori.
(4)Nid yw adran 184 (cyflwyno dogfennau etc.) yn gymwys i unrhyw beth a wneir gan GCC o dan is-adran (2).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 75 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 75 mewn grym ar 11.7.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/713, ergl. 2
I3A. 75 mewn grym ar 3.4.2017 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)