RHAN 10AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
183Ymchwiliadau
1
Caiff Gweinidogion Cymru beri i ymchwiliad gael ei gynnal i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â darparu gofal a chymorth.
2
Cyn i ymchwiliad ddechrau, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo ei fod i’w gynnal yn breifat.
3
Os na roddir cyfarwyddyd, caiff y person sy’n cynnal yr ymchwiliad benderfynu cynnal yr ymchwiliad, neu ran ohono, yn breifat.
4
Mae is-adrannau (2) i (5) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) (pwerau mewn perthynas ag ymchwiliadau lleol) yn gymwys mewn perthynas ag ymchwiliad o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag ymchwiliad lleol o dan yr adran honno.
5
Rhaid cyhoeddi adroddiad y person sy’n cynnal yr ymchwiliad oni bai bod Gweinidogion Cymru yn meddwl bod amgylchiadau eithriadol dros beidio â’i gyhoeddi (neu unrhyw ran ohono).
184Cyflwyno dogfennau etc.
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon neu mewn rheoliadau neu reolau a wneir odani yn ei gwneud yn ofynnol (ar ba delerau bynnag) i Weinidogion Cymru, GCC neu’r cofrestrydd—
a
hysbysu person am rywbeth, neu
b
rhoi hysbysiad neu ddogfen arall i berson (gan gynnwys copi o ddogfen neu ddogfen ddiwygiedig).
2
Caniateir rhoi’r hysbysiad neu’r ddogfen i’r person o dan sylw—
a
drwy ddosbarthu’r hysbysiad neu’r ddogfen â llaw i’r person;
b
drwy adael yr hysbysiad neu’r ddogfen yng nghyfeiriad cywir y person;
c
drwy anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen drwy’r gwasanaeth danfon cofnodedig—
i
i gyfeiriad cywir y person, neu
ii
pan fo’r person o dan sylw yn ddarparwr gwasanaeth, i gyfeiriad man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo neu ohono;
d
os yw is-adran (3) yn gymwys, drwy anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen yn electronig i gyfeiriad a ddarperir at y diben hwnnw.
3
Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r person y mae’r hysbysiad i’w roi iddo neu y mae’r ddogfen i’w rhoi iddo wedi cytuno i gael yr hysbysiad neu’r ddogfen ar ffurf electronig.
4
At ddibenion is-adran (2)(a), caniateir dosbarthu â llaw hysbysiad neu ddogfen a roddir i gorff corfforaethol drwy roi’r hysbysiad neu’r ddogfen i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.
5
At ddibenion is-adran (2)(b), pan adewir hysbysiad neu ddogfen yng nghyfeiriad cywir y person mae i’w drin fel pe bai’r hysbysiad wedi ei roi neu’r ddogfen wedi ei rhoi ar yr amser y gadawyd yr hysbysiad neu’r ddogfen yn y cyfeiriad hwnnw.
6
Yn is-adran (2)(c), ystyr “gwasanaeth danfon cofnodedig” yw—
a
gwasanaeth eitemau cofrestredig fel y diffinnir “registered items service” yn adran 32(4) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2011 (p.5), neu
b
unrhyw wasanaeth post arall sy’n darparu ar gyfer cofnodi’r dosbarthiad.
7
At ddibenion is-adran (2), cyfeiriad cywir person yw—
a
yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;
b
yn achos partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;
c
yn achos awdurdod lleol, cyfeiriad swyddfa cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod;
d
mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys olaf y person.
8
Pan roddir hysbysiad neu ddogfen fel y’i crybwyllir yn is-adran (2)(c) neu (d) rhaid barnu bod yr hysbysiad wedi ei gael neu’r ddogfen wedi ei chael 48 awr ar ôl anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen oni ddangosir i’r gwrthwyneb.
9
Gweler adran 2 am ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig”, adran 3 am ystyr “darparwr gwasanaeth” ac adran 81 am ystyr “cofrestrydd”.