C11C6C4C2RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

Annotations:

C11C6C4C2PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU

Gofyniad i gofrestru

I1I29C1C11C6C8C4C2C125C11C6C4C2Gofyniad i gofrestru

Mae’n drosedd i berson ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig heb fod wedi ei gofrestru yn unol â’r Bennod hon mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw.

Ymgeisio, amrywio a chanslo cofrestriad

I2I28I55C11C6C4C2I566C11C6C4C2Cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth

1

Rhaid i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth rheoleiddiedig wneud cais ar gyfer cofrestru i Weinidogion Cymru—

a

sy’n pennu’r gwasanaeth rheoleiddiedig y mae’r person yn dymuno ei ddarparu,

b

sy’n pennu’r mannau y mae’r gwasanaeth i’w ddarparu ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy,

c

sy’n dynodi unigolyn fel yr unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â phob un o’r mannau hynny ac sy’n datgan enw a chyfeiriad pob unigolyn o’r fath (mae adran 21 yn nodi pwy y caniateir iddo gael ei ddynodi’n unigolyn cyfrifol), a

d

sy’n cynnwys unrhyw wybodaeth arall a ragnodir.

2

Rhaid i gais fod ar y ffurf ragnodedig.

3

Caiff person sy’n dymuno cael ei gofrestru fel darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â dau neu ragor o wasanaethau rheoleiddiedig wneud un cais mewn cysylltiad â hwy.

I3I307C11C6C4C2Caniatáu neu wrthod cofrestriad fel darparwr gwasanaeth

C91

Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu cais o dan adran 6 os ydynt wedi eu bodloni—

a

bod y cais—

i

yn cynnwys popeth sy’n ofynnol gan neu o dan is-adran (1) o’r adran honno,

ii

yn achos cais sy’n ymwneud â gwasanaeth cymorth cartref, yn cynnwys yr ymgymeriad yn adran 8, a

iii

yn bodloni’r gofynion a ragnodir o dan adran 6(2);

b

bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth (gweler adran 9);

c

o ran pob unigolyn sydd i’w ddynodi’n unigolyn cyfrifol—

i

ei fod yn gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol yn unol ag adran 21(2),

ii

ei fod yn berson addas a phriodol i fod yn unigolyn cyfrifol (gweler adran 9), a

iii

y bydd yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion mewn rheoliadau o dan adran 28 (i’r graddau y bônt yn gymwys);

d

y bydd cydymffurfedd â gofynion—

i

unrhyw reoliadau o dan adran 27 (gan gynnwys unrhyw ofynion o ran safon y gofal a’r cymorth y mae rhaid eu darparu), a

ii

unrhyw ddeddfiad arall yr ymddengys i Weinidogion Cymru ei fod yn berthnasol,

(i’r graddau y bônt yn gymwys) mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig.

C92

Mewn unrhyw achos arall rhaid i Weinidogion Cymru wrthod cais.

3

O ran caniatáu cais—

a

rhaid iddo fod yn ddarostyngedig i amod sy’n pennu—

i

y mannau y mae’r darparwr gwasanaeth i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy, a

ii

yr unigolyn sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol ar gyfer pob un o’r mannau hynny, a

b

caiff fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau pellach sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

4

Pan fo person wedi gwneud un cais mewn cysylltiad â dau neu ragor o wasanaethau rheoleiddiedig caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod y cais ar wahân mewn cysylltiad â phob gwasanaeth.

5

Ond dim ond os yw gofynion adrannau 18 i 20 wedi eu bodloni (i’r graddau y bônt yn gymwys) y mae caniatâd i gais yn cymryd effaith.

I4I318Hyd ymweliadau cymorth cartref

1

Yr ymgymeriad a grybwyllir yn adran 7(1)(a)(ii) ac 11(3)(a)(ii) yw na fydd gwasanaeth cymorth cartref yn cael ei ddarparu drwy ymweliad sy’n fyrrach na 30 munud oni bai bod naill ai amod A, B neu C wedi ei fodloni.

2

Mae Amod A yn gymwys pan—

a

fo’n ofynnol i awdurdod lleol—

i

yn rhinwedd adran 35 neu 37 o Ddeddf 2014, ddiwallu anghenion y person yr ymwelir ag ef, neu

ii

yn rhinwedd adran 40 neu 42 o’r Ddeddf honno, ddiwallu anghenion gofalwr y person hwnnw, a

b

fo’r awdurdod yn diwallu’r anghenion hynny drwy ddarparu gwasanaeth cymorth cartref neu drwy drefnu bod gwasanaeth cymorth cartref yn cael ei ddarparu i’r person yr ymwelir ag ef.

3

Amod A yw—

a

bod yr unigolyn sy’n cynnal yr ymweliad wedi cynnal ymweliad blaenorol yn ystod y cyfnod y mae’r awdurdod lleol yn cynnal—

i

cynllun gofal a chymorth o dan adran 54(1) o Ddeddf 2014 mewn cysylltiad â’r person yr ymwelir ag ef, neu

ii

cynllun cymorth o dan yr adran honno mewn cysylltiad â gofalwr y person, a

b

naill ai—

i

y cynhelir yr ymweliad at yr unig ddiben o gadarnhau a yw’r person yn ddiogel ac yn iach, neu

ii

y gall y tasgau sydd i gael eu cwblhau yn ystod yr ymweliad gael eu cwblhau’n rhesymol, a’u bod yn cael eu cwblhau, i safon sy’n bodloni unrhyw ofynion a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 27 sy’n berthnasol i’r ymweliad.

4

Mae Amod B yn gymwys pan fo gwasanaeth cymorth cartref yn cael ei ddarparu o dan amgylchiadau pan na fo Amod A yn gymwys.

5

Amod B yw—

a

bod ymweliad sy’n llai na 30 munud yn gyson â thelerau unrhyw drefniant i ddarparu’r gwasanaeth a wneir rhwng y darparwr gwasanaeth a’r person yr ymwelir ag ef (neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y person yr ymwelir ag ef),

b

y cynhelir yr ymweliad at yr unig ddiben o gadarnhau a yw’r person yn ddiogel ac yn iach, neu

c

y gall y tasgau sydd i gael eu cwblhau yn ystod yr ymweliad gael eu cwblhau’n rhesymol, a’u bod yn cael eu cwblhau, i safon sy’n bodloni unrhyw ofynion a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 27 sy’n berthnasol i’r ymweliad.

6

Mae Amod C yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo gwasanaeth cymorth cartref yn cael ei ddarparu drwy ymweliad â pherson.

7

Amod C yw bod yr ymweliad yn cael ei gwtogi ar gais y person yr ymwelir ag ef.

I5I329Person addas a phriodol: ystyriaethau perthnasol

1

Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru o ran a yw⁠—

a

darparwr gwasanaeth,

b

person sy’n gwneud cais i fod yn ddarparwr gwasanaeth,

c

unigolyn cyfrifol, neu

d

person sydd i’w ddynodi’n unigolyn cyfrifol,

yn berson addas a phriodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth neu, yn ôl y digwydd, unigolyn cyfrifol.

2

Wrth wneud penderfyniad o’r fath rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r holl faterion sy’n briodol yn eu barn hwy.

3

Yn benodol, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw dystiolaeth sy’n dod o fewn is-adrannau (4) i (8).

4

Mae tystiolaeth yn dod o fewn yr is-adran hon os yw’n dangos bod y person wedi—

a

cyflawni—

i

unrhyw drosedd sy’n ymwneud â thwyll neu anonestrwydd arall, trais, arfau tanio neu gyffuriau neu unrhyw drosedd sydd wedi ei rhestru yn Atodlen 3 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (p.42) (troseddau sydd â gofynion hysbysu),

ii

trosedd o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir odani,

iii

trosedd o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14) neu reoliadau a wneir odani, neu

iv

unrhyw drosedd arall sy’n berthnasol ym marn Gweinidogion Cymru, neu

b

aflonyddu ar rywun, neu wahaniaethu’n anghyfreithlon, ar sail unrhyw nodwedd sy’n nodwedd warchodedig o dan adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p.15), neu wedi erlid person arall yn groes i’r Ddeddf honno, wrth gynnal unrhyw fusnes neu mewn cysylltiad â hynny.

5

Mae tystiolaeth o fewn yr is-adran hon—

a

os yw’n dangos bod unrhyw berson arall sy’n gysylltiedig â’r person neu a oedd yn gysylltiedig â’r person gynt (pa un ai ar sail bersonol, ar sail gwaith neu ar sail arall) wedi gwneud unrhyw un neu ragor o’r pethau a nodir yn is-adran (4) F1neu (6) , a

b

os ymddengys i Weinidogion Cymru fod y dystiolaeth yn berthnasol wrth ystyried a yw’r person yn berson addas a phriodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth neu, yn ôl y digwydd, yn unigolyn cyfrifol.

6

Mae tystiolaeth o fewn yr is-adran hon os yw’n dangos bod y person wedi bod yn gyfrifol am gamymddwyn neu gamreoli, neu wedi cyfrannu ato neu wedi ei hwyluso, wrth ddarparu—

a

gwasanaeth rheoleiddiedig neu wasanaeth a ddarperir y tu allan i Gymru a fyddai’n wasanaeth rheoleiddiedig pe bai’n cael ei ddarparu yng Nghymru;

b

gwasanaeth a fyddai wedi dod o fewn paragraff (a) pe bai’r system reoleiddiol sydd wedi ei sefydlu gan y Rhan hon wedi bod yn weithredol ar yr adeg pan oedd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu.

7

Wrth roi sylw i dystiolaeth o fewn is-adran (6), rhaid i Weinidogion Cymru, ymhlith pethau eraill, ystyried—

a

pa mor ddifrifol yw’r camymddwyn neu’r camreoli ac am ba hyd y bu’n digwydd;

b

niwed a achoswyd i unrhyw berson, neu unrhyw dystiolaeth o fwriad i achosi niwed;

c

unrhyw fantais ariannol a enillwyd gan y person;

d

unrhyw gamau a gymerwyd gan y person i unioni’r camymddwyn neu’r camreoli.

8

Mae tystiolaeth o fewn yr is-adran hon os yw’n dangos bod y person wedi methu’n flaenorol â chydymffurfio—

a

ag ymgymeriad a roddir o dan adran 7(1)(a)(ii) neu 11(3)(a)(ii),

b

ag amod a osodir o dan y Rhan hon, neu

c

â gofyniad a osodir gan reoliadau o dan adran 27(1) neu 28(1).

9

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon i amrywio’r dystiolaeth y mae rhaid iddynt roi sylw iddi.

I6I3310Datganiad blynyddol

1

Rhaid i ddarparwr gwasanaeth gyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol y mae’r darparwr wedi ei gofrestru ynddi.

2

Rhaid i ddatganiad blynyddol gynnwys—

a

yr wybodaeth a ganlyn—

i

y gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i’w darparu;

ii

y mannau y mae’r darparwr wedi ei gofrestru i ddarparu’r gwasanaethau hynny ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy;

iii

enw’r unigolyn cyfrifol sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â phob man o’r fath;

iv

y dyddiad y cymerodd cofrestriad y darparwr effaith mewn cysylltiad â phob gwasanaeth rheoleiddiedig a phob man o’r fath;

v

manylion unrhyw amodau eraill a osodir ar gofrestriad y darparwr gwasanaeth;

vi

manylion am nifer y personau y darparodd y darparwr ofal a chymorth iddynt yn ystod y flwyddyn wrth ddarparu pob gwasanaeth o’r fath;

vii

unrhyw wybodaeth a ragnodir am hyfforddiant a gynigir neu a gyflawnir mewn perthynas â phob gwasanaeth o’r fath;

viii

unrhyw wybodaeth am gynllunio’r gweithlu a ragnodir;

ix

unrhyw wybodaeth arall a ragnodir, a

b

datganiad sy’n nodi sut y mae’r darparwr gwasanaeth wedi cydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 27(1) sy’n pennu safon y gofal a’r cymorth y mae rhaid i ddarparwr gwasanaeth ei darparu (gweler adran 27(2)).

3

Rhaid i ddatganiad blynyddol fod ar y ffurf ragnodedig.

4

Rhaid cyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru o fewn y terfyn amser rhagnodedig.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi pob datganiad blynyddol a gyflwynir o dan is-adran (1).

6

Er gwaethaf adran 187(3), ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys—

a

y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2)(a)(vii),

b

y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2)(a)(viii), neu

c

y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2)(a)(ix),

oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

I7I3411Cais i amrywio cofrestriad fel darparwr gwasanaeth

1

Rhaid i ddarparwr gwasanaeth wneud cais i Weinidogion Cymru ar gyfer amrywio cofrestriad y darparwr—

a

os yw’r darparwr yn dymuno—

i

darparu gwasanaeth rheoleiddiedig nad yw’r darparwr eisoes wedi ei gofrestru i’w ddarparu,

ii

darparu gwasanaeth rheoleiddiedig mewn man, o fan neu mewn perthynas â man nad yw eisoes wedi ei bennu yng nghofrestriad y darparwr mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw,

iii

peidio â darparu gwasanaeth rheoleiddiedig, neu

iv

peidio â darparu gwasanaeth rheoleiddiedig mewn man, o fan neu mewn perthynas â man;

b

os yw’r darparwr yn dymuno i amod a osodir o dan adran 7(3)(b), 12(2) neu 13(1) gael ei amrywio neu ei ddileu;

c

os yw’r darparwr yn dymuno dynodi unigolyn cyfrifol gwahanol mewn cysylltiad â man neu y mae’n ofynnol iddo ddynodi unigolyn cyfrifol oherwydd nad oes unigolyn o’r fath wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi terfyn amser y mae rhaid cyflwyno cais i amrywio cofrestriad darparwr ynddo o dan amgylchiadau pan na fo unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.

3

Rhaid i gais o dan is-adran (1)—

a

cynnwys—

i

manylion yr amrywiad y mae’r darparwr yn gofyn amdano,

ii

yn achos cais o dan is-adran (1)(a)(i) i ddarparu gwasanaeth cymorth cartref, yr ymgymeriad yn adran 8, a

iii

unrhyw wybodaeth arall a ragnodir;

b

bod ar y ffurf ragnodedig.

I8I3512C11C6C4C2Caniatáu neu wrthod cais am amrywiad

C101

Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod cais o dan adran 11 (ond gweler is-adran (2)).

2

Yn achos cais o dan adran 11(1)(b), caiff Gweinidogion Cymru (yn lle caniatáu neu wrthod y cais)—

a

amrywio amod ar delerau gwahanol i’r rhai a bennir yn y cais, neu

b

gosod amod arall ar gofrestriad y darparwr (pa un ai yn lle’r amod y gwnaeth y darparwr gais i’w amrywio neu ei ddileu neu’n ychwanegol at yr amod hwnnw).

3

Ond dim ond os yw gofynion adrannau 18 i 20 wedi eu bodloni (i’r graddau y bônt yn gymwys) y mae amrywiad o dan yr adran hon yn cymryd effaith.

I9I3613Amrywio heb gais

1

Caiff Gweinidogion Cymru—

a

amrywio unrhyw amod a osodir o dan adran 7(3)(b), 12(2) neu baragraff (b) o’r is-adran hon, neu

b

gosod amod pellach ar gofrestriad darparwr gwasanaeth.

2

Ni chaniateir amrywio cofrestriad darparwr o dan is-adran (1) oni bai bod gofynion adrannau 18 a 19 wedi eu bodloni (ond nid yw hyn yn effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i amrywio cofrestriad ar frys o dan adran 25).

3

Os yw darparwr gwasanaeth yn darparu mwy nag un gwasanaeth rheoleiddiedig, caiff Gweinidogion Cymru amrywio cofrestriad y darparwr drwy ddileu gwasanaeth rheoleiddiedig—

a

os ydynt wedi eu bodloni nad yw’r darparwr gwasanaeth bellach yn darparu’r gwasanaeth hwnnw, neu

b

os ydynt wedi eu bodloni nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r gofynion a grybwyllir yn adran 7(1)(d) i’r graddau y bônt yn gymwys i’r gwasanaeth hwnnw.

4

Os yw darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig mewn mwy nag un man, o fwy nag un man neu mewn perthynas â mwy nag un man, caiff Gweinidogion Cymru amrywio cofrestriad y darparwr drwy ddileu man os ydynt wedi eu bodloni—

a

nad yw’r darparwr gwasanaeth bellach yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig yn y man hwnnw, ohono neu mewn perthynas ag ef,

b

nad yw’r gwasanaeth a ddarperir yn y man hwnnw, ohono neu mewn perthynas ag ef yn cael ei ddarparu yn unol â’r gofynion a grybwyllir yn adran 7(1)(d) i’r graddau y bônt yn gymwys i’r gwasanaeth hwnnw, neu

c

nad oes unrhyw unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â’r man hwnnw (a bod y terfyn amser a ragnodir o dan adran 11(2) wedi dod i ben).

5

Ni chaniateir i amrywiad gael ei wneud o dan is-adran (3) neu (4) oni bai bod gofynion adrannau 16 ac 17 wedi eu bodloni (ond nid yw hyn yn effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i amrywio cofrestriad ar frys o dan adran 23).

I10I3714Cais i ganslo cofrestriad fel darparwr gwasanaeth

1

Os yw darparwr gwasanaeth yn gwneud cais i Weinidogion Cymru i ganslo ei gofrestriad, rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu’r cais oni bai eu bod wedi cymryd camau gyda golwg ar ganslo’r cofrestriad o dan adran 15 neu 23.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ynghylch caniatáu cais i ganslo o dan yr adran hon i’r darparwr gwasanaeth.

3

Mae canslo o dan yr adran hon yn cymryd effaith—

a

ar y diwrnod sydd 3 mis ar ôl y diwrnod y mae’r darparwr gwasanaeth yn cael yr hysbysiad, neu

b

ar unrhyw ddiwrnod cynharach a bennir gan Weinidogion Cymru yn yr hysbysiad.

I11I3815Canslo heb gais

1

Caiff Gweinidogion Cymru ganslo cofrestriad darparwr gwasanaeth ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—

a

nid yw’r darparwr gwasanaeth bellach yn darparu unrhyw wasanaethau rheoleiddiedig;

b

nid yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bellach fod y darparwr gwasanaeth yn berson addas a phriodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth (gweler adran 9);

c

nid oes unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â phob man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef (ac mae’r terfyn amser ar gyfer gwneud cais i amrywio’r cofrestriad a ragnodir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 11(2) wedi dod i ben);

d

mae’r darparwr gwasanaeth neu unigolyn cyfrifol sydd wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth;

e

mae unrhyw berson arall wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth;

f

nid yw gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r gofynion a grybwyllir yn adran 7(1)(d) i’r graddau y bônt yn gymwys i’r gwasanaeth hwnnw.

2

At ddibenion is-adran (1)(d) ac (e), mae’r canlynol yn droseddau perthnasol—

a

trosedd o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir odani;

b

trosedd o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14) neu reoliadau a wneir odani;

c

unrhyw drosedd sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn ei gwneud yn briodol i’r cofrestriad gael ei ganslo (gan gynnwys tramgwydd a gyflawnwyd y tu allan i Gymru a Lloegr a fyddai’n drosedd pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr).

3

Ni chaniateir i gofrestriad gael ei ganslo o dan yr adran hon oni bai bod gofynion adrannau 16 a 17 wedi eu bodloni (ond nid yw hyn yn effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i ganslo cofrestriad ar frys o dan adran 23).

Gofynion hysbysiadau

I12I3916Hysbysiadau gwella

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu—

a

canslo cofrestriad darparwr gwasanaeth o dan adran 15, neu

b

amrywio cofrestriad darparwr o dan adran 13(3) neu (4).

2

Cyn canslo neu amrywio’r cofrestriad rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad gwella i’r darparwr gwasanaeth.

3

Rhaid i hysbysiad gwella a roddir o dan is-adran (2) bennu—

a

ar ba sail y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu canslo neu amrywio’r cofrestriad ac, yn achos amrywiad, y modd y gwneir yr amrywiad,

b

y camau y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl y mae rhaid i’r darparwr eu cymryd, neu’r wybodaeth y mae rhaid i’r darparwr ei darparu, er mwyn eu bodloni nad yw canslo neu amrywio ar y sail honno yn briodol, ac

c

terfyn amser—

i

ar gyfer cymryd y camau neu ddarparu’r wybodaeth, a

ii

i’r darparwr gwasanaeth gyflwyno sylwadau.

4

Caiff y darparwr gwasanaeth gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru cyn i’r terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad gwella ddod i ben a rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r sylwadau hynny wrth benderfynu beth i’w wneud o dan adran 17.

I13I4017Hysbysiad o benderfyniad yn dilyn hysbysiad gwella

1

Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

a

bod y camau a bennir mewn hysbysiad gwella wedi eu cymryd, neu

b

bod yr wybodaeth a bennir felly wedi ei darparu,

o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, rhaid iddynt hysbysu’r darparwr gwasanaeth eu bod wedi penderfynu peidio â chanslo neu amrywio cofrestriad y darparwr ar y sail a bennir yn yr hysbysiad gwella.

2

Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr wybodaeth a bennir mewn hysbysiad gwella wedi ei darparu o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, rhaid iddynt roi hysbysiad o benderfyniad i’r darparwr gwasanaeth sy’n datgan bod cofrestriad y darparwr i’w ganslo neu i’w amrywio ar y sail a bennir yn yr hysbysiad gwella.

3

Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y camau a bennir mewn hysbysiad gwella wedi eu cymryd o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, rhaid iddynt naill ai—

a

rhoi hysbysiad o benderfyniad i’r darparwr gwasanaeth sy’n datgan bod cofrestriad y darparwr i’w ganslo neu i’w amrywio ar y sail a bennir yn yr hysbysiad gwella, neu

b

hysbysu’r darparwr—

i

nad yw’r camau wedi eu cymryd,

ii

am ddyddiad newydd erbyn pryd y mae rhaid cymryd y camau,

iii

y bydd arolygiad o dan adran 33 o’r gwasanaeth rheoleiddiedig neu’r man y mae’r hysbysiad gwella yn ymwneud ag ef yn cael ei gynnal ar ôl y dyddiad hwnnw, a

iv

y byddant, ar ôl yr arolygiad hwnnw, os nad yw’r camau wedi eu cymryd, yn bwrw ymlaen i ganslo neu amrywio cofrestriad y darparwr ar y sail a bennir yn yr hysbysiad gwella.

4

Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, ar ôl yr arolygiad, fod y camau a bennir yn yr hysbysiad gwella wedi eu cymryd, rhaid iddynt hysbysu’r darparwr gwasanaeth eu bod wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen i ganslo neu amrywio cofrestriad y darparwr ar y sail a bennir yn yr hysbysiad gwella.

5

Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni o hyd, ar ôl yr arolygiad, fod y camau a bennir yn yr hysbysiad gwella wedi eu cymryd, rhaid iddynt roi hysbysiad o benderfyniad i’r darparwr gwasanaeth sy’n datgan bod cofrestriad y darparwr i’w ganslo neu i’w amrywio ar y sail a bennir yn yr hysbysiad gwella.

6

Rhaid i hysbysiad o benderfyniad a roddir o dan is-adran (2), (3)(a) neu (5)—

a

datgan y rhesymau dros y penderfyniad (gan gynnwys y seiliau dros ganslo neu amrywio), a

b

esbonio’r hawl i apelio a roddir gan adran 26.

7

Mae penderfyniad a ddatgenir mewn hysbysiad a roddir o dan is-adran (2), (3)(a) neu (5) yn cymryd effaith—

a

os na wneir apêl yn erbyn y penderfyniad, ar y diwrnod ar ôl diwrnod olaf y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y cyfeirir ato yn adran 26(2), neu

b

os gwneir apêl, ar y diwrnod a bennir gan y tribiwnlys wrth ddyfarnu ar yr apêl neu ar y diwrnod y tynnir yr apêl yn ôl.

I14I4118Hysbysiad o gynnig

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu—

a

caniatáu cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth yn ddarostyngedig i amod na chytunwyd arno’n ysgrifenedig â’r ymgeisydd,

b

gwrthod cais i gofrestru neu i amrywio cofrestriad fel darparwr gwasanaeth, neu

c

amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth ac eithrio—

i

yn unol â chais am amrywiad a wneir o dan adran 11, neu

ii

o dan adran 13(3) neu (4), 23(1)(b) neu 25(2)(a).

2

Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’r cynnig i’r darparwr gwasanaeth—

a

sy’n pennu’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd,

b

sy’n rhoi rhesymau dros y cynnig, ac

c

sy’n pennu terfyn amser o ddim llai nag 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad y caiff y darparwr gwasanaeth gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ynddo.

3

Caiff hysbysiad o gynnig bennu’r camau a fyddai’n arwain, pe baent yn cael eu cymryd gan ddarparwr o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, at Weinidogion Cymru yn peidio â chymryd y camau y maent yn eu cynnig yn yr hysbysiad.

4

Yn achos gwrthod cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth mae cyfeiriadau yn yr adran hon ac adran 19 at “darparwr gwasanaeth” i’w trin fel cyfeiriadau at y person a wnaeth gais i gael ei gofrestru fel darparwr gwasanaeth.

I15I4219Hysbysiad o benderfyniad yn dilyn hysbysiad o gynnig

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad o gynnig.

2

Wrth wneud penderfyniad am y cynnig, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir iddynt (pa un ai gan y darparwr gwasanaeth neu gan unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl bod ganddo fuddiant).

3

Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod darparwr gwasanaeth wedi cymryd unrhyw gamau a bennir o dan adran 18(3) o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad o gynnig, rhaid iddynt beidio â chymryd y camau a gynigir yn yr hysbysiad.

4

Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o benderfyniad i’r darparwr gwasanaeth heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau ar ôl i’r diweddaraf o’r canlynol ddod i ben—

a

y terfyn amser a bennir o dan is-adran (2)(c) o adran 18, neu

b

unrhyw derfyn amser a bennir o dan is-adran (3) o’r adran honno.

5

Er gwaethaf is-adran (4), mae hysbysiad o benderfyniad a roddir ar ôl y cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno yn ddilys os yw’r hysbysiad—

a

yn rhoi’r rhesymau dros yr oedi cyn gwneud y penderfyniad, a

b

yn cael ei roi heb fod yn hwyrach na 56 o ddiwrnodau ar ôl i’r diweddaraf o’r terfynau amser a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) o is-adran (4) ddod i ben.

6

Rhaid i hysbysiad o benderfyniad a roddir o dan is-adran (4)—

a

datgan a yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad o gynnig,

b

rhoi rhesymau dros y penderfyniad, ac

c

os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad o gynnig, esbonio’r hawl i apelio a roddir gan adran 26.

7

Mae penderfyniad a ddatgenir mewn hysbysiad a roddir o dan is-adran (4) i gymryd camau a bennir mewn hysbysiad o gynnig yn cymryd effaith—

a

os na wneir apêl yn erbyn y penderfyniad, ar y diwrnod ar ôl diwrnod olaf y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y cyfeirir ato yn adran 26(2), neu

b

os gwneir apêl, ar y diwrnod a bennir gan y tribiwnlys wrth ddyfarnu ar yr apêl neu ar y diwrnod y tynnir yr apêl yn ôl.

8

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio—

a

y cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adran (4);

b

y cyfnod o 56 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adran (5)(b).

I16I4320Hysbysiad o benderfyniad heb hysbysiad o gynnig

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu—

a

caniatáu cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth yn ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig â’r ymgeisydd, neu

b

amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth yn unol â chais am amrywiad a wneir o dan adran 11.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o benderfyniad i’r darparwr gwasanaeth.

3

Mae penderfyniad a ddatgenir mewn hysbysiad a roddir o dan is-adran (2) yn cymryd effaith ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.

Unigolion cyfrifol

I17I4421C11C6C4C2Unigolion cyfrifol

1

Yn y Rhan hon, ystyr “unigolyn cyfrifol” yw unigolyn—

a

sy’n gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol o dan is-adran (2),

b

y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei fod yn berson addas a phriodol i fod yn unigolyn cyfrifol (gweler adran 9), ac

c

sydd wedi ei ddynodi gan ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef ac a bennir felly yng nghofrestriad y darparwr gwasanaeth.

C3C7C52

I fod yn gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol rhaid i’r unigolyn—

a

pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, fod y darparwr gwasanaeth;

b

pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, fod yn un o’r partneriaid;

c

pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol ac eithrio awdurdod lleol—

i

bod yn gyfarwyddwr neu’n swyddog tebyg yn y corff,

ii

yn achos cwmni cyfyngedig cyhoeddus, fod yn gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd yn y cwmni, neu

iii

yn achos corff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, fod yn aelod o’r corff;

d

pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff anghorfforedig, fod yn aelod o’r corff;

e

pan fo’r darparwr gwasanaeth yn awdurdod lleol, fod yn swyddog yn yr awdurdod lleol a ddynodir gan gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod.

3

At ddibenion is-adran (2)(e), dim ond os yw cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yn meddwl bod gan swyddog y profiad a’r arbenigedd angenrheidiol i fod yn unigolyn cyfrifol y caiff ddynodi’r swyddog hwnnw.

4

Caniateir i’r un unigolyn cyfrifol gael ei ddynodi mewn cysylltiad â mwy nag un man y darperir gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.

5

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—

a

pennu amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru (yn lle darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol er nad yw gofynion is-adran (2) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r unigolyn, a

b

gwneud darpariaeth i’r Rhan hon fod yn gymwys gydag addasiadau rhagnodedig i unigolyn cyfrifol o’r fath.

I18I4522Canslo dynodiad unigolyn cyfrifol

1

Dim ond ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn y caiff Gweinidogion Cymru ganslo dynodiad unigolyn cyfrifol—

a

bod rheswm ganddynt dros gredu nad yw’r unigolyn bellach yn bodloni gofynion adran 21(2);

b

bod rheswm ganddynt dros gredu bod yr unigolyn wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth;

c

nad ydynt bellach wedi eu bodloni bod yr unigolyn yn berson addas a phriodol i fod yn unigolyn cyfrifol (gweler adran 9);

d

bod rheswm ganddynt dros gredu nad yw’r unigolyn wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir ar yr unigolyn gan reoliadau o dan adran 28(1).

2

Yn is-adran (1)(b), mae i “trosedd berthnasol” yr un ystyr ag yn adran 15.

3

Os yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu canslo dynodiad unigolyn cyfrifol rhaid iddynt roi hysbysiad gwella i’r unigolyn.

4

Rhaid i hysbysiad gwella a roddir o dan is-adran (3) bennu—

a

y rheswm pam y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu canslo dynodiad yr unigolyn cyfrifol,

b

naill ai—

i

y camau y maent yn meddwl y mae rhaid i’r unigolyn eu cymryd, neu

ii

yr wybodaeth y maent yn meddwl y mae rhaid i’r unigolyn ei darparu,

er mwyn eu bodloni na ddylid canslo dynodiad yr unigolyn, ac

c

terfyn amser ar gyfer cymryd y camau neu ddarparu’r wybodaeth.

5

Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

a

bod y camau a bennir mewn hysbysiad gwella wedi eu cymryd, neu

b

bod yr wybodaeth a bennir felly wedi ei darparu,

o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad cânt roi hysbysiad canslo.

6

Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad canslo dynodiad unigolyn cyfrifol heb gymryd y camau a grybwyllir yn is-adrannau (3) i (5) os oes ganddynt sail resymol dros gredu y bydd person, neu y gall person fod, yn agored i berygl o niwed oni bai bod y dynodiad yn cael ei ganslo.

7

Rhaid rhoi hysbysiad canslo—

a

i’r unigolyn cyfrifol, a

b

i’r darparwr gwasanaeth a ddynododd yr unigolyn.

8

Mae unigolyn yn peidio â bod wedi ei ddynodi’n unigolyn cyfrifol pan roddir yr hysbysiad canslo i’r darparwr gwasanaeth.

9

Rhaid i hysbysiad canslo—

a

rhoi rhesymau dros y penderfyniad,

b

esbonio’r hawl i apelio a roddir gan adran 26,

c

esbonio’r gofyniad ar y darparwr gwasanaeth i wneud cais am amrywiad i’r cofrestriad (gweler adran 11(1)(c)), a

d

datgan y terfyn amser a ragnodir o dan adran 11(2) (terfyn amser rhagnodedig ar gyfer gwneud cais i ddynodi unigolyn cyfrifol newydd).

10

Yn is-adran (6), ystyr “niwed” yw cam-drin neu amharu ar—

a

iechyd corfforol neu iechyd meddwl, neu

b

datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiadol,

ac mewn achos pan fo’r niwed yn ymwneud ag amhariad ar iechyd neu ddatblygiad plentyn, mae iechyd neu ddatblygiad y plentyn i’w gymharu â’r hyn y gellid ei ddisgwyl yn rhesymol oddi wrth blentyn tebyg.

Gweithredu ar frys

I19I4623Canslo neu amrywio gwasanaethau neu fannau ar frys

1

Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i ynad heddwch am orchymyn sy’n eu hawdurdodi—

a

i ganslo cofrestriad darparwr gwasanaeth, neu

b

i amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth drwy ddileu o’r cofrestriad—

i

gwasanaeth rheoleiddiedig, neu

ii

man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.

2

Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud cais am orchymyn o dan is-adran (1) ond ar y sail, oni bai bod y cofrestriad yn cael ei ganslo neu ei amrywio—

a

bod perygl difrifol i—

i

bywyd person, neu

ii

iechyd corfforol neu iechyd meddwl person, neu

b

bod perygl difrifol bod person yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod.

3

Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud cais o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu—

a

pob awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig yn ei ardal, a

b

unrhyw berson arall y mae’n briodol ei hysbysu ym marn Gweinidogion Cymru.

4

Dim ond os yw’r ynad heddwch wedi ei fodloni o ran y sail y gwnaeth Gweinidogion Cymru y cais arni y caiff yr ynad wneud y gorchymyn.

5

Caniateir i orchymyn o dan yr adran hon gael ei wneud yn absenoldeb y darparwr gwasanaeth y mae’n ymwneud ag ef os yw’r ynad heddwch wedi ei fodloni—

a

bod Gweinidogion Cymru wedi cymryd pob cam rhesymol i hysbysu’r darparwr gwasanaeth am eu bwriad i wneud cais am orchymyn o dan yr adran hon, neu

b

nad yw’n briodol cymryd unrhyw gamau o’r fath.

6

Mae gorchymyn a wneir o dan yr adran hon yn cael effaith—

a

cyn gynted ag y caiff y gorchymyn ei wneud, neu

b

ar unrhyw adeg arall sy’n briodol ym marn yr ynad heddwch.

7

Yn benodol, caiff yr ynad heddwch bennu bod y gorchymyn i beidio â chymryd effaith hyd nes yr adeg ar ôl rhoi’r hysbysiad o dan adran 24(1) sy’n briodol ym marn yr ynad heddwch.

I20I4724Canslo neu amrywio ar frys: hysbysiadau ac apelau

1

Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i orchymyn gael ei wneud o dan adran 23 rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r darparwr gwasanaeth y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef sy’n esbonio—

a

telerau’r gorchymyn, a

b

yr hawl i apelio a roddir gan is-adran (2).

2

Heb fod yn hwyrach na 14 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad a roddir o dan is-adran (1), caiff y darparwr gwasanaeth apelio i’r tribiwnlys yn erbyn gwneud y gorchymyn.

3

Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl i’r cyfnod hwnnw o 14 o ddiwrnodau ddod i ben os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben (a thros unrhyw oedi wrth wneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

4

Ar apêl o dan is-adran (2), caiff y tribiwnlys—

a

cadarnhau’r gorchymyn;

b

dirymu’r gorchymyn;

c

gwneud unrhyw orchymyn arall (gan gynnwys gorchymyn interim) sy’n briodol ym marn y tribiwnlys.

5

Caiff gorchymyn interim gan y tribiwnlys, ymhlith pethau eraill, atal dros dro effaith gorchymyn a wneir o dan adran 23 am gyfnod a bennir gan y tribiwnlys.

I21I4825Amrywio cofrestriad ar frys: amodau eraill

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn meddwl oni bai eu bod yn gweithredu o dan yr adran hon—

a

bod perygl, neu y gall fod perygl, i—

i

bywyd person, neu

ii

iechyd corfforol neu iechyd meddwl person, neu

b

bod perygl, neu y gall fod perygl, bod person yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod.

2

Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad o benderfyniad i ddarparwr gwasanaeth—

a

sy’n amrywio amod a osodwyd o dan adran 7(3)(b), 12(2), 13(1) neu a osodwyd o’r blaen o dan yr adran hon, neu

b

sy’n gosod amod y gellid bod wedi ei osod o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau hynny.

3

Mae hysbysiad o benderfyniad a roddir o dan is-adran (2) yn cymryd effaith ar y dyddiad y’i rhoddir.

4

Rhaid i hysbysiad o benderfyniad o dan is-adran (2)—

a

datgan ei fod wedi ei roi o dan yr adran hon,

b

pennu’r amod sydd i’w amrywio neu ei osod,

c

rhoi rhesymau dros osod neu amrywio’r amod,

d

esbonio’r hawl i gyflwyno sylwadau a roddir gan is-adran (5), ac

e

esbonio’r hawl i apelio a roddir gan adran 26.

5

Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddileu amod a amrywir neu a osodir o dan is-adran (2) drwy roi hysbysiad pellach o benderfyniad i’r darparwr gwasanaeth, ond cyn gwneud hynny rhaid iddynt roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynwyd iddynt gan y darparwr gwasanaeth ynghylch y hysbysiad a roddwyd o dan is-adran (2).

6

Mae hysbysiad o benderfyniad a roddir o dan is-adran (5) yn cymryd effaith ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

7

Rhaid i hysbysiad o benderfyniad a roddir o dan is-adran (5)—

a

datgan ei fod wedi ei roi o dan yr adran hon,

b

pennu’r amod sydd i’w amrywio neu ei ddileu,

c

rhoi rhesymau dros y penderfyniad, a

d

esbonio’r hawl i apelio a roddir gan adran 26.

Apelau

I22I4926Apelau

1

Mae apêl yn erbyn penderfyniad sydd wedi ei gynnwys mewn hysbysiad a roddir o dan adran 17(2), (3)(a) neu (5), 19(4), 22(5) neu (6) neu 25(2) neu (5) i’w gwneud i’r tribiwnlys.

2

Rhaid i apêl o dan is-adran (1) gael ei gwneud heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o benderfyniad.

3

Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl i’r cyfnod hwnnw o 28 o ddiwrnodau ddod i ben os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben (a thros unrhyw oedi wrth wneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

4

Ar apêl o dan is-adran (1), caiff y tribiwnlys—

a

cadarnhau’r penderfyniad;

b

cyfarwyddo nad yw’r penderfyniad i gymryd effaith (neu, os yw’r penderfyniad wedi cymryd effaith, cyfarwyddo bod y penderfyniad i beidio â chael effaith);

c

rhoi penderfyniad arall y gallai Gweinidogion Cymru fod wedi ei wneud yn lle’r penderfyniad y gwneir apêl yn ei erbyn;

d

gwneud unrhyw orchymyn arall (gan gynnwys gorchymyn interim) sy’n briodol ym marn y tribiwnlys.

5

Caiff gorchymyn interim, ymhlith pethau eraill, atal dros dro effaith penderfyniad am gyfnod a bennir gan y tribiwnlys.

Rheoliadau a chanllawiau

I23I5027Rheoliadau ynghylch gwasanaethau rheoleiddiedig

1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod gofynion ar ddarparwr gwasanaeth mewn perthynas â gwasanaeth rheoleiddiedig.

2

Rhaid i ofynion a osodir gan reoliadau o dan is-adran (1) gynnwys gofynion o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu gan ddarparwr gwasanaeth.

3

Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth wneud rheoliadau sy’n gosod gofynion o’r math a grybwyllir yn is-adran (2), roi sylw—

a

i bwysigrwydd llesiant unrhyw unigolion y bydd gofal a chymorth yn cael eu darparu iddynt, a

b

i’r safonau ansawdd sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw god a ddyroddir o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (codau ar gyfer helpu i sicrhau canlyniadau a bennir mewn datganiadau llesiant).

4

Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru—

a

ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy, a

b

cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o ddatganiad a gyhoeddir o dan is-adran (4)(b) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

6

Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori a chyhoeddi datganiad yn gymwys i reoliadau—

a

sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr adran hon, a

b

nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.

I24I5128Rheoliadau ynghylch unigolion cyfrifol

1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod gofynion ar unigolyn cyfrifol mewn perthynas â man y mae’r unigolyn wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef.

2

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i unigolyn cyfrifol benodi unigolyn o ddisgrifiad rhagnodedig i reoli’r man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef.

3

Caniateir i reoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth i swyddogaeth a roddir i unigolyn cyfrifol gan y rheoliadau gael ei dirprwyo i berson arall o dan amgylchiadau rhagnodedig yn unig ond ni chaiff darpariaeth o’r fath effeithio ar atebolrwydd neu gyfrifoldeb yr unigolyn cyfrifol am arfer y swyddogaeth.

4

Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

5

Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—

a

sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr adran hon, a

b

nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.

I25I5229Canllawiau ynghylch rheoliadau o dan adrannau 27 a 28

1

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ynghylch—

a

sut y caiff darparwyr gwasanaethau gydymffurfio â gofynion a osodir drwy reoliadau o dan adran 27(1) (gan gynnwys sut y caiff darparwyr gyrraedd unrhyw safonau ar gyfer darparu gwasanaeth rheoleiddiedig a bennir drwy reoliadau o’r fath);

b

sut y caiff unigolion cyfrifol gydymffurfio â gofynion a osodir drwy reoliadau o dan adran 28(1).

2

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio canllawiau a gyhoeddir o dan is-adran (1) a rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau diwygiedig.

3

Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir o dan yr adran hon.

I26I5330Rheoliadau ynghylch darparwyr gwasanaethau sydd wedi eu diddymu etc.

1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth—

a

sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson a benodir eu hysbysu am y penodiad hwnnw;

b

i’r Rhan hon fod yn gymwys gydag addasiadau rhagnodedig i ddarparwyr gwasanaethau y mae person o’r fath wedi ei benodi mewn perthynas â hwy.

2

Yn is-adran (1) ystyr “person a benodir” yw person a benodir—

a

yn dderbynnydd neu’n dderbynnydd gweinyddol o eiddo darparwr gwasanaeth sy’n gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth;

b

yn ddiddymwr, yn ddiddymwr dros dro neu’n weinyddwr i ddarparwr gwasanaeth sy’n gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth;

c

yn ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparwr gwasanaeth sy’n unigolyn neu’n bartneriaeth.

I27I5431Rheoliadau ynghylch darparwyr gwasanaethau sydd wedi marw

1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth—

a

i’r Rhan hon fod yn gymwys gydag addasiadau rhagnodedig pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi marw;

b

sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynrychiolwyr personol unigolyn o’r fath hysbysu Gweinidogion Cymru am y farwolaeth.

2

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) yn benodol ddarparu i berson rhagnodedig nad yw’n ddarparwr gwasanaeth weithredu yn y rhinwedd honno am gyfnod rhagnodedig ac i’r cyfnod hwnnw gael ei estyn o dan amgylchiadau rhagnodedig.