RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 8DELIO

Olynu

83Olyniaeth: dehongli

1

Mae’r adran hon yn gymwys at bwrpas dehongli’r Ddeddf hon.

2

Mae deiliad contract yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â chontract meddiannaeth os olynodd i’r contract fel olynydd â blaenoriaeth neu olynydd wrth gefn i ddeiliad y contract mewn perthynas â’r contract meddiannaeth hwnnw a fu farw.

3

Os yw deiliad contract yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol, mae hefyd yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas ag—

a

unrhyw gontract safonol cyfnodol sy’n dod i fodolaeth yn sgil adran 184(2) ar ddiwedd y cyfnod penodol, a

b

oni bai bod y contract yn darparu fel arall, unrhyw gontract o dan adran 184(6).

4

Os yw deiliad contract yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â chontract meddiannaeth a derfynir o dan adran 220 (achos o gefnu), mae hefyd yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas ag unrhyw gontract meddiannaeth y daw yn ddeiliad y contract oddi tano o ganlyniad i orchymyn o dan adran 222(3)(b) (darparu llety addas arall yn dilyn apêl).

5

Mae deiliad contract y trosglwyddir contract meddiannaeth iddo drwy neu yn unol â gorchymyn eiddo teuluol yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract os oedd y person y trosglwyddwyd y contract oddi wrtho yn olynydd o’r fath.

6

Mae deiliad contract yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â chontract meddiannaeth os oedd ei drin fel olynydd â blaenoriaeth neu olynydd wrth gefn yn amod o ran cydsynio i drafodiad yn ymwneud â’r contract.

7

Mae is-adran (8) yn gymwys os yw, cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae contract diogel (“y contract cyntaf”) yn dod i ben—

a

deiliad y contract o dan y contract cyntaf yn dod yn ddeiliad contract o dan gontract diogel arall (“yr ail gontract”), a

b

naill ai’r annedd neu’r landlord yr un fath o dan yr ail gontract ag o dan y contract cyntaf.

8

Os oedd deiliad y contract yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract cyntaf mae hefyd yn olynydd o’r fath mewn perthynas â’r ail gontract, oni bai bod yr ail gontract yn darparu fel arall.