RHAN 10AMRYWIOL

PENNOD 1DARPARIAETHAU PELLACH YN YMWNEUD Â CHONTRACTAU MEDDIANNAETH

Hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraill

237Rhoi hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraill

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r Ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi person—

(a)i hysbysu person am rywbeth, neu

(b)i roi dogfen i berson (gan gynnwys hysbysiad neu gopi o ddogfen).

(2)Caniateir rhoi’r hysbysiad neu’r ddogfen i berson—

(a)drwy ei ddanfon neu ei danfon i’r person,

(b)drwy ei adael neu ei gadael yn, neu ei bostio neu ei phostio i, un o’r mannau a grybwyllir yn is-adran (3), neu

(c)os bodlonir yr amodau yn is-adran (4), drwy ei anfon neu ei hanfon at y person ar ffurf electronig.

(3)Y mannau yw—

(a)preswylfa neu fan busnes hysbys olaf y person,

(b)unrhyw fan a bennir gan y person fel rhywle y gellir rhoi hysbysiadau neu ddogfennau i’r person, neu

(c)os rhoddir yr hysbysiad neu’r ddogfen i berson yn rhinwedd y ffaith ei fod yn ddeiliad contract, yr annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth.

(4)Caniateir rhoi hysbysiad neu ddogfen i berson drwy ei anfon neu ei hanfon ar ffurf electronig os yw’n bodloni’r amodau yn adran 236(4), ac unrhyw amodau a wneir o dan yr is-adran honno, ac—

(a)bod y person wedi nodi parodrwydd i dderbyn yr hysbysiad neu’r ddogfen yn electronig,

(b)bod y testun yn cael ei dderbyn gan y person ar ffurf ddarllenadwy, ac

(c)y gellir defnyddio’r testun er mwyn cyfeirio ato yn ddiweddarach.

(5)Caniateir rhoi’r hysbysiad neu’r ddogfen i gorff corfforaethol drwy ei roi neu ei rhoi i ysgrifennydd neu i glerc y corff hwnnw.

(6)Mae hysbysiad neu ddogfen a roddir i berson drwy ei adael neu ei gadael yn unrhyw un o’r mannau a grybwyllir yn is-adran (3) i’w drin neu i’w thrin fel pe bai wedi ei roi neu ei rhoi ar yr adeg y’i gadawyd yn y fan honno.