RHAN 10AMRYWIOL

PENNOD 1DARPARIAETHAU PELLACH YN YMWNEUD Â CHONTRACTAU MEDDIANNAETH

Hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraill

236Ffurf hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraill

1

Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall (gan gynnwys copi o ddogfen) y mae’n ofynnol neu yr awdurdodir ei roi neu ei wneud (neu ei rhoi neu ei gwneud) gan y Ddeddf hon neu oherwydd y Ddeddf hon.

2

Rhaid i’r hysbysiad neu’r ddogfen fod mewn ysgrifen.

3

Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi ffurf yr hysbysiad neu’r ddogfen, ac oni bai bod y rheoliadau yn darparu fel arall, nid oes unrhyw effaith i hysbysiad neu ddogfen nad yw yn y ffurf ragnodedig.

4

Caiff yr hysbysiad neu’r ddogfen fod ar ffurf electronig (yn ddarostyngedig i adran 237(4)) ar yr amod—

a

ei fod neu ei bod yn cynnwys llofnod electronig ardystiedig pob person y mae’n ofynnol iddo ei lofnodi neu ei gyflawni (neu ei llofnodi neu ei chyflawni), a

b

ei fod neu ei bod yn cydymffurfio ag unrhyw amodau eraill a gaiff eu rhagnodi.

5

Mae hysbysiad neu ddogfen o fewn is-adran (4) i’w drin neu ei thrin fel pe bai wedi ei lofnodi neu ei gyflawni (neu ei llofnodi neu ei chyflawni) gan bob person y mae ei lofnod electronig wedi ei ddilysu arno neu arni.

6

Os yw hysbysiad neu ddogfen ar ffurf electronig yn cael ei ddilysu neu ei dilysu gan berson fel asiant, mae i’w hystyried at ddibenion unrhyw ddeddfiad fel pe bai wedi ei ddilysu neu ei dilysu gan y person hwnnw o dan awdurdod ysgrifenedig pennaeth y person hwnnw.

7

Mae cyfeiriadau at lofnod electronig ac at ardystio llofnod o’r fath i’w darllen yn unol ag adran 7(2) a (3) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000 (p. 7).