RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 12HAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS MEWN PERTHYNAS Â SEILIAU ABSOLIWT(NID YW’R BENNOD HON OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL)

Adolygiad a gohirio

218Adolygiad o hawliad a wneir ar sail absoliwt

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant yn y llys sirol ar sail mewn adran y mae is-adran (2) yn gymwys iddi, a—

(a)bod y landlord yn landlord cymunedol, neu

(b)bod penderfyniad y landlord i wneud hawliad meddiant ar y sail honno yn ddarostyngedig i adolygiad barnwrol.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r adrannau a ganlyn—

(a)adran 170 (hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnodol),

(b)adran 178 (hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnodol),

(c)adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnodol),

(d)adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol),

(e)adran 187 (ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnod penodol),

(f)adran 191 (hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnod penodol), ac

(g)adran 199 (hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnod penodol).

(3)Caiff deiliad y contract wneud cais yn ystod yr achos adennill meddiant am adolygiad gan y llys sirol o benderfyniad y landlord i wneud yr hawliad.

(4)Caiff deiliad y contract wneud cais o dan yr adran hon ni waeth a ofynnodd am adolygiad gan y landlord o dan adran 202 (contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig) ai peidio.

(5)Ond ni chaiff deiliad y contract wneud cais o dan yr adran hon ar y sail fod yr hawliad meddiant yn hawliad dialgar (o fewn ystyr adran 217).

(6)Caiff y llys sirol gadarnhau’r penderfyniad i wneud yr hawliad neu ei ddiddymu.

(7)Wrth ystyried a ddylai gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.

(8)Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad caiff—

(a)rhoi’r hysbysiad adennill meddiant neu (yn ôl y digwydd) hysbysiad y landlord o’r neilltu a gwrthod yr achos adennill meddiant;

(b)gwneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.

(9)Ni chaiff deiliad y contract wneud cais o dan is-adran (3) ar ôl i orchymyn adennill meddiant gael ei wneud mewn perthynas â’r annedd.