RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
PENNOD 12HAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS MEWN PERTHYNAS Â SEILIAU ABSOLIWT
(NID YW’R BENNOD HON OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL)
Adolygiad a gohirio
218Adolygiad o hawliad a wneir ar sail absoliwt
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant yn y llys sirol ar sail mewn adran y mae is-adran (2) yn gymwys iddi, a—
a
bod y landlord yn landlord cymunedol, neu
b
bod penderfyniad y landlord i wneud hawliad meddiant ar y sail honno yn ddarostyngedig i adolygiad barnwrol.
2
Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r adrannau a ganlyn—
a
adran 170 (hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnodol),
b
adran 178 (hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnodol),
c
adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnodol),
d
adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol),
e
adran 187 (ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnod penodol),
f
adran 191 (hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnod penodol), ac
g
adran 199 (hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnod penodol).
3
Caiff deiliad y contract wneud cais yn ystod yr achos adennill meddiant am adolygiad gan y llys sirol o benderfyniad y landlord i wneud yr hawliad.
4
Caiff deiliad y contract wneud cais o dan yr adran hon ni waeth a ofynnodd am adolygiad gan y landlord o dan adran 202 (contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig) ai peidio.
5
Ond ni chaiff deiliad y contract wneud cais o dan yr adran hon ar y sail fod yr hawliad meddiant yn hawliad dialgar (o fewn ystyr adran 217).
6
Caiff y llys sirol gadarnhau’r penderfyniad i wneud yr hawliad neu ei ddiddymu.
7
Wrth ystyried a ddylai gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.
8
Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad caiff—
a
rhoi’r hysbysiad adennill meddiant neu (yn ôl y digwydd) hysbysiad y landlord o’r neilltu a gwrthod yr achos adennill meddiant;
b
gwneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.
9
Ni chaiff deiliad y contract wneud cais o dan is-adran (3) ar ôl i orchymyn adennill meddiant gael ei wneud mewn perthynas â’r annedd.