Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

210Seiliau rheoli ystad

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn gwneud hawliad meddiant o dan adran 160 ar un neu ragor o’r seiliau rheoli ystad.

(2)Ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno (neu ar y seiliau hynny) oni bai—

(a)ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny, a

(b)ei fod yn fodlon bod llety arall addas ar gael i ddeiliad y contract (neu y bydd ar gael i ddeiliad y contract pan fydd y gorchymyn yn cael effaith).

(3)Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhesymoldeb gwneud gorchymyn am feddiant.

(4)Penderfynir a oes llety arall addas ar gael i ddeiliad y contract neu a fydd ar gael gan roi sylw i Atodlen 11.

(5)Os yw’r landlord yn gwneud hawliad meddiant ar Sail B o’r seiliau rheoli ystad a bod y cynllun ailddatblygu yn cael ei gymeradwyo o dan Ran 2 o Atodlen 8 yn ddarostyngedig i amodau, ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant oni bai ei fod yn fodlon bod yr amodau wedi eu bodloni, neu y cânt eu bodloni.

(6)Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant a’i bod yn ofynnol i’r landlord dalu swm i ddeiliad y contract o dan adran 160(4), o ran y swm sy’n daladwy—

(a)os nad yw wedi ei gytuno rhwng y landlord a deiliad y contract, mae i’w ddyfarnu gan y llys, a

(b)gellir ei adennill oddi wrth y landlord fel dyled sifil.