RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
PENNOD 1TROSOLWG A DARPARIAETHAU RHAGARWEINIOL
Terfynu a ganiateir, hawliadau meddiant a hysbysiadau yn ei gwneud yn ofynnol ildio meddiant
150Hysbysiadau adennill meddiant
1
Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad adennill meddiant y mae’n ofynnol i landlord ei roi i ddeiliad contract cyn gwneud hawliad meddiant.
2
Rhaid i’r hysbysiad (yn ogystal â nodi’r sail ar gyfer gwneud yr hawliad)—
a
datgan bwriad y landlord i wneud hawliad meddiant,
b
rhoi manylion y sail, ac
c
datgan ar ôl pa ddyddiad y gall y landlord wneud hawliad meddiant.
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.