RHAN 7DARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL

PENNOD 4CYD-DDEILIAID CONTRACT: TYNNU’N ÔL

I1I2138Cyd-ddeiliad contract yn tynnu’n ôl gan ddefnyddio cymal terfynu deiliad contract

1

Os yw contract safonol cyfnod penodol yn cynnwys cymal terfynu deiliad contract, caiff ddarparu, os oes cyd-ddeiliaid contract, bod hysbysiad a roddir i’r landlord gan un neu ragor (ond nid pob un) ohonynt sy’n honni ei fod yn hysbysiad o dan y cymal terfynu i’w drin fel hysbysiad fod y cyd-ddeiliad hwnnw i’r contract (neu’r cyd-ddeiliaid hynny i’r contract) yn bwriadu tynnu’n ôl o’r contract (“hysbysiad tynnu’n ôl”).

2

Os yw’n gwneud hynny, rhaid iddo hefyd wneud darpariaeth sy’n cyfateb i is-adrannau (4) a (5) o adrannau 111 a 130.