xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adrannau 175, 186 a 196)

ATODLEN 9CONTRACTAU SAFONOL NAD YW’R CYFYNGIADAU YN ADRANNAU 175, 186(2) A 196 (HYSBYSIAD Y LANDLORD YN YSTOD CHWE MIS CYNTAF MEDDIANNAETH) YN GYMWYS IDDYNT

Contractau safonol ymddygiad gwaharddedig

1Contract safonol ymddygiad gwaharddedig.

Tenantiaethau a thrwyddedau sy’n gontractau meddiannaeth oherwydd hysbysiad a roddir o dan Ran 2 o Atodlen 2

2Contract safonol na fyddai’n gontract meddiannaeth oni bai am hysbysiad o dan baragraff 3 o Atodlen 2 (llety gwyliau; sefydliadau gofal; trefniadau hwylus dros dro; llety a rennir).

Llety â chymorth

3Contract safonol sy’n ymwneud â llety â chymorth.

Llety i geiswyr lloches

4Contract safonol a wneir er mwyn darparu llety o dan Ran 6 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (p. 33) (cymorth i geiswyr lloches).

Cymorth i bersonau sydd wedi eu dadleoli

5Contract safonol a wneir o dan Reoliadau Personau a Ddadleolir (Diogelu Dros Dro) 2005 (O.S. 2005/1379).

Llety i bersonau digartref

6Contract safonol a wneir fel y disgrifir ym mharagraff 11 neu 12 o Atodlen 2 (llety i bersonau digartref).

Meddiannaeth yn rhinwedd swydd

7Contract safonol pan fo’n ofynnol i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd yn ôl ei gontract cyflogaeth.

Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: yr heddlu

8Contract safonol—

(a)pan fo deiliad y contract yn aelod o heddlu, a

(b)pan fo’r annedd yn cael ei darparu i ddeiliad y contract yn ddi-rent o dan reoliadau a wnaed o dan adran 50 o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16) (rheoliadau cyffredinol o ran llywodraethu, gweinyddu ac amodau gwasanaeth).

Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: y gwasanaethau tân ac achub

9Contract safonol—

(a)pan fo deiliad y contract yn cael ei gyflogi gan awdurdod tân ac achub,

(b)pan fo contract cyflogaeth deiliad y contract yn ei gwneud yn ofynnol iddo fyw yn agos at orsaf dân benodol, ac

(c)pan fo’r annedd yn cael ei darparu ar ei gyfer gan yr awdurdod tân ac achub o ganlynad i’r gofyniad hwnnw.

Llety dros dro: tir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu

10(1)Contract safonol—

(a)pan fo’r tir y mae’r annedd yn sefyll arno (gan gynnwys unrhyw dir a feddiennir ynghyd â’r annedd heblaw am dir amaethyddol sy’n fwy na 0.809 hectar) yn dir neu’r rhan o dir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu, a

(b)pan fo’r annedd yn cael ei defnyddio gan y landlord fel llety dros dro hyd nes y bydd y tir yn cael ei ddatblygu.

(2)Mae i “datblygu” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).

Llety dros dro: trefniadau tymor byr

11Contract safonol—

(a)pan fo’r annedd wedi ei gosod i’r landlord â meddiant gwag i’w defnyddio fel llety dros dro,

(b)pan fo telerau ei gosod yn cynnwys darpariaeth i’r lesydd gael meddiant gwag gan y landlord ar ddiwedd cyfnod penodedig neu pan fo’n ofynnol gan y lesydd,

(c)nad yw’r lesydd oddi tano yn landlord cymunedol, a

(d)nad oes gan y landlord unrhyw fuddiant yn yr annedd ac eithrio o dan y les dan sylw neu fel morgeisiwr.

Llety dros dro: llety yn ystod gwaith

12(1)Contract safonol—

(a)pan fo’r annedd (yr “annedd dros dro”) wedi ei darparu i’w meddiannu gan ddeiliad y contract tra bo gwaith yn cael ei wneud ar yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu fel cartref,

(b)pan nad yw landlord yr annedd dros dro yr un â landlord yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu (yr “hen annedd”), ac

(c)pan nad oedd deiliad y contract yn ddeiliad contract yr hen annedd o dan gontract diogel ar yr adeg y peidiodd â’i meddiannu fel cartref.

(2)Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn cynnwys cyfeiriadau at ragflaenydd deiliaid y contract.

(3)At ddibenion is-baragraff (2), mae person yn rhagflaenydd i ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth os oedd y person hwnnw yn ddeiliad contract blaenorol o dan yr un contract.

Pŵer i ddiwygio’r Atodlen

13Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.