ATODLEN 3CONTRACTAU MEDDIANNAETH A WNEIR GYDA NEU A FABWYSIEDIR GAN LANDLORDIAID CYMUNEDOL Y CANIATEIR IDDYNT FOD YN GONTRACTAU SAFONOL
1Contractau meddiannaeth drwy hysbysiad
Contract meddiannaeth na fyddai’n gontract meddiannaeth oni bai am hysbysiad o dan baragraff 1 neu 3 o Atodlen 2.
2Llety â chymorth
Contract meddiannaeth sy’n ymwneud â llety â chymorth.
3Meddiannaeth ragarweiniol
1
Contract meddiannaeth o fewn y paragraff hwn nad yw’n ymwneud â llety â chymorth.
2
Mae contract meddiannaeth o fewn y paragraff hwn oni bai, yn union cyn y dyddiad perthnasol—
a
bod deiliad contract oddi tano yn ddeiliad contract o dan gontract diogel, a
b
bod y landlord o dan y contract diogel yn landlord cymunedol.
3
Y dyddiad perthnasol—
a
mewn perthynas â chontract a wneir â landlord cymunedol, yw’r dyddiad meddiannu, a
b
mewn perthynas â chontract y daw landlord cymunedol yn landlord oddi tano, yw’r diwrnod y daw’n landlord.
4Llety i geiswyr lloches
Contract meddiannaeth a wneir er mwyn darparu llety o dan Ran 6 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (p. 33) (cymorth i geiswyr lloches).
5Llety i bersonau sydd wedi eu dadleoli
Contract meddiannaeth a wneir o dan Reoliadau Personau a Ddadleolir (Diogelu Dros Dro) 2005 (O.S. 2005/1379).
6Llety i bersonau digartref
Contract meddiannaeth a wneir fel y disgrifir ym mharagraff 11 neu 12 o Atodlen 2 (llety i bersonau digartref).
7Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: cyffredinol
1
Contract meddiannaeth—
a
pan fo deiliad y contract wedi ei gyflogi gan gyflogwr perthnasol, a
b
y mae’n ofynnol i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd yn ôl ei gontract cyflogaeth.
2
Ystyr “cyflogwr perthnasol” yw—
a
awdurdod lleol;
b
corfforaeth dref newydd;
c
ymddiriedolaeth gweithredu tai;
d
corfforaeth datblygu trefol;
e
landlord cymdeithasol cofrestredig (ac eithrio cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol neu gymdeithas dai gydweithredol);
f
darparwr tai cymdeithasol cofrestredig preifat;
g
rheolwr sy’n cyflawni swyddogaethau rheoli awdurdod tai lleol o dan gytundeb rheoli;
h
corff llywodraethu unrhyw un o’r ysgolion a ganlyn (gweler Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31))—
i
ysgol wirfoddol a gynorthwyir,
ii
ysgol sefydledig, neu
iii
ysgol arbennig sefydledig.
3
Ystyr “cytundeb rheoli” yw cytundeb o dan adran 27 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) ac ystyr “rheolwr” yw person y gwneir y cytundeb ag ef.
8Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: yr heddlu
Contract meddiannaeth—
a
pan fo deiliad y contract yn aelod o heddlu, a
b
pan fo’r annedd yn cael ei darparu i ddeiliad y contract yn ddi-rent o dan reoliadau a wnaed o dan adran 50 o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16) (rheoliadau cyffredinol o ran llywodraethu, gweinyddu ac amodau gwasanaeth).
9Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: y gwasanaethau tân ac achub
Contract meddiannaeth—
a
pan fo deiliad y contract yn cael ei gyflogi gan awdurdod tân ac achub,
b
pan fo contract cyflogaeth deiliad y contract yn ei gwneud yn ofynnol iddo fyw yn agos at orsaf dân benodol, ac
c
pan fo’r annedd yn cael ei darparu ar ei gyfer gan yr awdurdod tân ac achub o ganlyniad i’r gofyniad hwnnw.
10Llety myfyrwyr
1
Contract meddiannaeth pan fo’r hawl i feddiannu yn cael ei rhoi at ddiben galluogi deiliad y contract i fynychu cwrs dynodedig mewn sefydliad addysgol.
2
Ystyr “cwrs dynodedig” yw cwrs o unrhyw fath a ragnodir at ddibenion y paragraff hwn.
3
Ystyr “sefydliad addysgol” yw sefydliad neu brifysgol sy’n darparu addysg bellach neu addysg uwch (neu’r ddau); ac mae i “addysg bellach” ac “addysg uwch” yr un ystyron â “further education” a “higher education” yn Neddf Addysg 1996 (p. 56) (gweler adrannau 2 a 579 o’r Ddeddf honno).
11Llety dros dro: tir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu
1
Contract meddiannaeth—
a
pan fo’r tir y mae’r annedd yn sefyll arno (gan gynnwys unrhyw dir a feddiennir ynghyd â’r annedd heblaw am dir amaethyddol sy’n fwy na 0.809 hectar) yn dir neu’n rhan o dir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu, a
b
pan fo’r annedd yn cael ei defnyddio gan y landlord fel llety dros dro hyd nes y bydd y tir yn cael ei ddatblygu.
2
Mae i “datblygu” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).
12Llety dros dro: personau sy’n dechrau gwaith
Contract meddiannaeth—
a
pan nad oedd deiliad y contract yn byw yn ardal yr awdurdod tai lleol y mae’r annedd ynddi yn union cyn gwneud y contract,
b
pan fo deiliad y contract wedi cael gwaith neu wedi cael cynnig gwaith yn yr ardal honno neu mewn ardal awdurdod tai lleol gyfagos cyn gwneud y contract, ac
c
pan fo’r hawl i feddiannu wedi ei rhoi at ddiben diwallu angen deiliad y contract am lety dros dro yn ardal yr awdurdod tai lleol y mae’r annedd ynddi neu yn ardal awdurdod tai lleol gyfagos er mwyn gweithio yno, a’i alluogi i ganfod llety parhaol yno.
13Llety dros dro: trefniadau tymor byr
Contract meddiannaeth—
a
pan fo’r annedd wedi ei gosod i’r landlord â meddiant gwag i’w defnyddio fel llety dros dro,
b
pan fo telerau ei gosod yn cynnwys darpariaeth i’r lesydd gael meddiant gwag gan y landlord ar ddiwedd cyfnod penodedig neu pan fo’n ofynnol gan y lesydd,
c
nad yw’r lesydd oddi tano yn landlord cymunedol, a
d
nad oes gan y landlord unrhyw fuddiant yn yr annedd ac eithrio o dan y les dan sylw neu fel morgeisiwr.
14Llety dros dro: llety yn ystod gwaith
1
Contract meddiannaeth—
a
pan fo’r annedd (yr “annedd dros dro”) wedi ei darparu i’w meddiannu gan ddeiliad y contract tra bo gwaith yn cael ei wneud ar yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu fel cartref,
b
pan nad yw landlord yr annedd dros dro yr un â landlord yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu (yr “hen annedd”), ac
c
pan nad oedd deiliad y contract yn ddeiliad contract yr hen annedd o dan gontract diogel ar yr adeg y peidiodd â’i meddiannu fel cartref.
2
Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn cynnwys cyfeiriadau at ragflaenydd deiliaid y contract.
3
At ddibenion is-baragraff (2), mae person yn rhagflaenydd i ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth os oedd y person hwnnw yn ddeiliad contract blaenorol o dan yr un contract.
15Llety nad yw’n llety cymdeithasol
1
Contract meddiannaeth—
a
pan nad oedd y rheolau dyrannu yn gymwys i wneud y contract, neu
b
pan fo’r annedd yn cael ei darparu i ddeiliad y contract oherwydd ei fod yn weithiwr allweddol.
2
Y rheolau dyrannu yw rheolau’r landlord ar gyfer pennu blaenoriaeth rhwng ymgeiswyr wrth ddyrannu llety tai, ac maent yn cynnwys unrhyw reol neu arfer sy’n golygu bod y landlord yn darparu llety i bersonau a enwebir gan awdurdod tai lleol.
3
Penderfynir a yw deiliad contract yn “weithiwr allweddol” yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
4
Caiff y rheoliadau gynnwys darpariaeth sy’n nodi gweithwyr allweddol drwy gyfeirio at natur eu cyflogaeth, at bwy yw eu cyflogwr, ac at swm eu henillion.
16Anheddau a fwriedir ar gyfer trosglwyddo
Contract meddiannaeth—
a
pan fo’r landlord cymunedol yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol cofrestredig preifat,
b
pan fo’r landlord wedi caffael neu adeiladu neu wedi datblygu’r annedd mewn ffordd arall gyda’r bwriad o’i throsglwyddo i gymdeithas dai gwbl gydfuddiannol neu gymdeithas dai gydweithredol, ac
c
pan wneir y contract meddiannaeth ymlaen llaw gan ragweld trosglwyddo’r annedd.
17Pŵer i ddiwygio’r Atodlen
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.