Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

RHAN 5TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU Y MAE RHEOLAU ARBENNIG YN GYMWYS IDDYNT: LLETY Â CHYMORTH

13(1)Nid yw tenantiaeth neu drwydded sydd o fewn adran 7, ond sy’n ymwneud â llety â chymorth (gweler adran 143), yn gontract meddiannaeth os yw’r landlord yn bwriadu nad yw’r llety a ddarperir o dan y denantiaeth neu’r drwydded i fod yn ddarostyngedig i gontract meddiannaeth.

(2)Ond os yw’r denantiaeth neu’r drwydded yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol, mae’n dod yn gontract meddiannaeth yn union ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.

(3)Y cyfnod perthnasol (yn ddarostyngedig i baragraff 14) yw—

(a)y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r denantiaeth neu’r drwydded, neu

(b)os yw’r cyfnod perthnasol wedi ei ymestyn o dan baragraff 15, y cyfnod sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r denantiaeth neu’r drwydded ac sy’n dod i ben â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o estyniad.

(4)Dyddiad meddiannu tenantiaeth neu drwydded sy’n dod yn gontract meddiannaeth o dan is-baragraff (2) yw’r diwrnod yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod perthnasol.

(5)At ddibenion y Rhan hon, dyddiad dechrau tenantiaeth neu drwydded yw’r diwrnod y mae gan y tenant neu’r trwyddedai hawl o dan y denantiaeth neu’r drwydded i feddiannu’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r denantiaeth neu’r drwydded am y tro cyntaf.

Ystyr y cyfnod perthnasol pan fo contractau blaenorol

14(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded a grybwyllir ym mharagraff 13(1) (“y denantiaeth neu’r drwydded bresennol”)—

(a)os oedd gan y tenant neu’r trwyddedai hawl flaenorol i feddiannu llety â chymorth o dan un neu ragor o gontractau blaenorol perthnasol, a

(b)os yw’r denantiaeth neu’r drwydded bresennol yn olynu contract blaenorol perthnasol yn uniongyrchol.

(2)Tenantiaeth neu drwydded yw contract blaenorol perthnasol, sy’n ymwneud â llety â chymorth ac—

(a)â’r annedd y mae’r denantiaeth neu’r drwydded bresennol yn berthnasol iddi (“yr annedd bresennol”);

(b)os yw’r annedd bresennol yn ffurfio rhan o adeilad yn unig, ag annedd arall—

(i)sydd yn yr adeilad hwnnw, neu

(ii)os yw’r adeilad hwnnw yn un o nifer o adeiladau a reolir fel un endid, sydd yn unrhyw un neu ragor o’r adeiladau hynny.

(3)Os un tenant neu drwyddedai un unig sydd, ac un contract blaenorol perthnasol, y cyfnod perthnasol yw—

(a)y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r contract blaenorol perthnasol, neu

(b)os yw’r cyfnod perthnasol wedi ei ymestyn o dan baragraff 15, y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad o estyniad.

(4)Os un tenant neu drwyddedai yn unig sydd, a bod dau neu ragor o gontractau blaenorol perthnasol yn olynu ei gilydd yn uniongyrchol, y cyfnod perthnasol yw—

(a)y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r cyntaf o’r contractau hynny, neu

(b)os yw’r cyfnod perthnasol wedi ei ymestyn o dan baragraff 15, y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad o estyniad.

(5)Os oes cyd-denantiaid neu gyd-drwyddedeion, y cyfnod perthnasol yw—

(a)y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r dyddiad a gyfrifir—

(i)drwy ddarganfod, mewn perthynas â phob cyd-denant neu gyd-drwyddedai, y dyddiad y byddai’r cyfnod perthnasol yn dechrau o dan is-baragraffau (3)(a) neu (4)(a) pe byddai’n unig denant neu’n unig drwyddedai, a

(ii)drwy gymryd y cynharaf o’r dyddiadau hynny, neu

(b)os yw’r cyfnod perthnasol wedi ei ymestyn o dan baragraff 15, y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad o estyniad.

(6)Mae tenantiaeth neu drwydded (“contract 2”) yn olynydd uniongyrchol i denantiaeth neu drwydded arall (“contract 1”) os yw contract 1 yn dod i ben yn union cyn dyddiad dechrau contract 2.

Ymestyn y cyfnod perthnasol

15(1)Caniateir i’r landlord (unwaith neu fwy nag unwaith) ymestyn cyfnod perthnasol tenantiaeth neu drwydded a grybwyllir ym mharagraff 13(1) drwy roi hysbysiad o estyniad i’r tenant neu’r trwyddedai yn unol â’r paragraff hwn.

(2)Ni chaniateir ymestyn y cyfnod perthnasol gan fwy na thri mis ar unrhyw achlysur unigol.

(3)Rhaid rhoi’r hysbysiad o estyniad o leiaf bedair wythnos cyn y dyddiad y byddai’r cyfnod perthnasol yn dod i ben o dan ba un bynnag o’r canlynol sy’n gymwys—

(a)paragraff 13(3)(a) neu (b);

(b)paragraff 14(3)(a) neu (b);

(c)paragraff 14(4)(a) neu (b);

(d)paragraff 14(5)(a) neu (b).

(4)Cyn rhoi hysbysiad o estyniad, rhaid i’r landlord ymgynghori â’r tenant neu’r trwyddedai.

(5)Ni chaiff landlord (ac eithrio awdurdod tai lleol) roi hysbysiad o estyniad heb gydsyniad yr awdurdod tai lleol y darperir y llety yn ei ardal.

(6)Rhaid i’r hysbysiad o estyniad—

(a)datgan bod y landlord wedi penderfynu ymestyn y cyfnod perthnasol,

(b)nodi’r rhesymau dros ymestyn y cyfnod perthnasol,

(c)os nad yw’r landlord yn awdurdod tai lleol, datgan bod yr awdurdod tai lleol y darperir y llety yn ei ardal wedi cydsynio i’r estyniad, a

(d)pennu’r dyddiad y bydd y cyfnod perthnasol yn dod i ben.

(7)Rhaid i’r hysbysiad o estyniad hefyd hysbysu’r tenant neu’r trwyddedai bod ganddo hawl i wneud cais am adolygiad yn y llys sirol o dan baragraff 16, a’i hysbysu erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.

(8)Wrth benderfynu ymestyn y cyfnod perthnasol, caiff y landlord ystyried—

(a)ymddygiad y tenant neu’r trwyddedai (neu, os oes mwy nag un tenant neu drwyddedai, ymddygiad unrhyw un neu ragor ohonynt), a

(b)ymddygiad unrhyw berson yr ymddengys i’r landlord ei fod yn byw yn yr annedd.

(9)Caiff y landlord ystyried ymddygiad person o dan is-baragraff (8)(b) pa un a yw’r person yn byw yn barhaol yn yr annedd ai peidio, ac ym mha rinwedd bynnag y mae’r person yn byw yn yr annedd.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau at ddibenion is-baragraff (5), gan gynnwys darpariaeth am y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn perthynas â sicrhau cydsyniad awdurdod tai lleol.

Adolygiad y llys sirol o benderfyniad i ymestyn

16(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo landlord yn rhoi hysbysiad o estyniad o dan baragraff 15 i denant neu drwyddedai.

(2)Caiff y tenant neu’r trwyddedai wneud cais i’r llys sirol am adolygiad—

(a)pan fo’r landlord yn awdurdod tai lleol, o’r penderfyniad i roi hysbysiad o estyniad, neu

(b)pan na fo’r landlord yn awdurdod tai lleol, o benderfyniad yr awdurdod tai lleol i gydsynio bod y landlord yn rhoi’r hysbysiad o estyniad.

(3)Rhaid gwneud y cais cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad o estyniad i’r tenant neu’r trwyddedai.

(4)Caiff y llys sirol roi caniatâd i gais gael ei wneud ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir gan is-baragraff (3), ond dim ond os yw’n fodlon—

(a)os ceisir caniatâd cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod rheswm da nad yw’r tenant neu’r trwyddedai wedi gallu gwneud y cais mewn pryd, neu

(b)os ceisir caniatâd ar ôl hynny, bod rheswm da bod y tenant neu’r trwyddedai wedi methu â gwneud y cais mewn pryd ac am unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd.

(5)Caiff y llys sirol—

(a)cadarnhau neu ddiddymu’r penderfyniad, neu

(b)amrywio hyd yr estyniad (yn ddarostyngedig i baragraff 15(2)).

(6)Wrth ystyried a ddylai gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu, neu amrywio hyd yr estyniad, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.

(7)Os yw’r llys sirol yn amrywio hyd yr estyniad, mae’r hysbysiad o estyniad yn cael effaith yn unol â hynny.

(8)Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad—

(a)nid oes unrhyw effaith i’r hysbysiad o estyniad, a

(b)caiff y llys sirol wneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.

(9)Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad a bod y landlord yn rhoi hysbysiad pellach o estyniad o dan baragraff 15 i’r tenant neu’r trwyddedai cyn diwedd y cyfnod ôl-adolygiad, mae’r hysbysiad yn cael effaith fel pe bai wedi ei roi yn unol â pharagraff 15(3) (heblaw at ddibenion is-baragraff (3)).

(10)Y cyfnod ôl-adolygiad yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r llys sirol yn amrywio hyd yr estyniad neu’n diddymu’r penderfyniad.