xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1(1)Caniateir i denantiaeth neu drwydded nad yw o fewn adran 7 fod yn gontract meddiannaeth—
(a)os yw’n rhoi’r hawl i unigolyn (“y buddiolwr”), heblaw’r person y’i gwneir ag ef, feddiannu’r annedd fel cartref, a
(b)os bodlonir yr amod hysbysu.
(2)Caniateir i denantiaeth neu drwydded nad yw o fewn adran 7 am nad oes unrhyw rent na chydnabyddiaeth arall yn daladwy oddi tani (ac nad yw is-baragraff (1) yn gymwys iddi) fod yn gontract meddiannaeth os bodlonir yr amod hysbysu.
(3)Mae’r amod hysbysu wedi ei fodloni os yw’r landlord, cyn gwneud y denantiaeth neu’r drwydded neu ar adeg ei gwneud, yn rhoi hysbysiad i’r person y’i gwneir ag ef yn datgan y bydd yn gontract meddiannaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan roddir hysbysiad o dan baragraff 1(3) mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded o fewn paragraff 1(1)(a).
(2)Caniateir i’r hysbysiad bennu darpariaethau o’r Ddeddf hon a rheoliadau a wneir oddi tani sydd i gael effaith mewn perthynas â’r contract meddiannaeth fel pe bai cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn gyfeiriadau at y buddiolwr.
(3)Os yw’n gwneud hynny, mae’r darpariaethau a bennir yn yr hysbysiad yn cael effaith yn unol â hynny.
(4)Mae adran 20(1)(b) a (2)(b) yn gymwys i ddarpariaethau sylfaenol a bennir yn yr hysbysiad fel pe bai cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn gyfeiriadau at y buddiolwr.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I4Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2