ATODLEN 2EITHRIADAU I ADRAN 7

RHAN 1TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU NAD YDYNT O FEWN ADRAN 7 SY’N GONTRACTAU MEDDIANNAETH OS RHODDIR HYSBYSIAD

I2I12Contractau er budd rhywun arall: darpariaeth bellach

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan roddir hysbysiad o dan baragraff 1(3) mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded o fewn paragraff 1(1)(a).

2

Caniateir i’r hysbysiad bennu darpariaethau o’r Ddeddf hon a rheoliadau a wneir oddi tani sydd i gael effaith mewn perthynas â’r contract meddiannaeth fel pe bai cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn gyfeiriadau at y buddiolwr.

3

Os yw’n gwneud hynny, mae’r darpariaethau a bennir yn yr hysbysiad yn cael effaith yn unol â hynny.

4

Mae adran 20(1)(b) a (2)(b) yn gymwys i ddarpariaethau sylfaenol a bennir yn yr hysbysiad fel pe bai cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn gyfeiriadau at y buddiolwr.