(a gyflwynir gan adrannau 210 a 222)

ATODLEN 11LLETY ARALL ADDAS

Rhagarweiniol

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gymwys at ddibenion—

(a)gorchymyn adennill meddiant o dan adran 210 (seiliau rheoli ystad), neu

(b)gorchymyn o dan adran 222(3)(b) (apêl yn dilyn meddiant am gefnu ar annedd).

(2)Yn yr Atodlen hon cyfeirir at yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu neu y ceisir meddiant ohoni fel “yr annedd bresennol”, a chyfeirir at y contract meddiannaeth y mae neu yr oedd yr annedd honno’n ddarostyngedig iddo fel “y contract presennol”.

Seiliau rheoli ystad: tystysgrif awdurdod tai lleol

2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw’r Atodlen hon yn gymwys oherwydd adran 210, a

(b)os nad yw’r landlord o dan y contract presennol yn awdurdod tai lleol.

(2)Mae tystysgrif yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y mae’r annedd bresennol wedi ei lleoli ynddi, yn tystio y bydd yr awdurdod yn darparu llety arall addas ar gyfer deiliad y contract erbyn dyddiad a bennir ar y dystysgrif, yn dystiolaeth ddigamsyniol y bydd llety arall addas ar gael iddo erbyn y dyddiad hwnnw.

Llety addas

3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw’r Atodlen hon yn gymwys oherwydd adran 210 a naill ai—

(i)na chyflwynir tystysgrif o’r math y cyfeiri ati ym mharagraff 2(2) i’r llys, neu

(ii)mae’r landlord mewn perthynas â’r annedd bresennol yn awdurdod tai lleol, neu

(b)os yw’r Atodlen hon yn gymwys oherwydd adran 222.

(2)Mae llety yn addas—

(a)os yw i gael ei feddiannu gan ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth sy’n rhoi diogelwch meddiant iddo sy’n rhesymol gyfatebol i’r hyn y mae’r contract presennol yn ei roi, a

(b)os yw, ym marn y llys, yn rhesymol addas ar gyfer anghenion deiliad y contract a’i deulu (sydd i’w ddyfarnu yn unol â pharagraff 4).

(3)Os yw’r contract presennol yn ymwneud ag annedd ar wahân, nid yw llety yn addas oni bai ei fod yn annedd ar wahân.

Anghenion deiliad y contract a’i deulu

4(1)Rhaid i’r llys ddyfarnu a yw llety yn rhesymol addas mewn perthynas ag anghenion deiliad y contract a’i deulu yn unol â’r paragraff hwn.

(2)Rhaid i’r llys ystyried (ymysg pethau eraill)—

(a)anghenion deiliad y contract a’i deulu o ran maint y llety,

(b)os yw’r landlord yn landlord preifat, anghenion deiliad y contract a’i deulu o ran cymeriad y llety,

(c)modd deiliad y contract a’i deulu,

(d)os yw deiliad y contract neu aelod o’i deulu yn gweithio neu’n derbyn addysg, pellter y llety o’r man (neu’r mannau) gwaith neu addysg,

(e)os yw agosrwydd at gartref unrhyw aelod o deulu deiliad y contract yn hanfodol i lesiant deiliad y contract neu’r aelod hwnnw o’i deulu, agosrwydd y llety at y cartref hwnnw,

(f)telerau’r contract presennol a thelerau’r contract meddiannaeth y mae’r llety i’w feddiannu oddi tano, ac

(g)os oedd y landlord yn darparu dodrefn/celfi o dan y contract presennol, pa un a yw dodrefn/celfi i’w darparu at ddefnydd deiliad y contract a’i deulu ac, os felly, natur y dodrefn/celfi hynny.

(3)Os yw’r landlord yn landlord cymunedol, rhaid i’r llys hefyd ystyried natur y llety y mae’n arfer gan y landlord ei ddyrannu i bersonau sydd ag anghenion tebyg.

(4)Os yw’r landlord yn landlord preifat, caiff y llys ystyried, fel dewis arall i’r materion yn is-baragraff (2)(a) i (c), pa un a yw’r llety yn debyg o ran rhent a maint i’r llety a ddarperir yn y gymdogaeth gan landlordiaid cymunedol ar gyfer personau cyffelyb.

(5)Ystyr “personau cyffelyb” yw’r rheini y mae eu hanghenion, o ran maint, yn debyg ym marn y llys i rai deiliad y contract a theulu deiliad y contract.

(6)At ddibenion is-baragraff (4) mae tystysgrif awdurdod tai lleol sy’n datgan—

(a)maint y llety a ddarperir gan yr awdurdod i ddiwallu anghenion personau sydd â theuluoedd o ba faint bynnag a bennir yn y dystysgrif, a

(b)swm y rhent a godir gan yr awdurdod am lety o’r maint hwnnw,

yn dystiolaeth ddigamsyniol o’r ffeithiau sydd wedi eu datgan felly.

(7)Wrth ystyried y materion yn is-baragraff (2)(f) ni chaiff y llys ystyried unrhyw un neu ragor o delerau’r contract meddiannaeth sy’n ymwneud â lletywyr ac isddeiliaid.

Gorlenwi

5Nid yw llety yn addas ar gyfer anghenion deiliad y contract a’i deulu pe byddai’r llety, o ganlyniad i’w feddiannu ganddynt, yn ffurfio annedd wedi ei gorlenwi at ddibenion Rhan 10 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (gweler adran 324 o’r Ddeddf honno).

Tystiolaeth o dystysgrif awdurdod tai lleol

6Mae dogfen sydd i bob golwg yn dystysgrif yr awdurdod tai lleol a enwir ar y dystysgrif, a ddyroddwyd at ddibenion yr Atodlen hon, ac a lofnodwyd gan y person priodol ar ran yr awdurdod—

(a)i’w derbyn fel tystiolaeth, a

(b)oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb, i’w thrin fel tystysgrif o’r fath heb dystiolaeth bellach.