ATODLEN 11LLETY ARALL ADDAS
1Rhagarweiniol
1
Mae’r Atodlen hon yn gymwys at ddibenion—
a
gorchymyn adennill meddiant o dan adran 210 (seiliau rheoli ystad), neu
b
gorchymyn o dan adran 222(3)(b) (apêl yn dilyn meddiant am gefnu ar annedd).
2
Yn yr Atodlen hon cyfeirir at yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu neu y ceisir meddiant ohoni fel “yr annedd bresennol”, a chyfeirir at y contract meddiannaeth y mae neu yr oedd yr annedd honno’n ddarostyngedig iddo fel “y contract presennol”.
2Seiliau rheoli ystad: tystysgrif awdurdod tai lleol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
os yw’r Atodlen hon yn gymwys oherwydd adran 210, a
b
os nad yw’r landlord o dan y contract presennol yn awdurdod tai lleol.
2
Mae tystysgrif yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y mae’r annedd bresennol wedi ei lleoli ynddi, yn tystio y bydd yr awdurdod yn darparu llety arall addas ar gyfer deiliad y contract erbyn dyddiad a bennir ar y dystysgrif, yn dystiolaeth ddigamsyniol y bydd llety arall addas ar gael iddo erbyn y dyddiad hwnnw.
3Llety addas
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
os yw’r Atodlen hon yn gymwys oherwydd adran 210 a naill ai—
i
na chyflwynir tystysgrif o’r math y cyfeiri ati ym mharagraff 2(2) i’r llys, neu
ii
mae’r landlord mewn perthynas â’r annedd bresennol yn awdurdod tai lleol, neu
b
os yw’r Atodlen hon yn gymwys oherwydd adran 222.
2
Mae llety yn addas—
a
os yw i gael ei feddiannu gan ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth sy’n rhoi diogelwch meddiant iddo sy’n rhesymol gyfatebol i’r hyn y mae’r contract presennol yn ei roi, a
b
os yw, ym marn y llys, yn rhesymol addas ar gyfer anghenion deiliad y contract a’i deulu (sydd i’w ddyfarnu yn unol â pharagraff 4).
3
Os yw’r contract presennol yn ymwneud ag annedd ar wahân, nid yw llety yn addas oni bai ei fod yn annedd ar wahân.
4Anghenion deiliad y contract a’i deulu
1
Rhaid i’r llys ddyfarnu a yw llety yn rhesymol addas mewn perthynas ag anghenion deiliad y contract a’i deulu yn unol â’r paragraff hwn.
2
Rhaid i’r llys ystyried (ymysg pethau eraill)—
a
anghenion deiliad y contract a’i deulu o ran maint y llety,
b
os yw’r landlord yn landlord preifat, anghenion deiliad y contract a’i deulu o ran cymeriad y llety,
c
modd deiliad y contract a’i deulu,
d
os yw deiliad y contract neu aelod o’i deulu yn gweithio neu’n derbyn addysg, pellter y llety o’r man (neu’r mannau) gwaith neu addysg,
e
os yw agosrwydd at gartref unrhyw aelod o deulu deiliad y contract yn hanfodol i lesiant deiliad y contract neu’r aelod hwnnw o’i deulu, agosrwydd y llety at y cartref hwnnw,
f
telerau’r contract presennol a thelerau’r contract meddiannaeth y mae’r llety i’w feddiannu oddi tano, ac
g
os oedd y landlord yn darparu dodrefn/celfi o dan y contract presennol, pa un a yw dodrefn/celfi i’w darparu at ddefnydd deiliad y contract a’i deulu ac, os felly, natur y dodrefn/celfi hynny.
3
Os yw’r landlord yn landlord cymunedol, rhaid i’r llys hefyd ystyried natur y llety y mae’n arfer gan y landlord ei ddyrannu i bersonau sydd ag anghenion tebyg.
4
Os yw’r landlord yn landlord preifat, caiff y llys ystyried, fel dewis arall i’r materion yn is-baragraff (2)(a) i (c), pa un a yw’r llety yn debyg o ran rhent a maint i’r llety a ddarperir yn y gymdogaeth gan landlordiaid cymunedol ar gyfer personau cyffelyb.
5
Ystyr “personau cyffelyb” yw’r rheini y mae eu hanghenion, o ran maint, yn debyg ym marn y llys i rai deiliad y contract a theulu deiliad y contract.
6
At ddibenion is-baragraff (4) mae tystysgrif awdurdod tai lleol sy’n datgan—
a
maint y llety a ddarperir gan yr awdurdod i ddiwallu anghenion personau sydd â theuluoedd o ba faint bynnag a bennir yn y dystysgrif, a
b
swm y rhent a godir gan yr awdurdod am lety o’r maint hwnnw,
yn dystiolaeth ddigamsyniol o’r ffeithiau sydd wedi eu datgan felly.
7
Wrth ystyried y materion yn is-baragraff (2)(f) ni chaiff y llys ystyried unrhyw un neu ragor o delerau’r contract meddiannaeth sy’n ymwneud â lletywyr ac isddeiliaid.
5Gorlenwi
Nid yw llety yn addas ar gyfer anghenion deiliad y contract a’i deulu pe byddai’r llety, o ganlyniad i’w feddiannu ganddynt, yn ffurfio annedd wedi ei gorlenwi at ddibenion Rhan 10 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (gweler adran 324 o’r Ddeddf honno).
6Tystiolaeth o dystysgrif awdurdod tai lleol
Mae dogfen sydd i bob golwg yn dystysgrif yr awdurdod tai lleol a enwir ar y dystysgrif, a ddyroddwyd at ddibenion yr Atodlen hon, ac a lofnodwyd gan y person priodol ar ran yr awdurdod—
a
i’w derbyn fel tystiolaeth, a
b
oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb, i’w thrin fel tystysgrif o’r fath heb dystiolaeth bellach.