xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adrannau 209, 210 a 211)

ATODLEN 10GORCHMYNION ADENNILL MEDDIANT AR SEILIAU DISGRESIWN ETC.: RHESYMOLDEB

Rhagarweiniol

1Mae’r Atodlen hon yn gymwys at ddiben penderfynu a yw’n rhesymol—

(a)gwneud gorchymyn adennill meddiant o dan adran 209 (tor contract) neu 210 (seiliau rheoli ystad), neu

(b)gwneud penderfyniad o dan adran 211 i ohirio achos ar hawliad meddiant neu ohirio ildio meddiant.

2Rhaid i’r llys, wrth benderfynu a yw’n rhesymol gwneud gorchymyn neu benderfyniad o’r fath, neu wrth wneud unrhyw benderfyniad arall sydd ar gael iddo (ymysg pethau eraill), roi sylw i’r amgylchiadau a nodir ym mharagraffau 4 i 13 i’r graddau y mae’r llys o’r farn eu bod yn berthnasol (ac i’r graddau nad yw’n ofynnol fel arall iddo roi sylw i’r materion hynny; er enghraifft, o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 (p. 42)).

3Mae paragraff 14 yn dynodi amgylchiad, sy’n ymwneud â chymorth gan awdurdodau lleol mewn perthynas â digartrefedd, na ddylai’r llys roi sylw iddo (yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad i roi sylw i’r amgylchiad hwnnw y mae’r llys yn ddarostyngedig iddo).

Amgylchiadau o ran deiliad y contract

4Effaith debygol y gorchymyn neu’r penderfyniad ar ddeiliad y contract (ac ar unrhyw feddianwyr y caniateir iddynt feddiannu annedd).

5Os yw’r achos yn un lle y caniateir i’r llys benderfynu gohirio ildio meddiant, y tebygolrwydd y bydd deiliad y contract yn cydymffurfio ag unrhyw delerau a all gael eu gosod.

Amgylchiadau o ran y landlord

6Effaith debygol peidio â gwneud y gorchymyn, neu’r penderfyniad, ar fuddiannau’r landlord, gan gynnwys buddiannau ariannol y landlord.

7Os yw’r landlord yn landlord cymunedol, effaith debygol peidio â gwneud y gorchymyn, neu’r penderfyniad, ar allu’r landlord i gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â thai, gan gynnwys cynorthwyo personau eraill sydd angen llety.

Amgylchiadau o ran personau eraill

8(1)Effaith debygol y gorchymyn neu’r penderfyniad ar—

(a)deiliaid contractau a meddianwyr y caniateir iddynt feddiannu anheddau eraill y landlord,

(b)personau sydd wedi gofyn i’r landlord ddarparu llety tai iddynt, ac

(c)personau sy’n byw, yn ymweld neu fel arall yn ymgymryd â gweithgaredd cyfreithlon yn yr ardal (a phersonau sy’n dymuno byw, ymweld neu ymgymryd â gweithgareddau cyfreithlon yn yr ardal).

(2)Os gwneir hawliad meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract), effaith debygol yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 10 ar y personau a grybwyllir yn is-baragraff (1).

Contract meddiannaeth newydd wedi ei gynnig

9Pa un a yw’r landlord wedi cynnig neu’n ymrwymo i gynnig contract meddiannaeth newydd (boed ar gyfer yr un annedd neu anheddau eraill) i un neu ragor o’r personau sy’n meddiannu’r annedd neu’n byw yn yr annedd.

Amgylchiadau mewn perthynas â hawliad meddiant ar sail tor contract

10Os gwneir hawliad meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract)—

(a)natur, amlder neu hyd y tor contract neu’r toriadau contract,

(b)y graddau y mae deiliad y contract (neu feddiannydd y caniateir iddo feddiannu’r annedd) yn gyfrifol am y toriad,

(c)pa mor debygol yw hi y bydd y toriad yn ailddigwydd, a

(d)unrhyw gamau i ddod â’r toriad i ben, neu i’w atal rhag ailddigwydd, a gymerwyd gan y landlord cyn gwneud hawliad meddiant.

Amgylchiadau mewn perthynas â hawliad meddiant yn ymwneud ag adran 55

11Os yw’r landlord yn gwneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar dorri adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall), budd y cyhoedd yn gyffredinol mewn atal yr ymddygiad y mae’r adran honno yn ei wahardd.

Amgylchiadau yn ymwneud â Sail G o’r seiliau rheoli ystad

12Os yw’r landlord yn gwneud hawliad meddiant gan ddibynnu’n llwyr neu’n rhannol ar Sail G o’r seiliau rheoli ystad (olynydd wrth gefn heb fod angen llety)—

(a)oedran deiliad y contract a olynodd i’r contract meddiannaeth o dan adran 73,

(b)y cyfnod y mae deiliad y contract wedi meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref, ac

(c)unrhyw gymorth ariannol neu gymorth arall a roddodd deiliad y contract i’r deiliad contract a fu farw (neu, os oedd y deiliad contract a fu farw yn olynydd i ddeiliad contract blaenorol, i’r deiliad contract blaenorol hwnnw).

Amgylchiadau yn ymwneud â Sail H o’r seiliau rheoli ystad

13Os yw’r landlord yn gwneud hawliad meddiant gan ddibynnu’n llwyr neu’n rhannol ar Sail H o’r seiliau rheoli ystad (cyd-ddeiliad contract yn ymadael)—

(a)oedran y deiliad contract sy’n weddill (neu bob un o’r deiliaid contract sy’n weddill ), a

(b)y cyfnod y mae’r deiliad contract sy’n weddill (neu bob un o’r deiliaid contract sy’n weddill) wedi meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

Cymorth mewn perthynas â digartrefedd heb fod yn berthnasol

14Nid yw’r tebygolrwydd y rhoddir cymorth i berson o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) neu Ran 7 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (digartrefedd) yn amgylchiad perthnasol (yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad i roi sylw i’r amgylchiad hwnnw y mae’r llys yn ddarostyngedig iddo).