Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

(a gyflwynir gan adran 4)

ATODLEN 1TROSOLWG O DDARPARIAETHAU SYLFAENOL A YMGORFFORIR FEL TELERAU CONTRACTAU MEDDIANNAETH

This schedule has no associated Explanatory Notes

RHAN 1CONTRACTAU DIOGEL

TABL 3

DARPARIAETH SYLFAENOLNATUR Y DDARPARIAETHNODIADAU
Adran 31Rhaid i landlord (“L”) roi datganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth i ddeiliad contract (“D-C”)
Adrannau 39 a 40 Rhaid i L roi enw a chyfeiriad L i D-C ynghyd â gwybodaeth arall
Adran 41Rhaid i hysbysiadau a dogfennau fod mewn ysgrifen
Adrannau 43 a 45Talu blaendaliadau etc. a’r gofyniad bod L yn defnyddio cynllun blaendal awdurdodedigRhaid ymgorffori adran 45 heb ei haddasu.
Adran 49Caniateir i D-C, gyda chydsyniad L, ychwanegu cyd D-C
Adran 52Hawliau cyd D-C pan fo cyd D-C arall yn marw neu’n gadael y contract fel arallRhaid ei hymgorffori heb ei haddasu.
Adran 54Rhaid i L beidio ag ymyrryd â hawl D-C i feddiannu’r annedd
Adran 55Ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arallRhaid ei hymgorffori heb ei haddasu.
Adran 57Ni chaniateir i D-C ddelio â’r contract meddiannaeth ond mewn ffyrdd cyfyngedig
Adran 88Caniateir i D-C osod tâl digolledu y mae L yn atebol i’w dalu o dan adran 87 yn erbyn rhent D-C
Adrannau 91 i 93 a 95 i 99Rhwymedigaethau L i gadw’r annedd mewn cyflwr da etc.
Adrannau 103 i 109Pryd a sut y caniateir amrywio contractRhaid ymgorffori adrannau 103(1)(b) a (2) a 108 heb eu haddasu. Nid yw adran 104 ond yn gymwys i gontractau y mae rhent yn daladwy oddi tanynt, ac nid yw adran 105 ond yn gymwys i gontractau y mae cydnabyddiaeth heblaw am rhent yn daladwy oddi tanynt.
Adran 111Cyd D-C yn tynnu’n ôl
Adran 113Caniateir i D-C gael lletywyr
Adran 114Caniateir i D-C drosglwyddo contract i olynwyr posibl
Adran 118Hawl D-C i drosglwyddo i D-C diogel eraillOnd yn gymwys pan fo L yn landlord cymunedol.
Adrannau 148 i 150Darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â therfynu contractRhaid ymgorffori adrannau 148 a 149 heb eu haddasu.
Adrannau 152 i 155Terfynu heb hawliad meddiantRhaid ymgorffori adran 155 (marwolaeth D-C) heb ei haddasu.
Adrannau 157 i 159Terfynu gan L ar sail tor contract
Adrannau 160 a 161 a Rhan 1 o Atodlen 8Terfynu gan L ar sail rheoli ystad
Adrannau 163 i 167Terfynu drwy hysbysiad a roddir gan D-C
Adran 206Effaith gorchymyn adennill meddiant
Adran 231Terfynu contract sydd â chyd D-C

RHAN 2CONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL

TABL 4

DARPARIAETH SYLFAENOLNATUR Y DDARPARIAETHNODIADAU
Adran 31Rhaid i landlord (“L”) roi datganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth i ddeiliad contract (“D-C”)
Adrannau 39 a 40Rhaid i L roi enw a chyfeiriad L i D-C ynghyd â gwybodaeth arall
Adran 41Rhaid i hysbysiadau a dogfennau fod mewn ysgrifen
Adrannau 43 a 45Talu blaendaliadau etc. a’r gofyniad bod L yn defnyddio cynllun blaendal awdurdodedigRhaid ymgorffori adran 45 heb ei haddasu.
Adran 49Caniateir i D-C, gyda chydsyniad L, ychwanegu cyd D-C
Adran 52Hawliau cyd D-C pan fydd cyd D-C arall yn marw neu’n gadael y contract fel arallRhaid ei hymgorffori heb ei haddasu.
Adran 54Rhaid i L beidio ag ymyrryd â hawl D-C i feddiannu’r annedd
Adran 55Ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arallRhaid ei hymgorffori heb ei haddasu.
Adran 57Ni chaniateir i D-C ddelio â’r contract meddiannaeth ond mewn ffyrdd cyfyngedig
Adran 88Caniateir i D-C osod tâl digolledu y mae L yn atebol i’w dalu o dan adran 87 yn erbyn rhent D-C
Adrannau 91 i 93 a 95 i 99Rhwymedigaethau L i gadw’r annedd mewn cyflwr da etc.
Adrannau 122 i 128Pryd a sut y caniateir amrywio’r contractRhaid ymgorffori adrannau 122(1)(a) a (2) a 127 heb eu haddasu. Nid yw adran 123 ond yn gymwys i gontractau y mae rhent yn daladwy oddi tanynt, ac nid yw adran 124 ond yn gymwys i gontractau y mae cydnabyddiaeth heblaw am rhent yn daladwy oddi tanynt. Nid yw adrannau 125(1)(b) a 126 wedi eu hymgorffori i gontractau nad ydynt yn ymgorffori adran 173 (hysbysiad L).
Adran 130Cyd D-C yn tynnu’n ôl
Adran 145Hawl L i wahardd D-C dros dro o lety â chymorthOnd yn gymwys i gontractau safonol â chymorth (gweler adran 143).
Adrannau 148 i 150Darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â therfynu contractRhaid ymgorffori adrannau 148 a 149 heb eu haddasu.
Adran 151Darpariaeth bellach ynghylch hysbysiadau sy’n eu gwneud yn ofynnol i ddeiliad-contract ildio meddiantOnd yn gymwys i gontractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig.
Adrannau 152 i 155Terfynu heb hawliad meddiantRhaid ymgorffori adran 155 (marwolaeth D-C) heb ei haddasu.
Adrannau 157 i 159Terfynu gan L ar sail tor contractRhaid ymgorffori adran 158 (cymell L i wneud contract drwy ddatganiad ffug) heb ei haddasu.
Adrannau 160 a 161 a Rhan 1 o Atodlen 8Terfynu gan L ar sail rheoli ystad
Adrannau 168 i 172Terfynu drwy hysbysiad a roddir gan D-C
Adrannau 173 i 180Terfynu drwy hysbysiad a roddir gan LOs nad yw adran 173 yn cael ei hymgorffori, nid yw adrannau 125(1)(b), 126, 175 a 176 yn gymwys. Nid yw adran 175 ychwaith yn gymwys i gontract sydd o fewn Atodlen 9. Os yw contract yn ymgorffori adran 173 ac nad yw o fewn Atodlen 9, rhaid ymgorffori adran 175 heb ei haddasu. Os yw contract yn ymgorffori adran 173, rhaid ymgorffori adran 176 heb ei haddasu.
Adrannau 181 a 182Terfynu gan L ar sail ôl-ddyledion rhent difrifolYn adran 182, nid yw is-adran (2) yn gymwys i gontractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig, ac nid yw is-adran (3) ond yn gymwys i gontractau o’r fath.
Adran 183Hawliadau meddiant pan fo contract yn bodoli yn sgil diwedd contract safonol cyfnod penodolOnd yn gymwys i gontract sydd yn bodoli yn sgil diwedd contract safonol cyfnod penodol (gweler adran 184(2)).
Adran 206Effaith gorchymyn adennill meddiant
Adran 231Terfynu contract sydd â chyd D-C
Paragraff 7 o Atodlen 4Amrywio contract diogel yr ymdrinnir ag ef mewn datganiad ysgrifenedig o gontract safonol rhagarweiniolNid yw ond yn gymwys i gontractau safonol rhagarweiniol pan fo’r datganiad ysgrifenedig yn ymdrin â’r contract diogel a allai godi ar ddiwedd y cyfnod rhagarweiniol, yn unol â pharagraff 6(2) o Atodlen 4.

RHAN 3CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL

TABL 5

DARPARIAETH SYLFAENOLNATUR Y DDARPARIAETHNODIADAU
Adran 31Rhaid i landlord (“L”) roi datganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth i ddeiliad contract (“D-C”)
Adrannau 39 a 40Rhaid i L roi enw a chyfeiriad L i D-C ynghyd â gwybodaeth arall
Adran 41Rhaid i hysbysiadau a dogfennau fod mewn ysgrifen
Adrannau 43 a 45Talu blaendaliadau etc. a’r gofyniad bod L yn defnyddio cynllun blaendal awdurdodedigRhaid ymgorffori adran 45 heb ei haddasu.
Adran 49Caniateir i D-C, gyda chydsyniad L, ychwanegu cyd D-C
Adran 52Hawliau cyd D-C pan fydd cyd D-C arall yn marw neu’n gadael y contract fel arallRhaid ei hymgorffori heb ei haddasu.
Adran 54Rhaid i L beidio ag ymyrryd â hawl D-C i feddiannu’r annedd
Adran 55Ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arallRhaid ei hymgorffori heb ei haddasu.
Adran 57Ni chaniateir i D-C ddelio â’r contract meddiannaeth ond mewn ffyrdd cyfyngedig
Adran 88Caniateir i D-C osod tâl digolledu y mae L yn atebol i’w dalu o dan adran 87 yn erbyn rhent D-C
Adrannau 91 i 93 a 95 i 99Rhwymedigaethau L i gadw annedd mewn cyflwr da etc.Nid yw’n gymwys i gontractau safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o saith mlynedd neu ragor.
Adrannau 134 i 136Pryd a sut y caniateir amrywio contractRhaid ymgorffori adrannau 134(1)(b) a (2) a 135 heb eu haddasu. Nid yw adran 135(2)(k) ond yn gymwys os oes gan gontract gymal terfynu deiliad y contract (gweler adran 189).
Adran 145Hawl L i wahardd D-C dros dro o lety â chymorthOnd yn gymwys i gontractau safonol â chymorth (gweler adran 143).
Adrannau 148 i 150Darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â therfynu contractRhaid ymgorffori adrannau 148 a 149 heb eu haddasu.
Adrannau 152 i 155Terfynu heb hawliad meddiantRhaid ymgorffori adran 155 (marwolaeth D-C) heb ei haddasu (ond nid i gontractau safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys y ddarpariaeth a grybwyllir yn adran 139(1)).
Adrannau 157 i 159Terfynu gan L ar sail tor contractRhaid ymgorffori adran 158 (cymell L i wneud contract drwy ddatganiad ffug) heb ei haddasu.
Adrannau 160 a 161 a Rhan 1 o Atodlen 8Terfynu gan L ar sail rheoli ystad
Adran 186Terfynu drwy hysbysiad a roddir gan L mewn cysylltiad â diwedd cyfnod y contractNid yw is-adrannau (2) a (4) o adran 186 yn gymwys i gontract nad yw’n ymgorffori is-adran (1), neu i gontract sydd o fewn Atodlen 9. Os yw contract yn ymgorffori is-adran (1) ac nad yw o fewn Atodlen 9, rhaid ymgorffori is-adrannau (2) a (4) heb eu haddasu.
Adrannau 187 a 188Terfynu gan L ar sail ôl-ddyledion rhent difrifol
Adrannau 190 i 193Terfynu drwy hysbysiad a roddir gan D-C o dan gymal terfynu deiliad y contractNid yw ond yn gymwys os yw’r contract yn cynnwys cymal terfynu deiliad y contract.
Adrannau 195 i 201Terfynu drwy hysbysiad a roddir gan L o dan gymal terfynu’r landlordNid yw ond yn gymwys os yw’r contract yn cynnwys cymal terfynu’r landlord. Nid yw adran 196 ychwaith yn gymwys i gontract sydd o fewn Atodlen 9. Os oes gan gontract gymal terfynu’r landlord ac nad yw o fewn Atodlen 9, rhaid ymgorffori adran 196 heb ei haddasu. Os yw’r contract yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, rhaid ymgorffori adran 196 (torri’r rheolau blaendal) heb ei haddasu.
Adran 206Effaith gorchymyn adennill meddiant
Adran 231Terfynu contract sydd â chyd D-C