xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9LL+CTERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))

PENNOD 7LL+CTERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL

Cymal terfynu’r landlordLL+C

194Cymal terfynu’r landlordLL+C

(1)Caiff contract safonol cyfnod penodol [F1sydd o fewn is-adran (1A)] gynnwys teler sy’n galluogi’r landlord i derfynu’r contract cyn diwedd y cyfnod penodol drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract y bydd yn rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

[F2(1A)Mae contract safonol cyfnod penodol o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw wedi ei wneud am gyfnod o ddwy flynedd neu ragor, neu

(b)os yw o fewn Atodlen 9C (pa un a yw wedi ei wneud am gyfnod o ddwy flynedd neu ragor ai peidio).]

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at gymal terfynu’r landlord, mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol, yn gyfeiriadau at y teler a grybwyllir yn is-adran (1).

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C2A. 194 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 98A (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(6))

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 194 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 194 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

195Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateirLL+C

(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord fod yn llai na [F3chwe mis] ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

[F4(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol—

(a)nad ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, neu

(b)sydd o fewn Atodlen 8A (pa un a ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord ai peidio).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 195 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4A. 195 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F5195AY cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir: contractau safonol cyfnod penodol sydd o fewn Atodlen 8ALL+C

(1)Os yw contract safonol cyfnod penodol o fewn Atodlen 8A, ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd—

(a)yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, a

(b)o fewn Atodlen 8A.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 195A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

196[F6Cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord tan ar ôl 18 mis cyntaf meddiannaeth]LL+C

(1)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord cyn diwedd y cyfnod o [F718 mis] sy’n dechrau â diwrnod meddiannu’r contract.

F8(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F9(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol—

(a)nad ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, neu

(b)sydd o fewn Atodlen 9 (pa un a ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord ai peidio),

F10...

Diwygiadau Testunol

F6Pennawd A. 196 wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 5(2), 19(3)

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 196 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I7A. 196 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F11197Cyfyngiadau ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord: torri rhwymedigaethau statudolLL+C

Mae Atodlen 9A yn gosod cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord, sy’n ymwneud â thorri rhwymedigaethau statudol penodol.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 197 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I9A. 197 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F12198Cyfyngiad ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord yn dilyn hawliad meddiant dialgarLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—

(a)landlord (ar ôl rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan gymal terfynu’r landlord) wedi gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 199, a

(b)y llys wedi gwrthod gwneud gorchymyn adennill meddiant gan ei fod o’r farn bod yr hawliad yn hawliad dialgar (gweler adran 217).

(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan gymal terfynu’r landlord i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwrthododd y llys wneud gorchymyn adennill meddiant.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 198 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I11A. 198 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

199Adennill meddiantLL+C

(1)Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan gymal terfynu’r landlord, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd, oni bai bod adran 217 (troi allan dialgar) yn gymwys (ac yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 199 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I13A. 199 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

200Cyfyngiad ar adran 199LL+C

(1)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 199—

(a)cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad y rhoddodd y landlord i ddeiliad y contract o dan gymal terfynu’r landlord, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 200 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I15A. 200 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

201Terfynu contract o dan gymal terfynu’r landlordLL+C

(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—

(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu

(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.

(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os [F13

(a)yw’r landlord, cyn i’r contract ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad, yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, neu

(b)cyn i’r contract ddod i ben, ac ar ôl y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad—

(i)yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, a

(ii)nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.]

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 201 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I17A. 201 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2