xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7DARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL

PENNOD 5DELIO: TROSGLWYDDIADAU

Un deiliad contract

139Trosglwyddiad ar farwolaeth unig ddeiliad contract

(1)Caiff contract safonol cyfnod penodol ddarparu y gellir trosglwyddo contract ar farwolaeth unig ddeiliad contract wrth weinyddu ystad deiliad y contract.

(2)Nid yw adran 73 (yr hawl i olynu) yn gymwys i gontract safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys darpariaeth o’r fath.

(3)Nid yw adran 155 (terfynu contract yn dilyn marwolaeth) wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys darpariaeth o’r fath.

Cyd-ddeiliaid contract

140Trosglwyddiadau a orfodir

(1)Caiff contract safonol cyfnod penodol ddarparu y caiff un cyd-ddeiliad contract neu ragor ohonynt (os oes rhai) ei gwneud yn ofynnol i’r cyd-ddeiliad contract arall neu’r cyd-ddeiliaid contract eraill ymuno mewn trosglwyddiad o’r contract yn unol â’r contract.

(2)Os yw’r contract yn cynnwys darpariaeth o’r fath, caiff y cyd-ddeiliad neu’r cyd-ddeiliaid contract sy’n dymuno trosglwyddo’r contract meddiannaeth wneud cais i’r llys am orchymyn fod y cyd-ddeiliad contract arall neu’r cyd-ddeiliaid contract eraill yn ymuno yn y trosglwyddiad.

(3)Caiff y llys wneud y gorchymyn y gwnaed cais amdano os yw o’r farn bod hynny’n briodol.

141Buddiant cyd-ddeiliad contract

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw contract safonol cyfnod penodol yn darparu y caiff cyd-ddeiliad contract drosglwyddo ei hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract.

(2)Rhaid i’r contract hefyd ddarparu na chaniateir trosglwyddo oni bai bod y trosglwyddwr yn rhoi hysbysiad i’r cyd-ddeiliaid contract eraill y gwneir trosglwyddiad.

(3)Rhaid i’r contract hefyd ddarparu nad oes gan y trosglwyddai hawl i feddiannu’r annedd heb gydsyniad y cyd-ddeiliaid contract eraill.

142Trosglwyddo ar farwolaeth cyd-ddeiliad contract

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw contract safonol cyfnod penodol yn darparu y caniateir, ar farwolaeth cyd-ddeiliad contract, trosglwyddo ei hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract wrth weinyddu ei ystad.

(2)Rhaid i’r contract hefyd ddarparu na chaniateir gwneud trosglwyddiad oni bai bod cyd-ddeiliad y contract yn rhoi hysbysiad i’r cyd-ddeiliaid contract eraill, cyn ei farwolaeth, y gwneir trosglwyddiad o’r fath.

(3)Rhaid i’r contract hefyd ddarparu nad oes gan y trosglwyddai hawl i feddiannu’r annedd heb gydsyniad y cyd-ddeiliaid contract eraill.