xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mewn unrhyw achos am dorri rhwymedigaeth atgyweirio o dan gontract meddiannaeth, caiff y llys orchymyn bod y rhwymedigaeth yn cael ei chyflawni’n llythrennol er gwaethaf unrhyw reol ecwitïol sy’n cyfyngu ar argaeledd y rhwymedi hwnnw.
(2)Y rhwymedigaethau atgyweirio yw—
(a)rhwymedigaethau i atgyweirio unrhyw eiddo (neu i gadw eiddo mewn cyflwr da neu sicrhau ei fod ar gael mewn cyflwr da), neu i’w gynnal, ei adnewyddu, ei adeiladu neu ei amnewid, a
(b)rhwymedigaethau i gadw unrhyw annedd mewn cyflwr ffit i bobl fyw ynddi sut bynnag y mynegir hynny,
ac maent yn cynnwys rhwymedigaethau’r landlord o dan adrannau 91 a 92.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 100 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 100 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
(1)Nid yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn atebol am unrhyw wast o ran yr annedd.
(2)Nid yw’r rheol gyfreithiol bod dyletswydd oblygedig ar denant i ymddwyn fel tenant wrth ddefnyddio annedd sydd ar les (yn yr ystyr sydd i “tenant-like user” yn ôl y gyfraith gyffredin) yn gymwys i ddeiliad contract os yw’r denantiaeth yn gontract meddiannaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 101 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I4A. 101 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2