RHAN 4CYFLWR ANHEDDAU

PENNOD 2CYFLWR ANHEDDAU

(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT DIOGEL, POB CONTRACT SAFONOL CYFNODOL A PHOB CONTRACT SAFONOL CYFNOD PENODOL A WNEIR AM GYFNOD O LAI NA SAITH MLYNEDD)

Cyfyngiadau ar rwymedigaethau’r landlord o dan y Bennod hon

95Cyfyngiadau ar adrannau 91 a 92: cyffredinol

1

Nid yw adran 91(1) yn gosod unrhyw atebolrwydd ar landlord mewn perthynas ag annedd nad yw’r landlord yn gallu ei gwneud yn ffit i bobl fyw ynddi am gost resymol.

2

Nid yw adrannau 91(1) a 92(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord—

a

cadw mewn cyflwr da unrhyw beth y mae gan ddeiliad y contract hawl mynd ag ef o’r annedd, na

b

ailadeiladu neu adfer cyflwr yr annedd neu unrhyw ran ohoni, os caiff ei dinistrio neu ei difrodi gan achos perthnasol.

3

Os yw’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, nid yw adrannau 91(1) a 92(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord ailadeiladu nac adfer cyflwr unrhyw ran arall o’r adeilad y mae gan y landlord ystad neu fuddiant ynddi, os caiff ei dinistrio neu ei difrodi gan achos perthnasol.

4

Tân, storm, llifogydd neu unrhyw ddamwain anochel arall yw’r achosion perthnasol.

5

Nid yw adran 92(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord wneud gwaith nac atgyweiriadau oni bai bod y methiant i gadw mewn cyflwr da, neu’r methiant i gadw mewn cyflwr sy’n gweithio’n iawn, yn effeithio ar fwynhad deiliad y contract—

a

o’r annedd, neu

b

o’r rhannau cyffredin y mae gan ddeiliad y contract hawl i’w defnyddio o dan y contract meddiannaeth.

6

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

96Cyfyngiadau ar adrannau 91 a 92: bai deiliad y contract

1

Nid yw adran 91(1) yn gosod unrhyw atebolrwydd ar y landlord os nad yw’r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi yn llwyr neu’n bennaf oherwydd gweithred neu anwaith (gan gynnwys gweithred neu anwaith sy’n gyfystyr â diffyg gofal) ar ran deiliad y contract neu feddiannydd a ganiateir i feddiannu’r annedd.

2

Nid oes rhwymedigaeth ar y landlord yn sgil adran 92(1) na (2) i wneud gwaith nac atgyweiriadau os gellir priodoli’r methiant i gadw mewn cyflwr da, neu fethiant gosodiad gwasanaeth i weithio, yn llwyr neu’n bennaf i ddiffyg gofal ar ran deiliad y contract neu feddiannydd a ganiateir i feddiannu’r annedd.

3

Ystyr “diffyg gofal” yw methu â gofalu’n briodol—

a

am yr annedd, neu

b

os yw’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, am y rhannau cyffredin y mae gan ddeiliad y contract hawl i’w defnyddio o dan y contract meddiannaeth.

4

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

97Cyfyngiadau ar adrannau 91 a 92: hysbysiad

1

Nid yw rhwymedigaethau’r landlord o dan adrannau 91(1)(b) a 92(1) a (2) yn codi hyd nes bod y landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) yn dod i wybod bod angen gwaith neu atgyweiriadau.

2

Mae’r landlord yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau o dan y darpariaethau hynny os yw’n gwneud y gwaith neu’r atgyweiriadau angenrheidiol o fewn cyfnod rhesymol ar ôl y diwrnod y daw’r landlord i wybod bod ei angen neu eu hangen.

3

Mae is-adran (4) yn gymwys—

a

os yw’r landlord (yr “hen landlord”) yn trosglwyddo buddiant yr hen landlord yn yr annedd i berson arall (y “landlord newydd”), a

b

os yw’r hen landlord (neu os dau neu ragor o bersonau ar y cyd yw’r hen landlord, unrhyw un ohonynt) yn gwybod cyn dyddiad y trosglwyddiad bod gwaith neu atgyweiriadau’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio ag adran 91(1) neu 92(1) neu (2).

4

Mae’r landlord newydd i’w drin fel pe bai’n dod i wybod bod angen y gwaith hwnnw neu’r atgyweiriadau hynny ar ddyddiad y trosglwyddiad, ond nid cyn hynny.

5

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.