xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CDARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 9LL+CCYDSYNIAD Y LANDLORD

84Cydsyniad y landlord: rhesymoldebLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o delerau contract meddiannaeth nad yw ond yn caniatáu i rywbeth gael ei wneud â chydsyniad y landlord.

(2)Ni chaiff y landlord—

(a)gwrthod cydsyniad yn afresymol, na

(b)cydsynio yn ddarostyngedig i amodau afresymol.

(3)Rhaid i gais am gydsyniad y landlord gael ei wneud mewn ysgrifen, ac mae cyfeiriadau yn yr adran hon at gais yn gyfeiriadau at gais ysgrifenedig.

(4)Caiff y landlord ofyn am wybodaeth i’w alluogi i ymdrin â chais; ond ni chaiff y landlord wneud hynny ar ôl diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y cais.

(5)Os yw’r landlord yn gofyn am wybodaeth nad yw’n rhesymol iddo ofyn amdani, mae’r landlord i’w drin fel pe na bai wedi gofyn am yr wybodaeth honno.

(6)Os nad yw’r landlord yn rhoi cydsyniad mewn ysgrifen nac yn gwrthod cydsyniad mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod perthnasol, mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi cydsynio heb amodau.

(7)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o fis sy’n dechrau ar ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—

(a)y diwrnod y gwneir y cais am gydsyniad, neu

(b)os yw’r landlord yn gofyn am wybodaeth yn unol ag is-adran (4), y diwrnod y darperir yr wybodaeth.

(8)Os yw’r landlord yn cydsynio yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o’r amodau i ddeiliad y contract ar yr un pryd ag y mae’n cydsynio; ac os nad yw’r landlord yn gwneud hynny, mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi cydsynio heb amodau.

(9)Os yw’r landlord yn gwrthod cydsynio neu’n cydsynio yn ddarostyngedig i amodau, caiff y person a wnaeth y cais ofyn am ddatganiad ysgrifenedig o resymau’r landlord.

(10)Os nad yw’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r rhesymau cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y gofynnir am y datganiad, mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi cydsynio heb amodau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 84 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 84 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

85Cais i’r llys yn ymwneud â chydsyniadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r landlord, o dan adran 84, yn rhoi datganiad ysgrifenedig o resymau dros wrthod cydsynio neu dros gydsynio yn ddarostyngedig i amodau.

(2)Caiff y person a wnaeth y cais am gydsyniad wneud cais i’r llys ar y sail—

(a)ei bod yn afresymol bod y landlord wedi gwrthod cydsynio, neu

(b)bod un neu ragor o’r amodau a osodwyd yn afresymol.

(3)Os yw’r llys yn fodlon bod y sail yn is-adran (2)(a) wedi ei phrofi caiff ddatgan bod y landlord wedi gwrthod cydsyniad yn afresymol, a chaiff hefyd—

(a)datgan bod y landlord i’w drin fel pe bai wedi cydsynio heb amodau, neu

(b)cyfarwyddo’r landlord i ailystyried y cais am gydsyniad.

(4)Os yw’r llys yn fodlon bod y sail yn is-adran (2)(b) wedi ei phrofi caiff ddatgan bod un neu ragor o’r amodau yn afresymol, a chaiff hefyd—

(a)datgan bod y landlord i’w drin fel pe bai wedi cydsynio heb amodau neu’n ddarostyngedig i’r amodau hynny nas datganwyd yn afresymol, neu

(b)cyfarwyddo’r landlord i ailystyried y cais am gydsyniad.

(5)Os yw’r llys yn gwneud datganiad o dan is-adran (3) neu (4) caiff wneud unrhyw orchymyn arall y mae’n ei ystyried yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 85 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4A. 85 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

86Cydsyniad y landlord: amseriadLL+C

(1)Os yw teler mewn contract meddiannaeth yn caniatáu i rywbeth gael ei wneud gyda chydsyniad y landlord, caiff y landlord gydsynio ar ôl i’r peth gael ei wneud.

(2)Ond nid yw hyn yn gymwys i—

(a)adran 49 (ychwanegu cyd-ddeiliad contract), neu

(b)unrhyw deler o’r contract meddiannaeth sy’n caniatáu trosglwyddo’r contract, neu drosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract o dan y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 86 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I6A. 86 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2