xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2CONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID

PENNOD 2NATUR CONTRACTAU Y GALL LANDLORDIAID CYMUNEDOL A LANDLORDIAID PREIFAT EU GWNEUD ETC.

Diffiniadau

9Landlordiaid cymunedol

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “landlord cymunedol” yw landlord sydd yn—

(a)awdurdod a grybwyllir yn is-adran (2),

(b)landlord cymdeithasol cofrestredig, heblaw cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol neu gymdeithas dai gydweithredol, neu

(c)darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig (gweler adran 80(3) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17)).

(2)Yr awdurdodau yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corfforaeth dref newydd;

(c)ymddiriedolaeth gweithredu tai;

(d)corfforaeth datblygu trefol;

(e)cydweithrediaeth tai y mae is-adran (3) yn gymwys iddi.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i gydweithrediaeth tai (o fewn ystyr adran 27B o Ddeddf Tai 1985 (p. 68)) i’r graddau y mae unrhyw annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth wedi ei chynnwys mewn cytundeb cydweithrediaeth tai o fewn ystyr yr adran honno.

(4)Yn y Ddeddf hon, ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” yw person a gofrestrwyd ar y gofrestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(5)Yn y Ddeddf hon, mae i “cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol” a “cymdeithas dai gydweithredol” yr un ystyr ag a roddir i “fully mutual housing association” a “co-operative housing association” yn Neddf Cymdeithasau Tai 1985 (p. 69) (gweler adran 1(2) o’r Ddeddf honno).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau at ddiben—

(a)darparu nad yw person sydd ar y pryd yn landlord cymunedol yn landlord cymunedol;

(b)darparu bod person nad yw’n landlord cymunedol yn landlord cymunedol;

(c)newid disgrifiad o berson sydd ar y pryd yn landlord cymunedol.

10Landlordiaid preifat

Yn y Ddeddf hon, ystyr “landlord preifat” yw landlord nad yw’n landlord cymunedol.

Contractau a wneir â landlordiaid cymunedol neu a fabwysiedir ganddynt

11Contract a wneir â landlord cymunedol

(1)Mae contract meddiannaeth a wneir â landlord cymunedol yn gontract diogel oni bai bod un o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys.

(2)Mae’r eithriad cyntaf yn gymwys—

(a)os yw’r contract meddiannaeth o fewn Atodlen 3 (contractau meddiannaeth a wneir gyda landlordiaid cymunedol y caniateir iddynt fod yn gontractau safonol),

(b)os yw’r landlord, cyn gwneud y contract neu ar adeg gwneud y contract, yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 13 (hysbysiad contract safonol), ac

(c)os nad oes unrhyw eithriad arall yn gymwys.

(3)Mae’r ail eithriad yn gymwys os caiff y contract ei wneud o ganlyniad i orchymyn o dan adran 116 (contract safonol ymddygiad gwaharddedig).

(4)Mae’r trydydd eithriad yn gymwys os yw’r contract yn bodoli yn sgil adran 184(2) neu os yw o fewn adran 184(6) (contractau ar ddiwedd cyfnod penodol).

(5)Mae’r pedwerydd eithriad yn gymwys os yw’r contract yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n bodoli yn sgil adran 238 (tenantiaethau a thrwyddedau goblygedig).

(6)Mae adran 16 yn gwneud darpariaeth bellach am gontractau y mae’r eithriad cyntaf yn gymwys iddynt am fod y contract o fewn paragraff 3 o Atodlen 3 (contractau safonol rhagarweiniol).

12Contract a fabwysiedir gan landlord cymunedol

(1)Os yw landlord cymunedol yn dod yn landlord o dan gontract diogel sydd eisoes yn bodoli, mae’r contract yn parhau fel contract diogel.

(2)Os yw landlord cymunedol yn dod yn landlord o dan gontract safonol sydd eisoes yn bodoli oherwydd trosglwyddiad o dan adran 62 neu 66 (trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau landlord o dan gontract isfeddiannaeth), mae’r contract yn parhau fel contract safonol.

(3)Os yw landlord cymunedol yn dod yn landlord o dan gontract safonol sydd eisoes yn bodoli, a hynny am unrhyw reswm arall, mae’r contract sydd eisoes yn bodoli—

(a)yn dod i ben pan fydd y landlord cymunedol yn dod yn landlord, a

(b)yn cael ei ddisodli gan gontract diogel sydd â dyddiad meddiannu sy’n dod yn union ar ôl i’r contract sydd eisoes yn bodoli ddod i ben,

oni bai bod un o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys.

(4)Mae’r eithriad cyntaf yn gymwys—

(a)os yw’r contract o fewn Atodlen 3 (contractau meddiannaeth a fabwysiedir gan landlord cymunedol),

(b)os yw’r landlord cymunedol, cyn iddo ddod yn landlord neu ar yr adeg y daw’n landlord, yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 13, ac

(c)os nad oes unrhyw eithriad arall yn gymwys.

(5)Mae’r ail eithriad yn gymwys os caiff y contract ei wneud o ganlyniad i orchymyn o dan adran 116 (contract safonol ymddygiad gwaharddedig).

(6)Mae’r trydydd eithriad yn gymwys os yw’r contract yn bodoli yn sgil adran 184(2) neu os yw o fewn adran 184(6) (contractau ar ddiwedd cyfnod penodol).

(7)Mae’r pedwerydd eithriad yn gymwys os yw’r contract yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n bodoli yn sgil adran 238 (tenantiaethau a thrwyddedau goblygedig).

(8)Mae’r pumed eithriad yn gymwys—

(a)os yw’r contract yn gontract safonol cyfnod penodol y talwyd premiwm ar ei gyfer, a

(b)os yw deiliad y contract, cyn i’r landlord cymunedol ddod yn landlord arno, yn penderfynu y dylai’r contract barhau i fod yn gontract safonol cyfnod penodol (mae adran 15 yn gwneud darpariaeth bellach am benderfyniadau o’r fath).

(9)Mae adran 16 yn gwneud darpariaeth bellach am gontractau y mae’r eithriad cyntaf yn gymwys iddynt am fod y contract o fewn paragraff 3 o Atodlen 3 (contractau safonol rhagarweiniol).

13Hysbysiad o gontract safonol

(1)Mae hysbysiad o dan yr adran hon yn hysbysiad—

(a)sy’n pennu’r paragraff o Atodlen 3, a’r disgrifiad o gontract meddiannaeth a nodir yn y paragraff hwnnw, y mae’r landlord yn dibynnu arno, a

(b)sy’n datgan bod y contract yn gontract safonol.

(2)Rhaid i’r hysbysiad hefyd hysbysu deiliad y contract o’i hawl i wneud cais am adolygiad o dan adran 14, ac erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.

14Adolygu hysbysiad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo landlord cymunedol yn rhoi hysbysiad o dan adran 13.

(2)Caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys sirol am adolygiad o benderfyniad y landlord i roi’r hysbysiad.

(3)Rhaid gwneud y cais cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad i ddeiliad y contract.

(4)Caiff y llys sirol roi caniatâd i gais gael ei wneud ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir gan is-adran (3), ond dim ond os yw’n fodlon—

(a)os ceisir caniatâd cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod rheswm da nad yw deiliad y contract yn gallu gwneud y cais mewn pryd, neu

(b)os ceisir caniatâd ar ôl hynny, bod rheswm da bod deiliad y contract wedi methu â gwneud y cais mewn pryd ac am unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd.

(5)Caiff y llys sirol gadarnhau’r penderfyniad i roi’r hysbysiad neu ei ddiddymu.

(6)Wrth ystyried a ddylai gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.

(7)Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad, caiff wneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.

(8)Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad ac os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract o dan adran 13 cyn diwedd y cyfnod ôl-adolygiad, mae’r hysbysiad yn cael effaith (heblaw at ddibenion is-adran (3)), fel pe bai wedi ei roi—

(a)mewn achos sydd o fewn adran 11, ar adeg gwneud y contract, neu

(b)mewn achos sydd o fewn adran 12, ar yr adeg y daeth y landlord cymunedol yn landlord.

(9)Y cyfnod ôl-adolygiad yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad.

15Hysbysiad o’r hawl i benderfynu parhau ar gontract safonol cyfnod penodol

(1)O leiaf fis cyn i landlord cymunedol ddod yn landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol y talwyd premiwm ar ei gyfer, rhaid i’r landlord cymunedol roi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan yr adran hon.

(2)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)hysbysu deiliad y contract o’i hawl o dan adran 12(8)(b) i benderfynu y dylai‘r contract barhau i fod yn gontract safonol cyfnod penodol, a’i hysbysu erbyn pryd y mae’n rhaid iddo wneud y penderfyniad, a

(b)egluro sut y bydd adran 12 yn gymwys i’r contract os nad yw deiliad y contract yn gwneud y penderfyniad.

16Contractau safonol rhagarweiniol

(1)Mae contract meddiannaeth sy’n gontract safonol am fod yr eithriad cyntaf yn adran 11 neu 12 yn gymwys ac am ei fod o fewn paragraff 3 o Atodlen 3 (contract meddiannaeth newydd a wneir â landlord cymunedol)—

(a)yn gontract safonol cyfnodol yn ystod y cyfnod rhagarweiniol, a

(b)os yw’n bodoli yn union cyn diwedd y cyfnod hwnnw—

(i)yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, a

(ii)yn cael ei ddisodli gan gontract diogel sydd â dyddiad meddiannu sy’n dod yn union ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

(2)Ond nid yw is-adran (1)(b) yn gymwys os yw cyfnod rhagarweiniol yn dod i ben oherwydd paragraff 1(6) o Atodlen 4 (landlord preifat yn dod yn landlord o dan y contract).

(3)Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfnodau rhagarweiniol ac ynghylch telerau contract diogel sy’n dod i fodolaeth yn sgil diwedd cyfnod rhagarweiniol.

(4)Yn y Ddeddf hon, ystyr “contract safonol rhagarweiniol” yw contract—

(a)sydd o fewn is-adran (1), a

(b)nad yw’r cyfnod rhagarweiniol sy’n berthnasol iddo wedi dod i ben.

Contractau a wneir â landlordiaid preifat neu a fabwysiedir ganddynt

17Contract a wneir â landlordiaid preifat neu a fabwysiedir ganddynt

(1)Mae contract meddiannaeth a wneir â landlord preifat yn gontract safonol oni bai bod y landlord, cyn neu ar adeg gwneud y contract, yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract sy’n datgan bod y contract yn gontract diogel.

(2)Os yw landlord preifat yn dod yn landlord o dan gontract diogel sydd eisoes yn bodoli, mae’r contract yn parhau i fod yn gontract diogel.

(3)Os yw landlord preifat yn dod yn landlord o dan gontract safonol sydd eisoes yn bodoli, mae’r contract yn parhau i fod yn gontract safonol.